Beth yw ystyr Celf ar y Cyd?

Ystyr Celf ar y Cyd yw cyfle i ni fwynhau celf gyda’n gilydd. Drwy’r casgliad celf gyfoes cenedlaethol ein nod yw dod â chymunedau Cymru a thu hwnt ynghyd, gan arddangos celf gyfoes a rhoi mynediad i’r casgliad o’ch ffôn symudol.

Pwy sy’n ariannu Celf ar y Cyd?

Mae Celf ar y Cyd yn rhan o fenter ehangach Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Pa gasgliadau sydd wedi’u cynnwys yn Celf ar y Cyd?

Mae Celf ar y Cyd yn cyflwyno gwrthrychau o Gasgliad Celf Cenedlaethol Amgueddfa Cymru.

Beth sydd yn y casgliad?

Mae’r casgliad a welwch ar Celf ar y Cyd yn rhan o’r Casgliad Celf Cenedlaethol mae Amgueddfa Cymru yn gofalu amdano. Mae’r casgliad yn amrywio o baentiadau a llyfrau braslunio, gosodweithiau celf, serameg a cherfluniau, i ffotograffiaeth, fideo a chyfryngau newydd. Mae'r casgliad celf cyfan yn cynnwys tua 45,000 o weithiau celf ac mae'n tyfu o hyd.

Beth ydych chi’n ei ystyried fel ‘celf gyfoes’?

Er mwyn cadw cylch gorchwyl y wefan mor eang â phosib ac i ddigideiddio cymaint o weithiau ag y gallwn, rydyn ni wedi cadw ein diffiniad o ‘gelf gyfoes’ yn eang. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n digideiddio gweithiau celf gan artistiaid a oedd yn fyw, ac sydd dal yn fyw, o ganol yr ugeinfed ganrif ymlaen. Rydyn ni hefyd yn cynnwys adnoddau wedi'u digideiddio o ddetholiad o weithiau celf modern a hanesyddol. Mae hwn yn cynnig cipolwg ar ddyfnder ein casgliad cenedlaethol a chyd-destun i'n gweithiau cyfoes. Mae'r broses o ddigideiddio'n parhau, a'n blaenoriaeth yw gweithiau cyfoes. Mae rhagor o wybodaeth am ein proses ddigideiddio ar gael yma - Amdanom Ni.

Sut mae chwilio drwy’r casgliad?

Rydyn ni'n gobeithio y gallwch chi ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano drwy ddefnyddio ein teclyn chwilio ar y dudalen Archwilio. Gallwch newid eich chwiliad drwy ddefnyddio'r hidlwyr sy'n ymddangos yn yr opsiynau chwilio.

Sut galla i gyfrannu at y wefan?

Cadwch lygad ar ein cyhoeddiadau diweddaraf ar Cynfas am gyfleoedd i gyfrannu at Celf ar y Cyd.

Pam nad oes gwybodaeth gyd-destunol ar gael ar gyfer pob gwaith celf yn y casgliad?

Mae Celf ar y Cyd yn defnyddio data casgliadau Amgueddfa Cymru. Gyda dros 45,000 o weithiau celf yn y Casgliad Celf Cenedlaethol, rydyn ni’n adolygu ac yn diweddaru ein cofnodion yn barhaus ac yn gweithio ar ychwanegu rhagor o wybodaeth gyd-destunol drwy’r amser.

Rydw i wedi dod o hyd i rywbeth nad yw ar gael yn ddwyieithog. Pam hynny?

Mae'r wefan yma’n defnyddio data casgliadau sydd wedi’i etifeddu, ac rydyn ni’n cydnabod y gall rhywfaint o'r wybodaeth yn ein cofnodion fod wedi dyddio. Rydyn ni wrthi’n ei hadolygu. Os hoffech dynnu ein sylw at wybodaeth sydd ynghlwm wrth waith celf, cysylltwch â ni drwy ein tudalen Gysylltu.

Rydw i wedi sylwi ar ddisgrifiad sy’n defnyddio terminoleg hen ffasiwn, sut mae gofyn i hwn gael ei ddiweddaru?

Mae ganddon ni ddyletswydd gofal ar gyfer ein holl gynulleidfaoedd. Mae'r wefan yma’n defnyddio data casgliadau sydd wedi’i etifeddu. Rydyn ni’n cydnabod y gall rhywfaint o'r wybodaeth yn ein cofnodion fod yn hen ffasiwn neu'n wahaniaethol ac rydyn ni wrthi’n ei hadolygu fel rhan o broses barhaus. Os hoffech dynnu ein sylw at wybodaeth sydd ynghlwm wrth waith celf, cysylltwch â ni drwy ein tudalen Gysylltu.

