CYNFAS

Jon Gower
3 Mawrth 2021

Adar mewn Gardd

Jon Gower

3 Mawrth 2021 | Minute read

Roedd Peter yn dal i allu cofio pan oedd y pishyn o ddaear yn ei iard fach yn foel, y prynhawn hwnnw pan gliriwyd y chwyn yn gyfan gwbl i baratoi at y plannu. Roedd wedi bwriadu mynd i B&Q i nôl masarnen fechan i dyfu yno ond bu’n llusgo ei draed ac yn y cyfamser, roedd aderyn du wedi ennill y blaen arno. Chwistrellodd yr aderyn sblash o gachu gwyn dros y ddaear oedd yn cynnwys hedyn, mae’n rhaid. O fewn ychydig wythnosau roedd glasbren bychan bach yn codi o’r pridd fel mwydyn gwyrdd, tenau.

Tyfodd y pren yn araf dros y blynyddoedd nesaf, ond parhaodd yr hen ŵr i chwynnu, a dyfrio’r goeden pan oedd yr haul yn ffyrnig. Yn y gaeaf byddai hyd yn oed yn lapio rhwymau o gylch ei sylfaen brigog, i atal drygioni’r barrug.

‘Dyna goeden fach hyfryd sydd gyda chi’n tyfu fyn’na Peter,’ meddai ei gymydog Blodwen un diwrnod. ‘Beth yw hi?’

Roedd Peter yn falch o allu dweud mai cerddinen oedd hi, gan ei fod wedi ei hadnabod mewn llyfr yn y llyfrgell, ac ychwanegodd fod pobl yng Nghymru yn arfer eu plannu’n agos at ddrysau eu bythynnod i gadw’r ysbrydion drwg draw.

‘Coeden sy’n dod â lwc dda yw hi, chwel. Dyna pam dwi wedi prynu un i chi.’

Gyda hynny rhuthrodd Peter i’w fflat a dychwelodd gyda choeden cerddinen oedd yn fwy na’r un yn ei ardd yntau, yn saff mewn pot twba du gyda label anrheg yn hongian o’i brigyn isaf,

‘I Blodwen, fy nghymydog annwyl, gyda chariad a diolch oddi wrth Peter Merryfield xx’. Roedd Peter wedi pendroni am amser hir dros y geiriad, a sawl cusan i gynnwys, gan nad oedd eisiau rhoi’r argraff anghywir iddi: clywai sôn am gymdogion yn cwympo mewn cariad dros ffens yr ardd.

Gwenodd Blodwen fel yr haul pan welodd hi’r anrheg. Roedd hi wastad wedi teimlo rhyw gynhesrwydd tuag at Peter, ac roedd y cynhesrwydd hwnnw’n tyfu’n fawr ac yn ludiog nawr, fel bwyta dau ddarn o daffi ar yr un pryd.

‘Peidiwch anghofio’i dyfrio nawr. Mae Derek y tywydd yn dweud bod ffrynt gynnes yn dod mewn, nid ei fod e’n cael pethe’n gywir yn aml iawn. Bydde’n well da fi gredu ’ngwymon.’ Roedd gan Peter ddarn o wymon wedi sychu yn hongian ar hoelen tu allan i ddrws y cefn. Roedd wedi ei bigo oddi ar garreg yn Ynys y Barri ar y trip olaf un gyda’i wraig Annie cyn iddi ddod yn rhy sâl i adael y tŷ, wedi ei rhoi iddi fel y byddai cariad yn cynnig blodau.

Byddai’r gwymon yn aros yn sych os oedd y tywydd yn mynd i fod yn braf, ac roedd yn gywir bron bob tro, a llawer yn fwy dibynadwy na Derek Brockway ar y teledu gyda’i siartiau gorlachar. Ac os oedd y gwymon yn wlyb ac yn hyblyg, fel pe bai newydd ddod o’r môr, yna byddai glaw ar ei ffordd. Wedyn, byddai Peter yn tynnu’r golch o’r lein ddillad. Roedd yn sicr yn ei helpu gyda’r garddio – i wybod pryd i ddyfrio’r planhigion ai peidio.


