CYNFAS

Selena Caemawr
3 Mawrth 2021

Bwyd a Chelf: Cynaliadwyedd… a Goroesi

Selena Caemawr

3 Mawrth 2021 | Minute read

Mae fy mherthynas â bwyd wedi bod ychydig yn gymhleth erioed. Cyfyngedig oedd fy chwaeth pan oeddwn i’n ifancach, ac mae bod yn awtistig yn golygu bod bwyd yn dod â sawl her – y blasau a’r gweadau, y prosesu sydd angen digwydd wrth baratoi pryd, anghyfleustra’r ffaith fod gennym ddibyniaeth gorfforol arno, mae’r holl beth yn gallu bod yn eitha’ llethol. Ar y llaw arall, dwi yn caru bwyd; dwi’n caru ymateb pobl pan maen nhw’n bwyta bwyd sy’n eu llawenhau. Dwi’n caru coginio i bobl a choginio gyda phobl, ac mae fy nghariad at fwyd wedi’i wreiddio yn fy nghariad at bobl. Mae bwyd ar ei orau pan allwch chi ei rannu gydag eraill. Os oes modd diffinio celf fel cynnyrch creadigol sy’n cyffroi emosiwn yn ei chynulleidfa, yna, yn fy myd i o leiaf, mae bwyd yn sicr yn gelfyddyd.

Caiff Aubergine Café ei redeg a’i gynnal gan bobl awtistig yma yng Nghymru. Mae’n ofod lle mae bwyd a chelf yn dod at ei gilydd, wedi’i sefydlu yn sgil fy angen personol am ofod gweithio a chymdeithasu hygyrch. Fy mwriad wastad oedd sicrhau bod y Caffi yn ofod ffisegol a throsiadol ar gyfer cyswllt dynol a chreadigrwydd. Rydym yn cyflogi artistiaid awtistig a niwrowahanol i gyflwyno gweithdai celfyddydol gwirioneddol ysbrydoledig na fyddai erioed wedi gweld golau dydd petai’r cyfle heb godi i weithio gyda sefydliad wedi ei redeg gan bobl awtistig. Rydym yn canfod ffynonellau creadigrwydd newydd. Rydym yn gwneud penderfyniadau ar y cyd gyda’n staff a’r gymuned, weithiau dros fwyd. Mae’r berthynas hon gyda’r gymuned yn eu galluogi i weld adlewyrchiad o’u hunain yn eu harwyr, a magu hyder i wneud cais neu drio rhywbeth newydd. Maen nhw hefyd yn dod â chynulleidfaoedd newydd gyda nhw.

Yn Aubergine rydym yn gweini bwyd o blanhigion, gaiff eu prynu’n lleol os yn bosib, gan ein bod yn awyddus i gyfrannu cyn lleied â phosib i anghyfiawnderau hawliau dynol amaethyddol o amgylch y byd a’r argyfwng hinsawdd presennol. Yn dilyn Covid-19 a Brexit, mae mynediad at fwyd yn bryder cynyddol yma yng Nghymru wrth i gysylltiadau masnachol ddod yn fwyfwy cymhleth ac wrth i newid hinsawdd fygwth diogelwch bwyd yn fyd-eang.

Yn hanesyddol, ar adeg cythrwfl mawr – rhyfel neu chwalfa ariannol er enghraifft – mae dau ddiwydiant sydd wastad yn gwneud yn well nag eraill: bwyd ac adloniant (neu mewn geiriau eraill, celf). Mae hanes yn dyst felly fod y rhain yn anghenion dynol angenrheidiol.

Yn y rhifyn hwn, roeddwn am gyflwyno gweledigaethau sy’n dysgu o syniadau sefydledig y gorffennol ac ail-ddychmygu dyfodol Cymru, tra bod gennym gyfle i ystyried ac ailasesu. Y cyfarwyddyd llym a roddais i’r cyfranwyr oedd i gefnu ar yr hyn y byddai amgueddfa fel arfer yn chwilio amdano ac i gael bach o hwyl. Rwy’n gobeithio y cewch chi eich ysbrydoli i gymryd rhan yn ein gweithgaredd cerdyn post.

