Myrddin ac Arthur
Ar droad y 19eg ganrif gwelwyd adfywiad yn y diddordeb yn nelweddau a chwedloniaeth y Celtiaid yng Nghymru. Y cerflun efydd hwn, a arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol ym 1902, yw unig waith John ar thema Arthuraidd. Yn ôl chwedloniaeth ganoloesol, bu'r bardd a'r dewin Cymreig, Myrddin, yn cynorthwyo Uthr Bendragon wrth iddo hudo Yguerne, gwraig Dug Cernyw. Traddodwyd y plentyn a ddeilliodd o'u perthynas, y Brenin Arthur yn ddiweddarach, i ofal Myrddin. Mae ystum a gwisg y cerflun hwn yn dangos dyled i Rodin, yn arbennig ei gerfluniau anferth o 'Bwrdeisiaid Calais'.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.