Roedd Peter yn dwli ar ei goeden, yn enwedig yn y gwanwyn pan fyddai bysedd cynta’r dail yn ymagor, yn estyn am haul hwyr Chwefror. Roedd wedi sylwi sut yr ymddangosai popeth ychydig bach yn gynt bob blwyddyn, gyda rhai o gennin Pedr gaeafol y potiau’n datgelu eu hunain yn swil cyn y Nadolig, blodau’r gwanwyn yn cyd-daro â tharddiad y lili wen fach, yn gawod brydferth o ddiferion gwyn yn yr ardd ffrynt. Ond os oedd Peter wrth ei fodd wrth weld y dail yn ymddangos, roedd yn ei seithfed nef pan ymddangosai fflachiadau’r aeron. Byddai’n cael trafferth bob blwyddyn i ddisgrifio eu math arbennig o goch. Roeddent yn...

Siacedi’r milwyr Napoleonaidd a gasglai yn blentyn.

Sgarled minlliw Anti Beti, oedd yn gwneud iddi edrych yn gomon, chwedl ei fam.

Coch Herfeiddiwch.

‘Cofiwch Dryweryn’ wedi’i chwistrellu yn y stryd gefn.

Y coch yn logo Tesco.

Bathodyn coch dewrder.

Aeron fel fflamau, yn tanio fel matshys wedi’u cynnau.

Cafodd Peter sbort un prynhawn yn ceisio cyfateb lliwiau’r aeron â lliwiau’r paent oedd wedi eu rhestru mewn catalogau paentio. Gwrthododd y Coch Folcanig a Bellini Mafon ond teimlai bod Coch y Ddaear a Phupur Cyffredin yn eithaf agos ati. Gwnaeth nodyn bach yn ei lyfr o’r Coch Etrwsgaidd a Rhuddgoch Medici, ond yr un oedd wrth ei fodd oedd ‘Cnodliw’, gair y bu’n rhaid iddo chwilio am ei ystyr. ‘Lliw rhuddgoch llachar neu bincgoch.’ Chwaraeodd y gair o gwmpas ei geg fel llymaid o win. Ie wir, aeron cnodliw oeddent, llawfom lliw yn ffrwydro o’ch blaen.


Byth ers i Annie farw roedd Peter, yn araf bach, wedi dysgu gweld harddwch mewn llefydd newydd. Arferai fod yn ddigon edrych ar Annie dros y bwrdd brecwast. Hi oedd holl harddwch ei fywyd. Ond wedi iddi fynd, gwelodd bod yn rhaid iddo edrych o’r newydd. Defnyn glaw yn tonni wrth syrthio i fwced. Dwst melyn y paill ar gefn gwenynen. Y gladioli herfeiddiol, yn dal i flodeuo’n hir wedi’r rhew caled cyntaf.

Byddai hefyd yn canfod harddwch lawr yn yr amgueddfa, lle byddai’n treulio diwrnodau hir yn edrych ar dirluniau, a dim ond tirluniau. Nid oedd yn hoff o bortreadau. Roedd yr unig wyneb oedd am syllu arni wedi hen fynd, wedi hen farw. Ond gyda nerth brechdanau o stondin goffi’r neuadd, byddai’n crwydro hyd y waliau, yn caru sut y gallai ddianc o’r ddinas, ymadael â’i gorff bron a bod wrth edrych ar, ac i’r tiroedd paent.

Roedd ganddo ambell ffefryn go iawn ac roedd yn dwli, dwli, dwli ar baentiadau Richard Wilson. Roedd diwrnod yn edrych ar ei dirluniau fel wythnos yn teithio gogledd Cymru. Yr olygfa ar lan y llyn o gwmpas Castell Dolbadarn oedd ei ffefryn: gallai edrych ar hwnnw am oriau.

