CARDIAU POST BWRDD Y GEGIN
Gyda’r pandemig yn tanlinellu ansefydlogrwydd ein system fwyd, mae sefydliadau cymunedol wedi camu i’r adwy i helpu i goginio, dosbarthu a chludo bwyd i’r rheiny mewn angen. Mae hyn wedi amlygu pwysigrwydd brys trafodaethau ar lefel lleol am ddyfodol ein system fwyd, ein perthynas â bwyd, a sut yr ydym fel unigolion a chymunedau yn gallu cefnogi ein gilydd.
Mae grwpiau cymunedol fel The CARE Project, menter a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Plwyf Bedwas, Machen, Llanfihangel-y-fedw a Rhydri (BMMR), wedi gwirfoddoli i gasglu a chyflenwi bwyd ac eitemau hanfodol i bobl sydd angen cymorth yn ystod pandemig COVID-19. Ym mis Mai 2020, helpodd y project 1336 o bobl leol drwy drefnu parseli bwyd, casglu presgripsiwn, dosbarthu nwyddau a gwasanaethau lles. Yn y gorffennol safodd grwpiau megis Cronfa Fwyd Gwent gyda’r glowyr yng Nghymru yn ystod streic 1984–5 i wrthwynebu cynlluniau llywodraeth Thatcher i gau pyllau glo yng Nghymru. Gyda chefnogaeth unigolion a chasglebau ar hyd a lled Cymru a Phrydain, cefnogodd Cronfa Fwyd Gwent weithwyr a’u teuluoedd drwy ddarparu miloedd o barseli bwyd bob wythnos. Ffotograffiwyd gwaith The CARE Project gan y Parchedig Dean Aaron Roberts o Ymddiriedolaeth Plwyf BMMR, tra bod cerdyn post a gynlluniwyd gan Peter Cormack ar gyfer Cronfa Fwyd Gwent wedi sbarduno gobaith a chryfder yn y gymuned lofaol wrth iddynt brotestio i warchod eu bywoliaeth. Mae’r ddau ymateb creadigol hyn yn dal ysbryd y grwpiau bwyd sy’n gweithio’n galed ar lefel gymunedol ar hyd y wlad i sicrhau fod gan bobl fwyd o ddydd i ddydd a chefnogaeth yn ystod argyfwng. Maen nhw’n gweithio i annog ymgysylltu cymunedol mwy effeithiol sy’n gefnogol ac yn gynhwysol.
Wrth ystyried dyfodol bwyd yng Nghymru a swyddogaeth cymunedau wrth gefnogi ei gilydd, sut allwn ni greu system fwyd sy’n fwy cynhwysol, cefnogol a chynaliadwy? Ble all trafodaethau ddigwydd a sut all amrywiaeth o leisiau gael eu clywed a’u cofnodi?
Gall sefydliadau celfyddydol ddefnyddio bwrdd y gegin fel sylfaen i drafod materion cymdeithasol-wleidyddol ehangach mewn dull anffurfiol, hygyrch. Mae bwrdd y gegin yn ofod ar gyfer defodau dyddiol lle mae pobl a theuluoedd yn ymgasglu, lle gall barn amrywiol gael ei rannu a syniadau a rhagdybiaethau eu hail-ffurfio, eu hail-ystyried neu eu hail-ddychmygu. Mae sefydliadau cymunedol sydd eisoes yn weithgar megis Local Welcome, sy’n gweithio yng Nghymru ac ar draws Y Deyrnas Unedig, eisoes yn defnyddio rhannu prydau i ddechrau sgwrs. Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n newydd i’r ardal yn cael eu gwahodd i ymuno â phreswylwyr lleol i baratoi prydau i annog sgwrs ac integreiddio. Drwy’r broses hon o goginio a bwyta ynghyd, mae’r grŵp yn ffurfio cysylltiad â’r bwyd, gyda’r profiad, a gyda’i gilydd. Ond gall mynychu digwyddiadau fod yn frawychus i unigolion nad ydynt efallai’n teimlo’n gyfforddus yn rhannu eu straeon a’u profiadau, a gyda bwyta gyda’n gilydd yn opsiwn afrealistig gyda chyfyngiadau presennol y pandemig, mae trafodaeth sy’n digwydd yn y cartref, gyda bwyd yn sylfaen iddo, yn ymddangos yn fwy ymarferol.