Sut mae Cymru’n edrych

Rwy’n cofio’r tro cyntaf imi weld a gwirioneddol sylwi ar yr onnen Ewropeaidd, neu’r gerddinen, ar drip gwaith maes i’r Rhondda ar gyfer fy astudiaethau Ecoleg gyda darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Gyda dail tebyg i onnen go iawn, gellid cam-adnabod y planhigyn hwn pan nad yw’n dwyn blodau neu ffrwyth. Mae’r gerddinen, mewn gwirionedd, yn perthyn i’r rhosyn, ond mae’r coed hyn sy’n debyg i lwyni yn llawer mwy nag addurniadau, gan eu bod yn darparu bwyd hanfodol dros y gaeaf i adar cynhenid. Yn draddodiadol, mae’r ffrwyth hefyd yn cael ei ddefnyddio i greu jam. Yn y rhifyn hwn, rydym yn dychmygu dyfodol cynaliadwy yng Nghymru gyda’r goeden ffrwythau fywiocaol, hyfryd hon. Rwy’n cysylltu’r gerddinen gyda’r eiliad y sylweddolais mai’r penderfyniad cywir oedd gadael popeth a symud i’r wlad brydferth hon. Mae’r gwair, yn llythrennol, yn wyrddach fan hyn! Gwelwn y cyferbyniad rhwng bythynnod bach y glowyr yn Rhondda Cynon Taf â thai tref Fictorianaidd crand y ddinas sydd wedi troi’n fflatiau. Mae’n drawiadol o amlwg fod Cymru heddiw – wrth edrych drwy’r ffenest, ym mhenawdau’r papur, ac yn yr arogleuon wrth gerdded eich stryd fawr leol – yn wahanol iawn i Gymru’r oes a fu. Mae’r ffordd mae Cymru’n edrych i chi ychydig bach yn wahanol i sut mae’n edrych i fi, yn y pethau rwy’n gweld, arogli, teimlo a chlywed. Ond Cymru yw hi i ni gyd. Ein profiadau AR Y CYD yw’r hyn sy’n creu Cymru, bywyd a hanes Cymru.

Ffotograffydd anhysbys, Canolfan y Genhadaeth i Forwyr, Dociau Caerdydd, 1969. © Amgueddfa Cymru

Cyn dod i Gymru roeddwn i’n byw gydag awtistiaeth heb ddiagnosis, yn gwneud camgymeriadau, heb wybod yn iawn pwy oeddwn i na sut i wneud gwahaniaeth - rhywbeth yr oeddwn i’n ysu i allu gwneud. Gwnes i drio sawl peth gwahanol i geisio canfod fy lle yn y byd: rhedeg cwmni theatr, gweithio fel peiriannydd cyfrifiaduron, fel gweithiwr iechyd rhywiol a chyffuriau a hyd yn oed fel dawnsiwr glin am sawl penwythnos. Roedd Lloegr yn farwaidd – yn sicr yn Coventry, fy nhref enedigol – a wnâi imi deimlo nad oedd unman imi fynd. Yn fy ymdrech arddegol i gyflawni ‘bod yn oedolyn’, priodais ffoadur Cwrdaidd o’r enw Erkan. Roeddwn i’n aml yn cellwair mai ‘Priodas Hollywood oedd hi’, gan mai blwyddyn a hanner yn unig y parodd; sef y cyfartaledd ar gyfer priodasau’r sêr. Nid fy mhenderfyniad doethaf fu dewis priodi Erkan, am sawl rheswm, ond roedd gen i fynediad at hwmws diddiwedd, a phinsiad o brotestio gwrth-lywodraethol wrth i mi ganfod fy hun ar ddamwain yn eistedd yng nghyfarfodydd y PKK, yn sglaffio pitta cynnes ac yn sipian çay Twrc o wydr bychan bach, yn y stafell staff yn siop gebab Wncwl-Abi Erkan.

Mudiad hawliau dynol yw’r PKK, Plaid Gweithwyr Cwrdistan, mudiad hawliau dynol neu sefydliad terfysgol, yn dibynnu â phwy fyddwch chi’n siarad. Mae’n gwrthsefyll anghyfiawnderau, trais a hil-laddiad yn erbyn pobl Cwrdaidd. Dwi’n deall bod y blaid wedi blaguro o wleidyddiaeth asgell chwith, gwrth-gyfalafol yn Nhwrci’r saithdegau hwyr, nôl pan oedd iaith, gwisg a cherddoriaeth Cwrdaidd wedi’u gwahardd mewn ymgais i waredu hunaniaeth y Cwrdiaid. Hyd heddiw, nid yw Twrci yn caniatáu addysg drwy gyfrwng Cwrdeg.