Un noson, ar ei daith wythnosol i’r City Arms i gwrdd â’i ffrind gorau Emyr, penderfynodd rannu ei freuddwyd. Emyr oedd y math o wrandäwr ffyddlon fyddai’n gadael i ddyn ddweud stori neu esbonio breuddwyd heb dorri ar ei draws. Hyd yn oed ar ddiwedd esboniadau Peter, byddai Emyr yn nodio’n fodlon, neu’n slochian ei stowt gydag afiaith oedd yn awgrymu ei fod yn prosesu’r cwbl.

‘Beth licen i ’neud yw plannu cerddin ar raddfa fasnachol,’ meddai Peter, wrth i Emyr dreulio’r wybodaeth, yn dawel fel mynach. Wedi iddo wrando ar Peter yn amlinellu ei weledigaeth dywedodd Emyr efallai y gallai helpu, gan fod ei gefnder yn gweithio i Brif Goedwigwr y wlad; gallai eu cyflwyno i’w gilydd.

Felly, bythefnos yn ddiweddarach, aeth Peter ar y trên i’r Fenni i gwrdd â Phrif Goedwigwr Cymru, achlysur oedd yn ddigon arbennig i Peter wisgo tei a gosod sglein ar ei sgidiau gyda llyfiad o boer.

Roedd gan y dyn fola mawr a chwerthiniad cyfoethog fel ffrwythau’n ffrwydro. Cynhesodd Peter ato’n syth.

Hwyliodd y Prif Goedwigwr de iddo cyn dechrau trafod.

‘Wy’n clywed bod gyda chi syniad i rannu gyda mi. Wy’n glustie i gyd.’

‘Dwi wedi cal y syniad yma i dyfu cerddin, eu tyfu nhw’n fasnachol, fel y byddech chi’n creu ryw hanner dwsin o swyddi i bobl i goginio a photio a gwerthu jam a jeli.’

‘Y Gerddinen? Wy heb glywed am y gerddinen fel cnwd i ’neud arian. Rhaid i fi ’weud ’mod i’n chwilfrydig...’

‘Os yw’r goeden yn fy ngardd i yn ffon fesur o fath yn y byd, yna mae’n bosib cynhyrchu digon o aeron i greu sawl jar o jam a jeli, gan adael hanner y cnwd i’r adar. Bydd y gaseg ddrycin a’r asgell goch yn heidio yma, ac mewn gaeafau oer bydd cynffonnau sidan hefyd, rhai o’r adar prydferthaf ar y ddaear.’

Roedd y coedwigwr yn cymryd nodiadau’n ddiwyd ac yn gallu gweld sut y byddai cynllun Peter yn ei helpu i gyrraedd ei dargedau bioamrywiaeth.

‘Gadwch i ni ’neud e Peter. Gadwch i ni drio,’ meddai’r coedwigwr wrth ddod â’r cyfarfod i ben.

Roedd Peter yn teimlo fel tipyn o foi wrth fynd at y tacsi oedd yn disgwyl amdano.

Ddeng mlynedd wedi’r plannu cyntaf, daeth llwyni cerddin Cymru yn atyniad ymwelwyr cystal â choed ceirios Japan, a byddai pobl yn teithio o bob cwr i grwydro’r bryniau a’r cymoedd sgarled fyddai’n rhuddo dan fflam y ffrwyth.

Un o’r gwledydd a anfonodd y mwyaf o dwristiaid oedd Japan – daeth pobl yn eu heidiau oddi yno. Roedd sawl un yn dod draw cyn i’r aeron yn ymddangos, a mwynhau gweld blagur y gerddinen. Roedd bardd gorau’r wlad yn digwydd bod yn un o’r ymwelwyr ac ysgrifennodd haiku, pennill un deg saith sill traddodiadol a ddaeth yn un o’i gerddi enwocaf, y byddai plant yr ynysoedd yn ei ddysgu ar eu cof.

Tawelwch y blagur hwn
Yw gwynder
Llonydd eira’n lluwch.

Ac roedd eraill fyddai’n dod yn gynt na hynny hyd yn oed, i edmygu’r dail adeiniog, pluog yn y gwanwyn, pan fyddai’r twristiaid yn mwynhau gwledd o brydau arbennig lle byddai oen y mynydd yn cael ei weini â jeli cerddin.

