×

Image filter options
Mae’r wefan hon yn newydd a dal yn cael ei datblygu.
Archwilio Erthyglau Cynfas Dysgu
Amdanom Ni OGGGC Cysylltwch â ni
en
ARCHWILIO ERTHYGLAU CYNFAS DYSGU AMDANOM NI OGGGC CYSYLLTWCH Â NI
Nôl Gwaith Celf Blaenorol Gwaith Celf Nesaf

Onse ac Alex, Copenhagen, Denmarc

SOBOL, Jacob Aue

© Jacob Aue Sobol / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch trwyddedu ac atgynhyrchu'r ddelwedd hon, cysylltwch â Magnum Photos: licensingall@magnumphotos.com
×

Wedi ei ysgrifennu ar gefn y gwaith hwn: "Pan fyddaf yn edrych ar fy silffoedd, dw i'n gweld dwsinau a dwsinau o ffolderi gyda negatifau ... projectau fel Sabine, Tokyo... ac yn dal heb eu cyhoeddi, The Gomez-Brito Family, Bangkok, Home. Dw i'n tynnu ffolder o Home — cannoedd o roliau, efallai miloedd o'r pum mlynedd diwethaf, y rhan fwyaf ohonynt heb eu gweld, y rhan fwyaf ohonynt byth i'w cyhoeddi. Dw i'n troi'r tudalennau. Mae lluniau o'r bobl dw i wedi cwrdd â nhw, lleoedd ac adeiladau'n ymddangos mewn llif cyson. Dyma a welais i’r diwrnod hwnnw; dyna sut roeddwn i'n teimlo. Yna dwi'n adnabod y croen: Onse ac Axel. Fydda i byth yn anghofio’r diwrnod hwnnw, y diwrnod y cwrddais ag Onse ac Axel, a'r cariad a wnaethant ei rannu. Mae Axel yn 90 oed. 'Mae'n rhaid i chi gwrdd â fy nghariad,' meddai, 'mae hi ddeng mlynedd yn hŷn na mi!' Mae'n dweud wrthyf am Onse a sut y gwnaethon nhw syrthio mewn cariad ar wyliau yn Bangkok. Mae'n fy ngwahodd i ymweld â nhw yn nhŷ Onse. Mae Onse yn 100 oed ac yn byw ar ei phen ei hun. Dydy hi erioed wedi bod yn briod. Arferai fod yn ffotograffydd ac roedd wedi teithio i bob cwr o’r byd. Mae hi'n dal i freuddwydio amdano. Maen nhw'n byw ar wahân, ond bob penwythnos mae Axel yn dod i ymweld â hi. Ar y dydd Sadwrn yma yng ngwanwyn 2010, maen nhw'n fy ngwahodd i mewn. Dw i'n tynnu llun ohonynt yn cofleidio ac yn anwesu ei gilydd. Mae gan Onse lawer o glwyfau ar ei chorff, felly mae Axel yn dyner iawn pan fydd yn ei chyffwrdd. Dw i'n clywed Onse yn mynegi ei chysur, yn griddfan gan lawenydd. Mae Axel yn dweud wrthyf y buon nhw’n dal i garu’n y gwely tan ddwy flynedd yn ôl, ond erbyn hyn mae gan Onse wely arbennig o'r ysbyty a does dim lle i Axel. ‘Ond rydyn ni'n dal i gusanu,’ meddai Axel. Ac felly maen nhw'n dechrau cusanu. Mae'r llun cyntaf yn teimlo'n iawn. Cyn i mi ddechrau meddwl. Cyn i mi ddechrau fframio. Cyn i mi ofyn iddyn nhw wneud hynny eto. Y gusan gyntaf yw'r gorau." — Jacob Aue Sobol


Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.

Manylion

Casgliadau

Amgueddfa Cymru

Rhif yr Eitem

NMW A 55423

Creu/Cynhyrchu

SOBOL, Jacob Aue
Dyddiad: 2014

Derbyniad

Gift, 25/4/2017
Donated by David Hurn, 2017

Mesuriadau

(): h(cm) image size:14.1
(): h(cm)
(): w(cm) image size:9.3
(): w(cm)
(): h(cm) paper size:15.2
(): w(cm) paper size:15.1

Techneg

Digital Pigment Print

Deunydd

Paper

Lleoliad

In store
Mwy

Tags

  • Cariad A Dyhead
  • Celf Gain
  • Cusan
  • Cwpl
  • Cysyniadau Ac Emosiynau
  • Ffotograff
  • Gweithiau Ar Bapur
  • Henaint
  • Mudiadau Celf A Dylunio
  • Sobol Jacob Aue

Rhannu

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Mwy fel hyn

Tailpiece for "In Parenthesis"
Tailpiece for "In Parenthesis"
JONES, David
© Ystâd David Jones. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
W is for Waitress
W is for Waitress
JONES, David
© Ystâd David Jones. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
INSEA Print
INSEA print
DAVIES, Geoff
© Geoff Davies/Amgueddfa Cymru
Hafod House, Cardigan
Hafod House, Cardigan
GASTINEAU, Henry
© Amgueddfa Cymru
Mearche Priand
Mearche Priand
COLIN, Paul
© ADAGP, Paris a DACS, London 2025/Amgueddfa Cymru
8 Red Arcs, 1964
8 Red Arcs, 1964
HOUSE, Gordon
© Gordon House/Amgueddfa Cymru
Still Life
Still life
HODGKINS, Frances
© Amgueddfa Cymru
Sailing Ships
Sailing Ships
VELDE, Adre van de
© Amgueddfa Cymru
Head of an Idol
Head of an Idol
JOHN, Augustus
© Ystâd Augustus John. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru
Studies of Sculpture
Studies of sculpture
EDWARDS, Joseph
© Amgueddfa Cymru
Rocks, Tenby
Rocks, Tenby
JACKSON, Thomas Graham
© Amgueddfa Cymru
Sketchbook, Including some loose inserts.
Sketchbook
JOHNSON, Nerys
© Ystâd Nerys Johnson/Amgueddfa Cymru
Three Studies
Three Studies
SUTHERLAND, Graham
© Ystâd Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru
Front cover
Album: W.G. John Sketches
JOHN, Sir William Goscombe
© Amgueddfa Cymru
Study for Thorn Tree
Study for Thorn Tree
SUTHERLAND, Graham
© Estate of Graham Sutherland/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
Aberdulais
Aberdulais
DEVIS, Anthony
© Amgueddfa Cymru
Figures in Church
Figures in church
JOHN, Gwen
© Amgueddfa Cymru
Miserere
Miserere
ROUAULT, Georges
lL'Éoile Filante, Paris
Aulard, Paris
© ADAGP, Paris a DACS, London 224/Amgueddfa Cymru
Untitled
Untitled
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru
Untitled
Untitled
HOWARD-JONES, Ray
© Nicola Howard-Jones/Amgueddfa Cymru

CELF AR Y CYD

  • Archwilio
  • Erthyglau Cynfas
  • Dysgu

Y WEFAN

  • Amdanom Ni
  • Mynediad
  • OGGGC
  • Cwestiynau cyffredin
  • Hawlfraint
  • Cwcis

CYSYLLTWCH Â NI

  • Cysylltwch â ni
  • Instagram @celfarycyd
× ❮ ❯