CYNFAS

The Angharad
27 Mai 2021

The Folk Song We All Know

The Angharad

27 Mai 2021 | Minute read

Yn ein Cynefin y byddwn ni’n gwneud ein llafur cynhaliol parhaus. Nid drwy newid y byd, ond drwy lanhau, coginio a chynnal ein hunain beunydd. Caiff y gwaith ei gyflawni yn draddodiadol gan fenywod a phobl dosbarth gweithiol, ond mae’n gyffredin i bawb. Mae gwaith cynnal, fel cerddoriaeth, yn fyrhoedlog.

Mae The Folk Song We All Know gan The Angharad yn cymryd mantais o ymestyn synau cegin y tu hwnt i’w heithafion arferol, gan greu elfennau melodaidd a breuddwydiol, er mwyn meithrin naws ymlaciol a myfyriol. Caiff y cyfan ei greu o synau cyffredin wedi’u recordio mewn cegin, synau fydd yn cael eu creu gan filiynau ym mhob cwr o’r byd bob dydd.

“Wrth weithio ar y darn hwn, sylwais fy mod yn fwy presennol ac ymwybodol o’r synau o nghwmpas a’r synau oeddwn i’n eu creu. Wrth i chi wrando ar y gwaith hwn rwy’n gobeithio y bydd peth o’r ymwybyddiaeth honno yn aros gyda chi, y gynulleidfa, ac yn eich helpu i ganolbwyntio ar y presennol, a gweld bod synau unigol a phrofiadau synhwyrol pob eiliad o’ch bywyd yn bwysig.”


Artist 26 oed anneuaidd anabl traws yw Angharad. Maen nhw’n gerddor ac artist sain sydd wedi cynhyrchu senglau a fideos cerddoriaeth, podlediadau, cyfresi YouTube, a gwaith theatr. Maen nhw’n credu bod popeth yn gymhleth, a bod golygu’r arlliwiau yn creu camargraff.

Rhagor yn TheAngharad.com



Share


More like this