Cafodd Peter rysáit jeli cerddin gan ei fam, a wnâi dim arall y tro ganddo. Mewn rysáit, fel o ddydd i ddydd, doedd hi ddim yn un i wastraffu geiriau:

Annwyl Peter,
Y gyfrinach yw pedwar, tri, un,
PEDWAR pwys o gerddin, tynnu’r coesynnau
TRI phwys o afalau, eu golchi a’u torri.
Gosod mewn sosban fawr, gorchuddio â dŵr a berwi.
Straenio dros fwslin i gael gwared ar y tameidiau. Dros nos.
Ychwanegu UN pwys o siwgr am bob dau gwpan o sudd.
Gosod mewn sosban lân, gadael i ffrwtian am 10 munud.
Yna berwi am 10.
Profi gyda llwy i weld os yw e wedi gosod.

Trodd y flwyddyn ar ei hechel. Tyfodd y cerddin, yn ennill tir wrth i’r adar hau’r hadau.

Un noson cwympodd yr eira mor drwm nes cuddio pob arwyneb a sil dan rhyw dair modfedd dda erbyn i Peter godi’n y bore. Roedd yn ei atgoffa o’r gaeaf caled hwnnw ym 1963 pan setlodd yr eira mor ddwfn nes bron â chladdu olwyn pen pwll y lofa gyfagos.

Nid oedd drifft eira heddiw mor fygythiol, dim ond ysgeintiad powdwr talc oedd yn glynu wrth frigau’r coed ac yn gwyngalchu toeau’r cymdogion. Roedd popeth yn llonydd, wedi setlo, ac yn lân. Cwympai’r eira o hyd, gan wynnu pob lliw: yn gosod golau llachar ar bopeth ac yn dawel fyfyrgar.

Dim ond y freichled o aeron cerddin oedd yn sefyll allan, yn wrthbwyntiau coch llachar ar gwrlid gwyn yr eira, ac roedden nhw’n sefyll allan ddigon i ddenu giang o esgyll cochion, bronfreithod bach urddasol y gaeaf gyda’u haeliau hufennog, a’r fflachiadau o goch gwaedlyd ar ystlysau eu cyrff.

Ar ôl gwledda ddigon ar yr aeron melys tew byddai’r adar yn eistedd yno ar y canghennau, yn rhy llawn i hedfan mae’n debyg.

Roedden nhw fel paentiadau o adar mewn amgueddfa, ond heb y marweidd-dra a ddaw pan fydd artist yn astudio sbesimenau marw yn hytrach nag adar gwyllt mewn cae. Cofiodd Peter am y paentiad anarferol hwnnw o’r elyrch a’r hudhwyaid a’r ffesantod y sylwodd arno ar ymweliad i Gaerdydd, ond ni allai gofio enw’r artist. Roedd Peter yn dwli ar adar, mewn celfyddyd ac yn ei fywyd ei hun.


Yn y tŷ gyferbyn gwelodd Blodwen yn edrych allan ar yr un llun yn yr ardd, ac yna gwenodd hithau arno, heb damaid o swildod.

Meddyliodd Peter am y fytholeg Lychlynnaidd sy’n esbonio sut y crëwyd y fenyw gyntaf o gerddinen, a sut iddi achub bywyd Thor drwy blygu dros afon oedd yn ei sgubo ymaith, er mwyn i dduw’r mellt gydio’n dynn yn ei changhennau.

Roedd yr esgyll cochion wedi pesgi, a disgynnodd cawod fach o eira oddi tanynt.

Dyma oedd bywyd llonydd, darlun o egni a rhyfeddod y ddaear.

Hyn oll yn digwydd yng ngardd fach faestrefol Peter, dan garthen wen, rhychlyd. Adar yn lledu eu hadenydd.

Hyn oll yn digwydd mewn gwlad lle’r oedd fflam aeron y gerddinen yn fflachio, yn dallu yn erbyn gorchudd startshlyd yr eira a dyfai’n ddyfnach, ddyfnach o hyd.

Share


More like this