Bundoran, Swydd Donegal, Iwerddon
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: Bundoran, Swydd Donegal, Iwerddon. 05.12.93. Mae hwn yn llun nas defnyddiwyd o fy mhroject The Shipping Forecast. Treuliais wythnos yn Donegal (sydd yn ardal morol Malin) ychydig cyn Nadolig 1993; dyddiau byr, tywyll a thywydd gwirioneddol ofnadwy o law di-baid a gwyntoedd tymhestlog. Dw i bob amser wedi hoffi’r llun yma, ac yn aml yn meddwl tybed pam na wnes i ei gynnwys yn y llyfr, a gyhoeddwyd yn 1996. Mae gen i gynlluniau, un diwrnod, i ailedrych ar y gwaith nawr bod ugain mlynedd wedi mynd heibio, gwneud golygiad newydd, ac ailgyhoeddi. Os gwnaf i, dw i’n saff y bydd y llun yma'n cael ei gynnwys." — Mark Power
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.