Yng Nghymru, mae nifer yn parhau i deimlo effeithiau ymosodiad creulon tebyg ar Gymreictod a’r Gymraeg o dan reolaeth Prydain oddeutu’r 18–20fed ganrif. Bron y gallaf glywed darllenwyr yn mwmian, “O ie, y Welsh Not.” Offeryn creulon, a ddefnyddiwyd i ddisgyblu plant oedd yn cael eu clywed yn siarad Cymraeg yn yr ysgol. Sylweddolais yn ddiweddar bod y cyflwyniad a gefais i bryderon mewnol y PKK yn 2003 wedi fy mharatoi ar gyfer yr empathi fyddai ei angen arnaf yn ddiweddarach i ddeall y boen tu ôl i’r frwydr i gadw’r Gymraeg yn fyw. Does dim angen llawer o ddychymyg i sylweddoli fod Cymreictod, fel Cwrdigrwydd, yn fregus o ganlyniad i’w agosrwydd gwrthgyfartal at bŵer (cyfalafol), a thra bod Cymru wedi gwneud cynnydd yn gwarchod ei hunaniaeth, caiff ein perthnasau Cwrdaidd eu gadael ar ôl.

Paul Davies, Llwy Garu ‘Welsh Not’, 1977 (perfformiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Wrecsam, 1977) © Yr Artist

Yn yr eiliadau hyn deuwn i sylweddoli nad oes angen i ni rannu ideoleg, gwleidyddiaeth na phryd a gwedd hyd yn oed i barchu bywyd a chefnogi goroesiad rhywun arall. Dwi am gefnogi’r syniad o gydweithio fel modd o oroesi yn ystod cyfnodau ansicr. I sefyll yn y bwlch, yn yr amser y mae’r pandemig creulon hwn wedi ei ganiatáu, a gweld lle gall ymgyrchu cymunedol fynd â ni. I edrych ar hanes cyfoethog ein mudiadau cymdeithasol yng Nghymru a dysgu oddi wrthynt.

Anna Thomas, Baner – Lesbians and Gays support the Miners (gwnaed ar gyfer y ffilm Pride yn 2014) © Lesbians & Gays Support the Miners / Amgueddfa Cymru

Mae’r ffilm Pride o 2014 yn ddrama hanesyddol sy’n dangos stori go iawn dau grŵp annhebygol yn dod at ei gilydd i streicio yn erbyn Thatcher yn cau’r pyllau glo. Carfan o lesbïaid a dynion hoyw yn Llundain oedd Lesbians and Gays Support the Miners (LGSM). Cawsant eu sefydlu i godi arian ar gyfer glowyr Prydain, a dyma nhw’n gefeillio â nifer o Grwpiau Cefnogi Glowyr Cymreig gan deithio i Gymru i sefyll ysgwydd yn ysgwydd â glowyr ar y llinell biced. Blagurodd deg grŵp LGSM ychwanegol yn y DU gan godi £22,500 (tua £70,000 yn arian heddiw) yn ystod blwyddyn o streicio’r glöwyr ym 1984–5. Caiff y gynghrair hon – oedd weithiau’n anghyfforddus wrth i bobl orfod wynebu eu rhagfarnau tuag at ei gilydd – ei gweld fel eiliad dyngedfennol yn y mudiad LHDT+ wrth i agweddau at y gymuned ddechrau newid yn undebau’r gweithwyr. Roedd undebau’r glöwyr yn chwyrn yn eu hymdrechion i ddirymu Adran 28, gan wthio’r Blaid Lafur i ymrwymo i hawliau LHDT+ gan ddefnyddio pleidleisiau eu haelodaeth mewn niferoedd mawr.

Dorothea Heath, Streic y Glowyr 1984–5 (Binny Jones o Flaenau Ffestiniog yn casglu rhoddion o fwyd ar gyfer Cyfrinfa UCG Glofa Aber-nant) © Yr Artist / Amgueddfa Cymru

Gallwn gyflawni newid cymdeithasol mwy gyda’n gilydd, ond rhaid i ni estyn allan a deall problemau ein gilydd er mwyn gwneud hynny.

Yn ystod Haf 2020 unodd niferoedd enfawr i gydnabod problem creulondeb yr heddlu tuag at bobl Ddu, a hiliaeth systemig yn y DU a thu hwnt. Sbardunwyd protestiadau o gwmpas y byd, wedi’u trefnu gan grwpiau BLM newydd. Cafodd ei alw’n ddeffroad mawr gan rai yn y cyfryngau, ymateb pobl Ddu oedd, ‘Fuoch chi’n cysgu? Mae fuodd hi erioed.’ Cefais fy ngwthio allan o un o’r grwpiau BLM lleol hyn wedi imi bwysleisio rhai problemau posib. Roedd hi’n ymddangos nad oedd gan rai o aelodau allweddol y tîm rhyw lawer o brofiad o weithredu gwleidyddol, ac arweiniodd eu hanallu i glywed neu ymgysylltu â’u haelodau hŷn ar faterion o’r fath at gamgymeriadau lletchwith y gellid fod wedi eu hosgoi. Dau gam ymlaen ac un cam yn ôl. Gallwn osgoi ailddyfeisio’r olwyn drwy ddysgu oddi wrth fudiadau a sefydliadau’r gorffennol, a helpu haneswyr ac ymgyrchwyr y dyfodol drwy archifo lluniau, cofnodion cyfarfodydd, dyddiaduron a ffilm.

