Mae sefydliadau ac unigolion ar draws y byd wedi creu catalogau anferth o wrthrychau, celf a gwybodaeth – amgueddfeydd, llyfrgelloedd, casgliadau celf, archifau. Rhan allweddol o'r broses hon yw penderfynu beth sy'n haeddu cael ei gadw i addysgu'r genhedlaeth nesaf. Ar ôl sylwi ar y nifer fawr o bastynau yng nghasgliad ar-lein Amgueddfa Cymru, dechreuais ofyn pam ei bod hi'n bwysig casglu a chadw'r gwrthrychau hyn a ddefnyddiwyd i frifo a bygwth dinasyddion? Beth mae eu bodolaeth yn ei ddysgu i ni? Cefais fy ysbrydoli i greu arteffactau fy hun sy'n adlewyrchu hanesion coll y modd y mae cyfraith yn newid.
Cefais fy nenu'n benodol at un pastwn oherwydd ei berthynas â Therfysgoedd Beca – y brotest yng ngorllewin Cymru yn erbyn y tollbyrth. Byddai dynion yn gwisgo dillad merched ac yn paentio'u hwynebau fel cuddwisg, cyn mynd i ddinistrio'r tollbyrth oedd yn dwyn eu bywoliaeth. Gweithred anghyfreithlon, ond gweithred sy'n cael ei chofio am iddi arwain at ddiddymu'r tollbyrth yn llwyr. Daeth y pastwn yn arteffact nodedig oherwydd taw bwriad yr heddlu a llywodraeth y DU oedd atal pobl Cymru rhag newid eu bywydau er gwell. Mae trin gweithredoedd gwleidyddol treisgar yn wahanol yn hen arfer gan yr heddlu.
O ystyried i ddechrau sut mae trais cyfreithlon ac anghyfreithlon yn gweithio, ac yn sgil yr ymgyrchu diweddar yn erbyn y Ddeddf Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd (2021), mae'n bwysicach nac erioed cwestiynu pam a sut y caiff trais ei ddefnyddio. Caiff trais gwleidyddol ei ddiffinio fel gweithredoedd corfforol a seicolegol gyda'r nod o anafu neu fygwth pobloedd, a bydd hyn yn cael ei gosbi’n fwy llym dan y ddeddf newydd. Yn rhan o'r un ddeddf, caiff protestio di-drais yn erbyn mesuron y llywodraeth ei gyfyngu, hyd yn oed pan fydd y system yn niweidio safon byw (a safon byw'r sawl na all bledio'u hachos eu hunain). Mae gwneud protestio heddychlon yn anghyfreithlon yn ei gwneud hi'n anodd iawn i herio'r gyfraith. Ac mae newid deddfwriaethol yn aml yn cymryd cenedlaethau i wneud newid gwirioneddol i fywydau pobl, yn enwedig pan nad yw'r bobl sy'n cael eu heffeithio wedi eu cynrychioli yn Nhŷ'r Cyffredin.
Criw dethol iawn o bobl sy'n creu deddfau yn y DU, ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cadw. Y blaid gyda'r mwyafrif o seddau sydd â'r pŵer mwyaf, ond mae etholiadau wedi'u seilio ar System y Cyntaf i'r Felin yn hytrach na chynrychiolaeth gyfartal. Nid yw'r bobol yn San Steffan chwaith yn gynrychioliad llawn o ddiwylliannau a thraddodiadau'r wlad. Er enghraifft, mae 21% o boblogaeth y DU yn anabl ond llai nag 1% o ASau. Maen nhw wedi'u tangynrychioli ac nid yw eu hawliau yn cael ystyriaeth deg. Mae 14% o'r boblogaeth o leiafrif ethnig, ond dim ond 8% o ASau sydd o leiafrif ethnig. Ac mae'r broblem yn amlycach fyth pan fydd hunaniaeth person yn pontio grwpiau. Nid oes un AS trawsryweddol, ac nid oes cofnod o bobl anneuaidd neu rhyngryw, felly nid yw'r ystadegau yn bodoli. Caiff pob person ei siapio gan eu bywyd, eu diwylliant a'u traddodiadau eu hunain. Heb gynrychiolaeth deg yn ein system gyfreithiol, ni fydd persbectif y bobl hyn yn cael llwyfan, ac ni allant lywio newid. Rwy'n credu y gall addysg, a naratif hanesyddol gwell a mwy agored, newid bydolwg moesegol ein cenedl a sut y caiff grym ei rannu.
