CYNFAS

Dylan Huw
26 Mawrth 2021

Edrych, golwg, gweld: Rhai nodiadau ar olwg queer ac edrych yn queer

Dylan Huw

26 Mawrth 2021 | Minute read

Mae weithiau’n teimlo fel petai pob sgwrs, cyhoeddiad, seminar, traethawd, golygyddol ac ati sydd â queer yn elfen ganolog yn gorfod dechrau drwy gydnabod – neu ddatgan hyd yn oed – bod queer yn derm anelwig, bregus, sydd wastad ar fin colli pob ystyr.

Mae’n wir: prin yw’r geiriau cyffredin sy’n cael eu defnyddio (yn aml) yn ddihid i gyfleu ystod mor eang o bethau. Gwyddom fod queer yn cael ei ddenyddio weithiau i ddigrifio methodoleg feirniadol, weithiau fel term ymbarél ar gyfer pob person LHDTQRhA+, ac weithiau fel term penodol yn deillio o bwyll gwrth-normal. Gall ei hyblygrwydd fod yn rhwystr, gan wneud queer yn air diwerth i ddisgrifio unrhywbeth. Styfnigrwydd llawen y gair i gael ei ddiffinio yw, yn rhannol, y pwynt – fel yn fy mhenderfyniad i defnyddio golwg queer fel fframwaith thematig i’r rhifyn hwn, mae queer yn ddefnyddiol oherwydd ei fod yn cwmpasu’r cyfan uchod. Mae defnyddio queer fel fframwaith yn hwyluso ymholiad ac ehangiad, profiad bywyd a dadansoddiad; a golwg yn ei glymu’n agosach at aestheteg, y perspectif goddrychol, a’r gwrthrych celfyddydol. Roedd golwg queer yn teimlo fel angor cynhyrchiol i feddwl ac ysgrifennu am y berthynas rhwng y foment ddiwylliannol bresennol, profiad pobl queer yng Nghymru sy’n byw’r foment honno, a gweithiau a gwrthrychau yn ein casgliad cenedlaethol sy’n tanio ymateb y golwg hwnnw, beth bynnag ei faint.

Rydw i’n cydymdeimlo â’r farn bod ceisio diffinio queer, neu natur queer unrhywbeth, yn golygu ei fod yn colli’r natur queer hwnnw. Y tuedd poblogaidd yw i freinio’r unigolyn, a chyffredinoli’r penodol fel esiampl o’r profiad torfol. Felly pan ofynnodd Amgueddfa Cymru i fi fod yn olygydd gwadd ar rifyn o Cynfas yn canolbwyntio’n fras ar LHDTQ+ roeddwn i’n benderfynol i beidio syrthio i’r fagl o wahodd pobl i gategoreiddio pethau neu bobl yn queer neu ddim yn queer – mae’n dasg hollol ofer. Roeddwn i yn hytrach am wneud queer yn ofod o bosibilrwydd ac amwysedd, rhywbeth na all gael ei gynrychioli ond ei synhwyro neu ei deimlo’n unig, ac sy’n bodoli y tu hwnt i brofiad yr unigolyn.

Neu fel y dywed fin Jordão, y biolegydd creadigol sy’n gweithio yn Nyffryn Dyfi, yn y gwaith llesmeiriol a ysbrydolwyd gan Bryn, y cerflun gan Olivia Quail a gomisiynwyd ar gyfer y rhifyn hwn: “Nid ffocws penodol yw diben bodolaeth queer, ond bwriadoldeb a rhychwant symudiad. Mae cynnal bodolaeth queer yn golygu ymwneud yn barhaus â ffenomena gwleidyddol a chymdeithasegol; rhaid i ni ddangos sut yr ydym am gael ein gweld ac am gael ei caru.”

