CYNFAS

Sharon Kostini a Maoa Eliam
13 Hydref 2020

Aur Llifeiriol: golwg ar ystyr a phwysigrwydd newidiol aur ar draws hanes a diwylliannau

Sharon Kostini a Maoa Eliam

13 Hydref 2020 | Minute read

Beth sy’n dod i gof gyntaf wrth feddwl am y gair ‘Aur’? Oes darlun o fetel gloyw, uchel ei safon a’i werth yn dechrau ffurfio? Mae’n meddu ar nodweddion unigryw - yn hydrin, yn ddargludydd da ac yn dal yn loyw ar ôl profi gwres mawr ac amodau eithafol eraill. Hawliodd y metel prydferth le uchel mewn diwylliannau ers ymhell cyn y canol oesoedd, gan gael ei gysylltu’n agos â chyfoeth a digonedd.

Cai aur ei ddefnyddio at ddibenion ffasiwn yn nhraddodiadau Affrica o ddyddiau Pharoaid yr Aifft hyd at frenhinoedd Ashanti Ghana. Mae rhai darluniau hynafol yn dangos Brenyn yr Aifft, Tutankhamun (1361 – 1352CC) a’i frenhines yn gwisgo lliain gyda brodwaith aur – un o fyrdd o bortreadau o gyfoeth brnhinoedd a dosbarthiadau uwch yr Aifft. Roedd trigolion hynafol Ghana hefyd yn gwybod yn union sut i drin aur. Roedd cymaint o’r deunydd crai nes i stôl y brenin gael ei chreu o aur!

Bu aur yn ffefryn erioed ym myd ffasiwn. Mae’n cyfleu ceindeg a statws ac yn magu hyder. Mae ychwanegu addurn aur i’ch gwisg yn fodd heb ei ail o gyfeirio’r llygad at eich hoff nodweddion, ac yn ffordd gynnil o dynnu sylw at eich hun. Dyna pam i mi enwi’r gyfres hon o ffotograffau yn ‘aur llifeiriol’ – i ddangos a dathlu menywod ethnig mewn sefyllfaoedd clasurol a mawreddog, sy’n rhoi grim iddynt ym mhob agwedd o’u bywyd.

Yn ddi-os, mae pwys mawr ar brydferthwch ac edrychiad ar draws Affrica. Ym mhob un o deuluoedd ethnig affrica is-Sahara bron fe welwn i emwaith tebyg. Clustdlysau bach aur wedi’u brodio yw Dobe gaiff eu gwisgo ar hyd llabed y glust, a hefyd i addurno plethau gwallt. Mwclis hir o ambr a gemau carnelian yw Tengou tchaka sy’n gwarchod rhag y llygad aflan.

Fel steilydd ffasiwn, roedd y project hwn yn llafur cariad. Ysgogiad a nod y ffotograffau hyn oedd danos amrywiaeth, gan ddathlu a rhoi llwyfan i fenywod Du mewn cyd-destun moethus. Roeddwn i am dalu gwrogaeth i lwythau a diwylliannau gwahanol Affrica a dangos prydferthwch eu dillad a’u diwulliant unigryw.

Daeth pobl o Arabia ac Ewrop i Affrica i fasnachu, i ledu eu diwylliant a dysg eu crefyddau, ac i ymestyn eu tiriogaeth a’u grym gwleidyddol. Cafodd y profiadau hyn eu cofnodi gan ddod yn ffynonellau defnyddiol, onid hanfodol o wybodaeth. Disgrifiodd teithwyr, haneswyr a daearyddwyr Mwslemaidd y 10fed ganrif yr hyn a welsant yn Bildad al-Sudan, ‘gwlad y duon’, wedi cyrraedd yno ar hyd traffyrdd masnach diffeithwch Sahara. Yr Ewropeaid cyntaf i deithio i Affrica oedd y Portiwgeaid, gyda’r gobaith o dorri monopoli’r byd Arabaidd ar y fasnach aur ac agor llwybr uniongyrchol at gyfoeth sbeisiau Asia.

Yng Ngorllewin Affrica roedd gwisgo aur, mwyn prin a gwerthfawr, yn arwydd o rym, statws, chwaeth a ffasiwn ac Inari oedd yn gwarchod gwerthoedd o’r fath drwy ei ffasiwn a’i gemwaith creadigol. Aur Gorllewin Affrica oedd y sbardun i symud pethau, pobl a syniadau ar hyd Affrica, Ewrop a’r Dwyrain Canol mewn byd canoloesol oedd yn prysur gydblethu.

Am ganrifoedd, mae pobloedd Akan de Ghana, eu brenhinoedd a’u teuluoedd, wedi dangos eu statws mewn gwyliau cyhoeddus egnïol lle byddent yn arddangos eu regalia euraid - cadwyni, modrwyau, breichledau, swynoglau, gynnau gilt aur a therfyniadau ymbarél hyd yn oed (fel cysgod i’r pennaeth ar ei orymdaith). Mae ein harddangos o regalia heddiw mor rhwysgfawr ag y bu erioed.

Roedd cymaint o aur yn Nheyrnas Ashanti nes bod yr anifeiliaid yn ei wisgo, a byddai coleri cloddio yn cael eu gwneud o aur mor gynnar â’r 9fed ganrif! Drwy ei chyfoeth, daeth y deyrnas yn flaenllaw mewn masnach ar draws y Sahara. Aur oedd ei phrif nwydd, daeth ei brenhinoedd yn fasnachwyr rhyngwladol, a datblygodd ei phoblogrwydd a’i thanadeiledd yn gyflym.