Wrth drafod bwyd, onid yw’n fwy priodol i fod ym mhresenoldeb bwyd er mwyn gwerthfawrogi ei nodweddion synhwyrus mewn modd mwy cyflawn? Mae bwyd a blasau yn gallu dod ag atgofion yn ôl ac mae cynhwysion yn gallu cynrychioli ein perthynas cymdeithasol neu foesegol gyda bwyd. Mae gan bob teulu, unigolyn neu gasgleb berthynas a phrofiad gwahanol o’r system fwyd, felly mae’n bwysig i gasglu cymaint o’r safbwyntiau hyn â phosib er mwyn deall anghenion neu ofnau pobl wrth i ni edrych i’r dyfodol. Y gobaith gyda’r gweithgaredd canlynol yw sicrhau bod amrywiaeth o leisiau a syniadau ar ddyfodol bwyd a chynaliadwyedd yng Nghymru yn cael eu casglu a’u rhannu ar ein tudalen Instagram, i arddangos safbwyntiau pobl ac ysbrydoli eraill i ymuno â’r sgwrs.
YR ANFONWR
Ar un ochr dylech gynnwys delwedd sy’n cynrychioli sut mae system fwyd Cymru yn edrych neu’n teimlo i chi nawr, neu yn y dyfodol.
Gall hwn fod yn ludwaith, darlun, ffotograff neu gerdd – beth bynnag sy’n gweithio i chi!
Ar yr ochr arall ysgrifennwch feddyliau, syniadau, neu gwestiynau sydd gennych am ddyfodol bwyd yng Nghymru.
Pa agweddau o’r system fwyd sy’n bwysig i chi? Ai effaith amgylcheddol y system fwyd, tlodi bwyd, bwyd wedi Brexit neu wastraff bwyd efallai? All dysgu tyfu bwyd fod yn rhan o gwricwlwm yr ysgol? Hoffech chi weld rhagor o erddi cymunedol a pherllannau yn cael eu plannu?
Y DERBYNIWR
Dros baned o de neu blât bwyd, trafodwch y cwestiynau neu’r syniadau sydd wedi eu hysgrifennu ar gefn y cerdyn post gyda’ch aelwyd neu dros alwad fideo gyda ffrindiau neu deulu.
Cofnodwch bwyntiau allweddol y drafodaeth ar unrhyw ffurf o’ch dewis – clipiau sain, fideo neu drwy ysgrifennu – a rhannwch ef ynghyd â’r cerdyn post y derbynioch ar ein tudalen Instagram.
Parhau â’r gadwyn i gadw hon yn sgwrs barhaus rhwng pobl er mwyn rhannu syniadau am y modd yr ydym yn siapio ein system fwyd at y dyfodol.
Dilynwch ein tudalen Instagram i glywed safbwyntiau eraill, i anfon cardiau post at deulu a ffrindiau, i rannu’r dudalen gyda chynghorwyr ac ASau lleol ac i sbarduno sgwrs am ddyfodol bwyd a chynaliadwyedd yng Nghymru! Edrychwn ymlaen at weld a chlywed eich barn, eich syniadau a’ch gweledigaeth.
AMDANAF I
Myfyriwr israddedig ydw i yn fy mlwyddyn olaf yn astudio Hanes Celf ym Mhrifysgol Leeds. Ar hyn o bryd rwyf yn y broses o ymchwilio ac ysgrifennu fy nhraethawd hir ar arferion celf perthynol a sefydliadau celf ar lefel gymunedol sydd yn defnyddio bwrdd y gegin fel sylfaen i drafod materion cymdeithasol-wleidyddol ehangach yn ymwneud â bwyd. Fel rhan o fy nghwrs y llynedd fe es i ar leoliad gwaith gyda Deveron Projects, sefydliad celf yng Ngogledd-ddwyrain Yr Alban. Yn ystod fy lleoliad roedd sawl project oedd â phwyslais ar fwyd, a thrwy gynorthwyo gyda’r rhain cynyddodd fy niddordeb yn y berthynas rhwng bwyd, lletygarwch a chelf.
Mae gen i ddiddordeb brwd mewn bwyd, coginio, chwilota am fwyd a garddio ac rwy’n helpu gyda fy ngrŵp garddio cymunedol lleol pan yn dychwelyd o’r brifysgol yn ystod y gwyliau. Ym mis Mai y llynedd es i i’r afael â rhandir oedd wedi tyfu’n wyllt ac eleni rwy’n gyffrous iawn i allu treulio mwy o amser yn tyfu fy ffrwythau a llysiau fy hun a thrio amrywiaethau mwy anarferol o lysiau ac arbed hadau i’w defnyddio y flwyddyn nesaf! Yn y dyfodol hoffwn gyfuno fy angerdd am gelf a bwyd a gweithio gyda chymunedau lleol i archwilio a chryfhau eu perthynas â bwyd mewn modd creadigol.
Dolenni Defnyddiol
The CARE Project
- Ffotograff o wirfoddolwr y project
- Gwefan swyddogol y project
- Demand For CARE Project Help Unaffected By Lockdown Easing