Cysgodwr yn Cysgu, 1941
MOORE, Henry
Henry Moore oedd un o gerflunwyr pwysicaf yr 20fed ganrif. Un noson, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, aeth i lawr i orsaf trenau tanddaearol a oedd yn cael ei defnyddio fel lloches rhag cyrchoedd awyr. Er mawr syndod iddo, fe ffeindiodd y platfform yn llawn o ffigurau yn lledorwedd, sef pobl yn cysgu o dan eu blancedi. Yna dechreuodd ymweld â'r gorsafoedd tanddaearol yn rheolaidd i ddarlunio’r bobl yn cysgodi yno. Mae'r Shelter Drawings sy'n deillio o hyn yn gorff penodol o waith, ar wahân i waith pennaf Henry Moore fel cerflunydd a gweddill ei waddol sylweddol o ddarluniau. Serch hynny mae cysylltiad agos iawn rhyngddynt a themâu a oedd yn ffocws iddo drwy gydol ei yrfa.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.