Pilate yn golchi ei ddwylo
JONES, David
Roedd David Jones yn ffigwr arloesol ym myd celf a barddoniaeth ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Gwasanaethodd ar y rheng flaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf o 1915 i 1918 a chafodd y cyfnod hwn effaith ddofn ar ei waith; yn fwyaf nodedig ei gerdd epig In Parenthesis, a gyhoeddwyd ym 1937. Trodd Jones at Gatholigiaeth yn fuan ar ôl y rhyfel, ym 1921. Yma, mae’n darlunio golygfa o’r Beibl lle mae llywodraethwr Rhufeinig Jwdea, Pontius Peilat, yn gorchymyn dienyddio Iesu. Fel yn nhraddodiad celf yr Oesoedd Canol, mae Jones yn dangos Peilat yn golchi ei ddwylo o euogrwydd am farwolaeth Iesu. Roedd hwn yn bwnc llawer llai cyffredin mewn celf fodern. Mae'r gwaith hefyd yn cyfeirio at ei brofiad o'r Rhyfel Byd Cyntaf drwy gynnwys y milwyr. Cynhyrchodd Jones amryw o weithiau crefyddol pwysig yn y cyfnod hwn.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.