Y peth cynta i nharo wrth ddilyn y ddolen i weithiau gyda’r tag ‘LHDT’ yng nghasgliad ar-lein yr Amgueddfa oedd faint o fathodynnau sydd yno – cofroddion bach cynnil o ddathliadau pride gynt. Beth yw bathodyn ond arwydd clir o hunaniaeth? Byddwn ni’n gosod bathodynnau enfys a Not gay as in happy but… a Cymru Rydd ar ein bagiau a’n siacedi i roi syniad i bawb o’n lle ni yn y byd. Ond mae’r bathodyn hefyd yn symbol yn yr isymwybod queer o arwahanu ac esgymuno treisgar. Dechreuais ystyried fy nheimladau wrth weld y bathodynnau yma – y symbolau syml, amwys o’n cyndeidiau queer Cymreig wedi eu dyrchafu i statws hanesyddol o bwys o ddod yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – o’m sefyllfa i yn 2021...

…ond yr ail beth i nharo oedd fy mod i’n ymwybodol iawn taw nid bathodynnau oeddwn i’n eu gweld mewn gwirionedd. Lluniau jpeg o sganiau o fathodynnau oedd y rhain (o gyfnod cyn fy ngeni) ar sgrîn gliniadur gwaith mewn moment hanesyddol pan fod ymwybod wedi mynd yn fflat. Mewn cyfnod lle roedd hi’n amhosib gweld y Gwrthrych Go Iawn, yr edrych drwy haenau o gyfryngau oedd y gwrthrych.

Daeth hi’n glir felly y byddai trafod y diffiniad o edrych yn y presennol – mewn cyfnod o bla a chwyldro, yn gaeth i brofi’r byd drwy ddulliau algorithmig bob awr o’r dydd, gyda dau feirws marwol goruchafiaeth wyn a cheidwadaeth rhywedd ar y tonfeddi’n feunyddiol ddiddianc – yn ongl addawol i ganfod ac amlygu’r queer yn ein casgliad cenedlaethol.

Mae’r her o feddwl am, a thrafod y queer a’r golwg queer yng Nghymru ac yn yn Gymraeg yn gyfarwydd i nifer ohonon ni. Nid yw haenau niferus y term queer looking yn cyfieithu’n hawdd i fersiwn Gymraeg gryno gyffelyb. Ond fe wnes i fwynhau’r her ac ystyried sawl dewis:

Golygon queer (telynegol ond ddim yn taro deuddeg); Edrych queer (y cyfieithiad mwyaf llythrennol efallai, ond sydd ddim yn cyfleu amwysedd y Saesneg); Edrych yn queer (edrych yn rhyfedd?!); Gweld queer (queer seeing; dim sigâr). Penderfynais yn y diwedd taw Golwg queer sy’n dod agosaf at gyfleu y persbectif queer, a’r addasiad gorau o queer looking fel sbardun i gyfrannwyr y rhifyn hwn. Er i’r rhan fwyaf o bobl a gynnigiodd destun wneud hynny yn Saesneg, dyma ni’n annog hyblygrwydd ieithyddol wrth gyfansoddi’r testunau. Roedd yr hyblygrwydd hwn yn teimlo’n greiddiol i ddeall yr hyn all queer ei olygu yma, nawr.

Hynny yw, os yw golwg queer am fod yn ddefnyddiol rhaid iddo osgoi’r diflas, yr arferol a’r cyffredin ble bynnag y bo.

Hanner ffordd drwy ddatblygiad y rhifyn hwn – cyn bod un o’r brawddegau yn y testunau yma’n bodoli yn y byd mawr – gwrandewais ar drafodaeth ar bodlediad History Workshop rhwng Ajamu X, Laura Forster ac E-J Scott am hanes cyhoeddus a’r archif queer, a gyfrannodd at y gwaith meddwl arth gynllunio’r rhifyn hwn. Roedd hi’n sgwrs eang, ond un peth a ddaliodd fy sylw oedd eu disgrifiad o archif, nid fel lle i wrthrychau fynd i farw fel y bydd beirniaid y model hynafol o gasglu sefydliadaol, ond fel lle iddynt fynd i fyw. Roedd troi’r syniad o gasglu ar ei ben yn teimlo’n gynhyrchiol, yn yr un modd ag yr oedd cefnu ar y dull uniaith, trosiadol o gynhyrchu syniadau.

