CYNFAS

Manon Awst
27 Mai 2021

Cynefin

Manon Awst

27 Mai 2021 | Minute read

Croeso i'r 5ed rhifyn o gylchgrawn digidol Cynfas, y tro yma ar y thema ‘Cynefin’, wedi ei olygu gan yr artist a'r bardd Manon Awst.

Heb fedru teithio a symud rhyw lawer dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r rhan fwyaf ohonom wedi treulio llawer o amser yn ein milltir sgwâr. Ond mae cynefin fel cysyniad yn orwel eang, ac yn unigryw i bob un ohonon ni. Mae’r neges uchod gan y golygydd yn ein tywys drwy res o gwestiynau, gan estyn gwahoddiad i ni ddod ar siwrne drwy safbwyntiau amrywiol cyfranwyr y rhifyn: artistiaid, haneswyr, archeolegwyr a chyfansoddwyr sydd wedi eu hysbrydoli gan wrthrychau yng nghasgliad yr Amgueddfa Genedlaethol.


Ai cartref yw cynefin?
Ffrwd o deimlad cyffredin,
neu ffordd o sefydlu ffin?

Parhad mewn adeiladau
hwyrach, yn uno achau
drwy'r capel, chwarel a chae?

Neu oherwydd rhyw gariad
penodol at leoliad,
boed ddyffryn, neu lyn neu wlad?

Mae'n orwel sy'n apelio,
un anodd i'w esbonio
yn rhwydd, felly awn am dro...


Mae Manon Awst yn artist a bardd sy'n byw yng Nghaernarfon.

https://manonawst.com


Share


More like this