Jan Morris
HURN, David
Hanesydd ac awdur teithio yw Jan Morris, a ddisgrifir fel ‘Flaubert oes y jet’. Fe’i ganed yn James Morris, a chafodd lawdriniaeth newid rhyw ym 1972. Mae’n bosib mai Conundrum (1972), ei disgrifiad didwyll a theimladwy o ddarganfod ei gwir hunaniaeth fel menyw, a cheisio mynd ar ôl hynny, yw’r llyfr mwyaf dylanwadol o’i fath. Fel newyddiadurwr, Morris oedd y cyntaf i adrodd am goncro Mynydd Everest ym 1953. Mae ei phortreadau atmosfferig o ddinasoedd, yn cynnwys Fenis, Rhydychen ac Efrog Newydd, yn cael eu hedmygu’n eang, fel y mae ei thair cyfrol am hanes yr Ymerodraeth Brydeinig, Pax Britannica.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.