Ar gyfer y ffotograffau yma roeddwn i am ddangos pob model yn drwm dan addurniadau aur wedi’u hysbrydoli gan lwyth y Samburu o Kenya. Nodweddion amlwg ffasiwn y Samburu yw eu cadwyni, eu breichledau a’i fferledau gleiniog amryliw gaiff eu gwisgo gan ddynion a menywod. Po fywaf o gadwyni a wisga’r fenyw, y mwyaf yw ei phrydferthwch. Mae’n symbol o brydferthwch sy’n adlewyrchu statws cymdeithasol a chyfoeth y gwisgwr.

Cefais fy synnu hefyd pa mor debyg oedd rhai o’r gwrthrychau efydd yn Amgueddfa Cymru. Roedd Cymru yn ganolog i grefft gofannu aur Ewrop Môr Iwerydd yng nghanol Oes yr Efydd. Gellir gweld dylanwad gref diwylliant rhwysgfawr Gorllewin Affrica yn rhai o’r gwrthrychau. Cafodd y freichled aur o ganol Oes yr Efydd ei chanfod mewn potyn crochenwaith yn Burton ger Afon Alun. Mae wedi’i chreu drwy blethu chwe gwifren arian a’u gosod ochr yn ochr, ac mae’r haenau ar y freichled yn fy atgoffa o’r breichledau gleiniau amryliw o Kenya. Gwelir peth tebygrwydd hefyd rhwng y mwclis lunula aur o ddechrau Oes yr Efydd â’r coler uchel a wisgir gan nifer o lwythau Affrica fel symbol o falchder ac urddas brenhinol.

Yn Llyfr Ffyrdd a Theyrnasoedd ym 1065, cofnododd y Sbaenwr, Abu Ubayd Al-Bakri, ei daith i lys Tunku Menin – catref brenin Ghana ar y pryd. Dyma’r teithiwr yn cofnodi bod y brenin ‘yn addurno ei hun fel menyw (gydag aur) o gwmpas ei wddf a’i freichiau, ac yn gwisgo cap uchel gydag addurn aur wedi’i lapio mewn tyrban o gotwm cain. Bydd yn eistedd mewn cynulleidfa, neu i glywed cwynion yn erbyn swyddogion mewn pafiliwn cromennog wedi’i amgylchynu â deg ceffyl wedi’u gorchuddio â deunyddiau brodwaith aur. Y tu ôl i’r brenin saif deg gwas yn dal tariannau a chleddyfau gydag addurn aur, ac ar y dde iddo mae ei feibion mewn gwisgoedd gwych a’u gwallt wedi plethu mewn aur.’ (Disgrifiad o Frenin Ghana yn The Book of Roads and Kingdoms gan al-Bakri, 1067-8).

Pa ryfedd fod ymerodraeth ganoloesol Ghana yn gwisgo o’u pen i’w corun mewn aur i ddangos eu ffordd o fyw, eu diwylliant a’u cyfoeth? Heddiw bydd pobl Ghana yn gwisgo gemwaith ac addurniadau aur mewn priodasau a digwyddiadau traddodiadol a diwylliannol eraill. Mae aur yn dal yn hynod bwysig yng ngwledydd Gorllewin Affrica, ond prin yw’r gwrthrychau hanesyddol yn y gwledydd ei hunain.

O ganlyniad i’r tuedd cynyddol, cythryblys hwn, mae nifer o fenywod ething yn osgoi bywyd rhwysgfawr, hyd yn oed os ydynt yn gallu ei osgoi. Pa ryfedd fod menywod Du yn troi eu cefn ar rwysg rhag ofn iddynt gael eu cyhuddo o fod yn ddi-chwaeth, neu o ddangos ei hunain. Yn yffotograffau yma mae pob model yn gwisgo steil gyda elfen wahanol yn cynrychioli dylanwadau diwylliannol y cyfandir. Mae gwallt un mewn cynffon wedi’i phlethu â cheiniogau aur a’r llall yn gwisgo band gleiniau. Mae’r gemwaith yn bwysig i ddiwylliannau Sudan a menywod Afar Ethiopia.

Bydd menywod yn gwisgo eu gemwaith i arddangos eu cyfoeth ac i ategu eu harddwch, yn enwedig ar achlysuron arbennig, fel diwrnod priodas. Diolch i fasnach, mae’r gemwaith a wisgir gan y menywod yma yn dod o bellteroedd Saudi Arabia, Yemen, Pakistan ac India. Bydd yr eitemau gwerthfawr yma’n aml yn cael eu defnyddio i gyfnewid a ffeirio. Mae’r modelau yn gwisgo lliwiau niwtral gan gyferbynnu â lliwiau a naws jwngl a diffeithwch Affrica, a thrwy gyfuno eitemau sy’n tynnu sylw a defnydd sidan mae’r wisg yn fodern, cyfoes a ffasiynol.

Yr agosaf y down ni heddiw at gyfoeth o’r fath yw mewn casgliadau preifat amgueddfeydd, a daeargelloedd dirgel ledled y byd. Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i gwpan cymun aur rhyfeddol o Eglwys y Santes Fair. Ynghyd â’r casgliad preifat hwn mae sawl gwrthrych a gemwaith aur ac efydd o’r canol oesoed – fel y fodrwy aur ganoloesol, y freichled o ganol Oes yr Efydd a llawer mwy. Y gemau diamser yma oedd y sbardun i greu cyfres ffasiwn yn canolbwyntio ar werth a phrydferthwch aur.


Share


More like this