Hill of Hurdles
WOODS, Clare
Ysbrydolwyd y gwaith hwn gan y tirun ger rhaeadr Dŵr Torri Gwddf, dafliad carreg o ffin Cymru a Lloegr. Elfennau anghofiedig y tirlun sy’n denu Clare Woods yn aml – merllynoedd a mieri. Bydd yn tynnu ffotograffau liw nos a chreu collage er mwyn cyfosod y paentiad terfynol. Yn ôl Clare mae sglein uchel y gorffeniad yn rhoi ‘gwefr oruwchnaturiol’ i’w gwaith.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Datganiad hawlfraint wedi'i ddarparu gan Amgueddfa Cymru
Mwy fel hyn