Ysgyfarnog Nijinsky Fach
FLANAGAN, Barry
Mae'r ysgyfarnog hirgoes yma yn dynwared ystum bale clasurol yn gain drwy sefyll en pointe ar ei choes dde gyda'i phen-glin wedi'i phlygu a'r goes chwith wedi'i phlygu a'i chodi o'i blaen. Dechreuodd y cerflunydd Gwyddelig-Cymreig Barry Flanagan gerflunio ysgyfarnogod ar ddiwedd y saithdegau, gan symud oddi wrth gelfyddyd gysyniadol a thuag at ffiguraeth. Mae'r gwaith yma wedi'i fodelu ar y dawnsiwr bale Vaslav Nijinsky, aelod enwog o'r Ballet Russes a oedd yn adnabyddus am ei neidiadau oedd yn herio disgyrchiant. Mae’r efydd, sy’n ddeunydd trwm a statig, wedi troi’n llawn bywyd, ysgafnder a symudiad.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.