Pam nad oes delwedd o rai o’r gweithiau celf?

Fel rhan o broject digideiddio mawr, mae Amgueddfa Cymru wrthi’n digideiddio degau o filoedd o weithiau celf o’r casgliad. Os nad oes delwedd, mae’n bosib nad yw’r gwaith celf wedi’i ddigideiddio eto, ei fod yn cael ei drin gan ein tîm cadwraeth, ar fenthyg i oriel arall, neu am resymau hawlfraint.

Mae yna weithiau celf ffilm a fideo yn y casgliad. A yw'n bosib gwylio'r rhain ar Celf ar y Cyd?

Caiff ffilmiau celf eu creu gyda gofod neu brofiad penodol mewn golwg. Oherwydd hyn, ac oherwydd rhesymau hawlfraint, ni allwn ddangos y gwaith llawn ar-lein. O bryd i'w gilydd fe fydd artist yn cymeradwyo llun llonydd o'r gwaith i ni ei ddefnyddio ar-lein, a phan mae hynny ar gael, fe fydd y llun llonydd hwnnw yn ymddangos yn lle'r ffilm.

Pam mae rhai delweddau yn aneglur mewn canlyniadau chwilio?

Mae ganddon ni ddyletswydd gofal ar gyfer ein holl gynulleidfaoedd. Mae rhai o'n gweithiau celf yn cynnwys delweddau a allai beri gofid i rai defnyddwyr, a theimlwn ei bod yn bwysig pylu’r delweddau yma mewn canlyniadau chwilio. Os oes gennych sylwadau am y cynnwys yma, cysylltwch â ni drwy ein tudalen Gysylltu.

Alla i brynu print o waith celf?

Dydyn ni ddim yn cynnig gwasanaeth siop fel rhan o broject Celf ar y Cyd ar hyn o bryd. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu print, mae Amgueddfa Cymru yn cynnig gwasanaeth Printiau yn ôl y Galw: https://siop.amgueddfa.cymru/collections/prints

Oes modd lawrlwytho delwedd o waith celf?

Rydyn ni’n awyddus i chi fwynhau edrych ar y gweithiau celf ar Celf ar y Cyd fel rhan o’n profiad ar-lein. Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn cynnig opsiwn lawrlwytho ar gyfer gweithiau celf. Mae rhai printiau o weithiau celf ar gael i’w prynu drwy wasanaeth Printiau yn ôl y Galw: https://siop.amgueddfa.cymru/collections/prints

Mae gen i gwestiwn am hawlfraint – gyda phwy y galla i gysylltu?

Rydyn ni wedi ceisio adnabod deiliaid hawlfraint a chael caniatâd ym mhob achos perthnasol, ac os ydyn ni wedi atgynhyrchu unrhyw beth heb ganiatâd yn anfwriadol neu wedi cambriodoli hawlfraint, cysylltwch â ni drwy ein tudalen Gysylltu.

Oes modd i Celf ar y Cyd helpu gyda phrisio neu adnabod gweithiau celf preifat?

Dim ond ymholiadau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r casgliad y gallwn eu hateb. Does dim modd i ni gynnig barn ar weithiau celf preifat ac allwn ni ddim darparu gwasanaeth prisio chwaith. Dylech gysylltu â thai ocsiwn i gael gwybodaeth brisio.

Ydych chi'n cynnig gweithdai am Gelf Gyfoes?

Rydyn ni’n gobeithio cynnig gweithdai byw am Gelf Gyfoes yn y dyfodol agos ac wrthi’n gweithio ar gynllun ar gyfer hyn. Cadwch lygad ar y dudalen Ddysgu i gael gwybod am unrhyw ddarpariaeth yn y dyfodol a gwybodaeth am sut i archebu lle.

Oes modd gweld y gweithiau celf yma go iawn?

Rydyn ni’n ceisio cadw ein cofnodion o'r gweithiau sy'n cael ei arddangos yn ein horielau mor gyfredol â phosib. Fodd bynnag, gyda dros 45,000 o weithiau celf yng nghasgliad celf Amgueddfa Cymru, allwn ni ddim arddangos pob un ar unwaith. Mae llawer o'n gweithiau yn cael eu storio neu’n cael eu benthyca i sefydliadau eraill ar draws y byd. Ar gyfer gweithiau celf nad ydynt yn cael eu harddangos yn orielau Amgueddfa Cymru, gallwch wneud cais am ymweliad i’w gweld yn ein storfeydd celf. Cysylltwch â ni drwy ein tudalen Gysylltu.