Roedd yr alwad agored ar gyfer y rhifyn canlynol, pedwerydd ymddangosiad Cynfas, yn cofleidio cymhlethdod y cwestiynau hyn, yn aros gyda’r annifyrrwch, yn annog meddwl a chreu anniben ac anghyfarwydd, ac edrych o safbwynt y presennol. Ymatebodd dwsinau o’r cynnigion mewn dulliau unigryw, chwilfrydig, a heriol i’r briff. Defnyddiodd nifer o awduron gysyniad golwg queer fel modd i ddehongli cystrawen eu hunaniaeth eu hunain; dewisodd rhai blymio i ddyfnderoedd y berthynas voyeur, wyredig, groes rhwng y gwrthrych a’r gynulleidfa; a heriodd rhai resymeg dybiedig yr echdynnu a’r adfeddu sy’n un o hanfodion adeiladu casgliadau amgueddfa, a’r berthynas elyniaethus (weithiau) â phobl ar y cyrion. Roedd llinynnau eraill yn plethu drwy’r gwahanol gynnigion, ond roedd y testunau a’r projectau a ddewiswyd yn y pen draw yn sefyll allan am eu bod yn asio’n gelfydd y personol, y gwleidyddol a’r aesthetig, gan gynnig perspectif unigryw ar eu maes dewisol.

Dim ond un o bum cyfrannwr Cynfas 4 (tri yn cyfrannu testun ysgrifennedig a dau yn cynllunio gweithgareddau ar-lein) oeddwn i’n eu hadnabod wrth ddechrau’r broses o rannu’r rhifyn hwn â’r byd. Maen nhw’n cwmpasu amrywiaeth o brofiadau bywyd, lleoliadau a mynegiant rhywedd, gaiff eu hadlewrchu yn eu gwaith. Gobeithio y bydd pawb sy’n rhugl neu’n dysgu Cymraeg yn darllen y ddwy fersiwn o’r testunau, i weld sut mae geiriau’r cyfrannwyr yn canu’n wahanol i gyfeiliant lleisiau tîm cyfieithu Amgueddfa Cymru. Mae Golwg queer yn fframwaith cymharol o’i hanfod, ac mae pob gwaith newydd a gomisiynwyd ar gyfer y rhifyn yn cyfoethogi’u gilydd mewn modd hynod swynol. Mae’r cyfanwaith yn gywaith disglair o’r golwg queer sydd ym mhobman, gan gynnig llwybrau at ddealltwriaeth rhydd o pwy a ble ydyn ni – a sut ydyn ni’n edrych – yng Nghymru â’r byd, o safbwynt y cyfnod queer, queer, queer hwn yn ein hanes.

“Drysau caeedig, drysau di-nod, drysau’n cuddio dan ein trwynau. Drwy’r mudandod y byddwn ni’n rhithio posibiliadau a ffantasi i ni’n hunain.”

Owain Train McGilvary, Fedrai ’Mond Dychmygu Ymestyn

 “Mae caethiwed mewn caeau hefyd, a drysau i bob cyfeiriad.”

fin Jordão, Cracked-open earths: / Bryn y glöwr ac ymdeimlad queer


Awdur a gweithiwr celfyddydol o Aberystwyth yw Dylan Huw. Mae’n un o gyd-sefydlwyr mwnwgl, cyfnodolyn o sgwennu/celf Cymrae/eig, ac mae ganddo M.A. mewn Diwylliannau Gweledol o Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Mae’n byw ar hyn o bryd yng Nghaerdydd gyda’i gariad ac yn gweithio yn adran datblygu creadigol National Theatre Wales. dylanhuw.com



Share


Comments

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

More like this