Jonathan Blake, Cynllun ar gyfer bathodyn Lesbians and Gays support the Miners, 1985 © Jonathan Blake / Amgueddfa Cymru

Dyfodol y celfyddydau

Wrth ddychmygu fy nhirlun celfyddydol Cymraeg delfrydol, mae’n amhosib i mi ei ddychmygu heb feddwl yn gyntaf sut i oresgyn y gwaddol diwylliannol trefedigaethol sy’n rhwystr i hynny. Fel dysgwr cinesthetig, mae’r modd y mae sefydliadau celfyddydol yn gwarchod a charcharu harddwch yn rhwystr i mi. Ein diwylliant yw corlannu harddwch, ei roi mewn bocsys, coffrau, amgueddfeydd, lle na chaiff ei gyffwrdd, ei arogli na’i flasu. Caiff ei gadw ar gyfer pobl â modd – grym, arian, braint. Yn syml, fydd hyn byth yn fy nghyffwrdd i. I fi, bydd hwn wastad yn ymddangos fel cyfle coll, wedi’i ordeinio gan goleri stiff a sgroliau. Ymddengys, i mi o leiaf, y dylem ystyried yn ofalus pa rannau o hanes yr ydym yn eu dewis fel ysbrydoliaeth.

Jonathan Blake / W. Reeves a’i Gwmni Cyf., Bathodyn – Lesbians and Gays support the Miners, 1985 © Jonathan Blake / Amgueddfa Cymru

Mae Covid-19 wedi newid popeth. Yn sydyn, nid y lleoliad yw’r craidd yr oeddem yn lapio ein celf o’i gwmpas ddeuddeg mis yn ôl. Rydym yn ymwneud â chelf mewn ffyrdd llawer mwy amrywiol nag y byddem petai ynghlwm i adeilad. Mae gennym gyfle i ail-ddychmygu sut yr ydym yn dymuno i ddyfodol y celfyddydau yng Nghymru edrych a credaf y dylem fanteisio arno! Hoffwn weld dyfodol celf sy’n hawdd ei gyrraedd a hawdd cyfrannu ato. Hoffwn weld dyfodol celf yn y strydoedd. Sut olwg fyddai ar gelf ‘lawr ar y llawr’ yn cynrychioli fy niwylliant a fy mywyd, yn hytrach na wedi ei guddio tu ôl i waliau Amgueddfa? Sut olwg fyddai ar ddyfodol lle mae orielau’n torri rhydd oddi wrth hualau brics a mortar ac yn comisiynu rhagor o weithiau celf a phrojectau cyhoeddus sy’n dyrchafu cymdogaethau. I fod yn hollol onest, rwyf i wrthi o hyd yn canfod fy ‘niwylliant’ i, ond mae gen i ddarlun cliriach o sut yr hoffwn iddo ‘deimlo’.

Mae’n atgof. Mae’n seinydd 4 troedfedd yn yr ardd ffrynt, wedi’i blastro â phren naddion a’i baentio’n las glas y dorlan. Fy mrawd yn dod â’r pot o gyrri cig dafad, rhatach na gafr, a’r cymdogion yn ymlwybro ar flaenau eu traed tuag at y mwg llesmeiriol, sbeislyd yn chwythu o ddrwm metel, lle mae cluniau cyw iâr jerk yn poeri braster drwy’r twll yn yr ochr. Teimlad y bas yn dirgrynu drwy fy mrest wrth i fi roi tro ar DJo, a dangos i’r plant eraill sut mae gwneud hefyd. Cwrlid fy ngwely wedi’i daenu ar y gwair i eistedd arno, gyda phowlen o dwmplenni wedi’u hollti a menyn yn drwchus drostynt, bara a chaws, brechdanau ciwcymbr, gyda sarsaparilla i dorri syched. Mae’n goch, aur a gwyrdd. Un peth dwi wedi sylweddoli yw mai craidd fy nghelf yw rhannu – rhannu amser, emosiynau, bwyd, straeon a chyfleoedd. Celf i mi yw’r gwrthwyneb i gronni.

 

Teimlad

Awel feddwol sbeis Caribïaidd 
Cusanau caramel cyfoethog, poeth 
Bysedd yn troelli fy ngwallt brown ffrisi 
Clatsio sosbenni dur 
A lliwiau’n dawnsio 
Coch, Aur a Gwyrdd

(cyfieithiad)


Share


More like this