Mae cwestiynau am gyfreithlondeb yn arwain yn aml at ddiffinio hanes neu ddiwylliant addas, a beth ddylai gael ei warchod neu beidio. Ond pwy sydd â'r hawl i ddweud beth sy'n werth ei gofio? Yn aml iawn does gan bobl sydd angen i'w diwylliant gael ei warchod ddim amser nac adnoddau i herio'r sefyllfa. Rhaid i ni ddangos ein cefnogaeth i eraill ac egluro eu hanghenion. Gallwn ni wneud hyn gyda boicotio, deisebu, streicio, picedu a llawer mwy, ac os yw protestio uniongyrchol yn anghyfreithlon, yr unig opsiwn yw protest anghyfreithlon. Y dewis arall yw dioddef, neu fod yn orthrymwr goddefol sy'n parhau'r sefyllfa sydd ohoni i'r genhedlaeth nesaf.
I ddathlu llwyddiannau protest drwy hanes rydw i wedi creu baner, o ffabrig a chyfrwng cymysg, i gynrychioli pob mudiad cymdeithasol. Mae sawl ffigwr adnabyddus yma – ar y chwith uchaf mae Martin Luther King Jr, ar y dde uchaf mae John Boyega, yn y canol ar y gwaelod mae Greta Thunberg, ac uwch ei phen hi mae Sylvia Rivera a Marsha P. Johnson. Dewiswyd y lliwiau gwyrdd a phorffor yn y ffrâm i gynrychioli mudiad y swffragetiaid, ac ychwanegwyd y baneri a lliwiau trawsryweddol hefyd. Y cyfuniad o lwyd, porffor a melyn y tu mewn i'r ffrâm yw lliwiau'r baneri anneuaidd, anrhywiol a rhyngrywiol, sy'n cynrychioli'r mudiadau ehangach yn erbyn rhagfarn rhyw. Nid dyfyniadau sydd ar y placiau, ond cyfeiriadau at gannoedd o derfysgoedd a phrotestiadau dros y 125 mlynedd diwethaf; pob un yn amlygu'r ymgyrchoedd niferus sydd wedi troi at brotest. Mae pob elfen o'r darn yn cynrychioli elfen ehangach o hanes cymdeithasol sy'n werth ei ddysgu. Hanesion a arbedodd fywydau.
Rydyn ni'n gwybod taw grym a phŵer gan amlaf sy'n dewis hanes pwy gaiff ei gofnodi. Prin ganrif yn ôl fe gollwyd miliynau o bobl lleiafrifol gan rym y Natsiaid, yn ogystal â sefydliadau amhrisiadwy fel yr Institut für Sexualwissenschaft, y Bauhaus, a bron i bob adeilad pwysig yn Warsaw. Newidiodd y cyfnod statws nifer o leiafrifoedd yn ein cymdeithas am byth. Mae'r hanes a gaiff ei golli, ei ddwyn a'i adfeddu drwy goloneiddio yr un mor bwysig. Fe'i gwelwn wrth ddileu hanes pobl Ddu o gaethwasiaeth a rhyddhad. Gwelodd yr argyfwng AIDS hefyd golli nifer o bobl o bob rhywedd, rhyw a rhywioldeb o ganlyniad i stigma yn ymwneud â'r salwch. Caiff rhyddid unigolion ei ddiddymu mewn carchardai neu ysbytai meddwl, yn ogystal â'u hawl i bleidleisio a'u hannibyniaeth, ac mae'r effeithiau yn parhau wedi iddynt adael. Peth da yw dysgu o hanes. Yr hanes fyddwn ni'n ei rannu a'r hyn fyddwn ni'n ei ddathlu yw ein diwylliant a'n traddodiadau. Yr hyn rydyn ni'n ei gofio yw'r cyfan y gallwn ddysgu ohono.
Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys wedi codi nifer o gwestiynau am sut fyddwn ni'n cofnodi hanes, a stori pwy sydd ddim yn cael ei chlywed a'i rhannu. Heb ddeall heriau pobl eraill allwn ni fyth ddeall sut i greu cymuned ddiogel. Dim ond am bobl fel ni fyddwn ni'n gofalu. Ceir digwyddiadau sy'n sigo seiliau pob diwylliant, ond ein hymateb sy'n bwysig – pwy ydyn ni'n eu dyrchafu a'u grymuso, sut fyddwn ni'n ail-adeiladu? Ni sy'n dewis sut mae cofnodi hanes i'r dyfodol.
Datganiad yr Artist
Dan y llysenw She Elloise, mae She'n amlygu strwythurau cymdeithasol mewn gweithiau celf cyfrwng cymysg megis cerameg, ffabrig, paent, collage a darlunio.
Bydd hi'n aml yn defnyddio hunanbortread a hunanystyriaeth. Mae'n aml yn creu delweddau crefyddol herfeiddiol sy'n trafod strwythurau cymdeithasol a meddylfryd y Gorllewin, yn enwedig y DU. Mae hi'n canolbwyntio ar bynciau fel rhagfarn anabl, niwrowahaniaeth, cyfoeth, amrywiaeth, rhywedd a rhywioldeb, gan amlygu rôl annibyniaeth a grym.
Insta: @she.elloise
Twitter: @SheElloise