Mae gan bob un ohonom brofiad a pherthynas wahanol â Chymru. Yn gartref ac yn gynefin, hunaniaeth neu gysyniad, mae perthyn i Gymru yn cynnig cysur i nifer. Ond a ydyn ni’n gor-ramanteiddio? Oes mwy i Gymru nag edrych ar hen hanes?
Mae’r detholiad o weithiau isod yn edrych ar y ffyrdd y mae Cymru wedi’i phortreadu gan artistiaid cyfoes. Sut mae’r portread o Gymru heddiw yn wahanol i Gymru’r gorffennol? Pa ddiwylliannau sy’n Gymreig eu hanfod?
Mae Cymru wedi newid ac esblygu dros y canrifoedd, ond mae yna elfennau sy’n codi’u pen dro ar ôl tro yn y gweithiau sy’n portreadu Cymru a Chymreictod sef brwydrau’r bobl, a’r ymdeimlad o berthyn, hiwmor a chymuned.
Beth yw’r ots gennych chi am Gymru? Pa weithiau eraill y gallwn ni eu hychwanegu i’r rhestr isod?
Gweithiau celf
Erthyglau
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
29 Awst 2024
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
16 Awst 2024