Perfformiad safle penodol gan Ragnar Kjartansson yw The Sky in a Room a gydgomisiynwyd gan Artes Mundi ac Amgueddfa Cymru ac sydd bellach yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa. Perfformiodd cyfres o artistiaid glasur Gino Paoli o 1959 Il Cielo In Una Stanza (Yr Awyr mewn Ystafell) drosodd a thro, ddydd ar ôl dydd, tan ddiwedd yr arddangosfa. Cynhaliwyd y perfformiad dros bum wythnos yn oriel Celf ym Mhrydain 1700–1800 ar ôl ei gwagio o unrhyw bortreadau a chelfi – ag eithrio’r organ rococo wych a gomisiynwyd yn wreiddiol gan Watkin Williams Wynn ym 1774 oedd yn cael ei chwarae gan gyfres o gerddorion drwy gydol y diwrnod.1
Mae Ragnar Kjartansson yn adnabyddus am ddefnyddio ailadrodd yn ei waith, ac mae wedi defnyddio nifer o berfformwyr mewn perfformiadau hir yn y gorffennol – o The National yn perfformio eu cân Sorrow droeon yn MoMA PS1 Efrog Newydd, i gerddorion yn chwarae eu hofferynau’n ddiog am oriau dibendraw mewn plasdy baróc yn The Visitors. Mae testun panel yr Amgueddfa ar gyfer The Sky in a Room yn dangos taw bwriad Ragnar oedd i’r gwaith weddnewid yr Amgueddfa, gan beri i ofod ac amser ddiflannu drwy ailadrodd hypnotig y gân, sy'n disgrifio cariad y bardd tuag at butain ddienw fel grym all weddnewid waliau yn fforestydd a nenfydau’n awyr.2 Mae'r gwaith yn ceisio creu rhywbeth anfaterol o lafur materol y gyfres o berfformwyr sydd mor amlwg eu presenoldeb wedi gwagio’r oriel o’i chynnwys.
Mae celf berfformiadol yn y Gorllewin wedi cael ei ddeall ers degawdau yn nhermau theatr draddodiadol ac yn cael ei drafod yn aml yn y meddwl cyhoeddus fel gweithredoedd o ddyfalbarhad, achosi poen, anesmwythyd, neu ddigio eich hun yn fwriadol. Ystyriwch y don o artistiaid ffeminist yn y 60au a’r 70au gan gynnwys Marina Abramović, Yoko Ono a Joan Jonas, oedd yn aml yn defnyddio’u cyrff fel cyfrwng, testun, a gwrthrych yn eu gwaith. Tensiwn yn aml yw sbardun y gweithiau hyn medd RoseLee Goldberg, hynny yw ‘yn hanesyddol mae celf berfformiadol wedi bod yn gyfrwng sy’n herio a thorri ffiniau rhwng gwyddorau, rhywedd, y preifat a’r cyhoeddus, rhwng bywyd bob dydd a chelf, gan ddilyn dim rheolau’.3
Os ydyn ni’n derbyn fod gwaith Ragnar Kjartansson a’i berfformiad ailadroddus hir yn ymdrin â’r tensiwn rhwng yr unigolyn a’r casgliad, rhaid ystyried y tensiwn o safbwynt amodau gwaith materol y perfformwyr.4 Beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n sefyll yn y gofod a gofyn cwestiwn symlach. Beth yw tâl y perfformwyr? Pryd fyddan nhw’n cael egwyl? Pa mor hir yw eu sifft? Sut fyddan nhw’n cael eu gwarchod rhag cael eu poenydio gan y cyhoedd? Yw’r cwestiynau hyn yn ein gwneud ni’n anghyfforddus pan fyddwn ni yn y gofod gyda’r perfformwyr? Pam?
Efallai eu bod yn ein gwneud ni’n anghyfforddus oherwydd bod anghysondeb wrth graidd trafodaeth y Gorllewin o gelf a llafur, lle mae’r artist yn cael ei weld ar un llaw yn fodel o'r gwrthwyneb i waith, ac ar yr un pryd yn fodel o weithgarwch delfrydol dan gyfalafiaeth neoryddfrydol. Gellir olrhain yr arfer hwn o wrthod cydnabod celf fel llafur yn ôl mor bell â Mudiad Celf a Chrefft William Morris, ac yn benodol i Urdd y Gweithwyr Celf oedd am i grefftau gael eu cyfri fel gweithgaredd cymunedol wedi’i lywio i raddau helaeth gan feddylfryd sosialaidd. Mae diffiniadau geiriaduron bron bob tro yn disgrifio celf fel gwrthrych, ac nid ffrwyth llafur.
Gallwn ni felly ddefnyddio’r term ‘llafur anweledig’ wrth drafod arferion gwaith materol yr artist fel gweithiwr, yn ogystal â gweithwyr eraill yn y byd celf a’r diwydiannau creadigol. Mae cyfran helaeth o’r gwaith angenrheidiol i gynhyrchu perfformiad fel The Sky in a Room yn cynnwys ymchwil a gweinyddu, sicrhau nawdd, gosod, dogfennu, marchnata a hyrwyddo, stiwardio, staff diogelwch a glanhawyr, a llawer mwy – gwaith anweledig sydd braidd yn cael ei gydnabod. Y ‘gwaith celf’ ei hun sy’n cael y sylw i gyd, ac yn rhyfedd iawn yn yr achos hwn, yn meddu ar yr annibyniaeth mwyaf hefyd.
Mawr yw dyled y term ‘llafur anweledig’ i’r trafodaethau rhyddfrydol a Marcsaidd-ffeministaidd am waith tŷ ac ati ddiwedd yr 20fed ganrif. Pan fyddwn ni’n herio a thrafod gwaith yn ei hanfod, fel y dywed Amelia Horgan, mae’n ein galluogi i weld esiamplau o ymelwa ac ymdrechu gwleidyddol sy'n aml ynghudd:
‘Gan ddechrau yn yr Eidal ym 1972 cyn lledu’n gyflym i’r DU, UDA, Canada a’r Almaen, dechreuodd menywod fynnu ‘cyflog am waith tŷ’. Roedd hwn yn ddull anarferol o wneud safiad gwleidyddol gan fod manylion yr alwad – y cyflog – yn llai pwysig nag effaith bwriadedig yr alwad ei hun.’5
Gallwn ni weld tebygrwydd yng ngweithredoedd a galwadau'r Artist Workers’ Coalition a Streic Gelf Efrog Newydd yn erbyn Hiliaeth, Rhyfel a Gormes – dau fudiad cysylltiedig a ddaeth ynghyd yn Efrog Newydd ym 1968 i fynnu nifer o newidiadau yn y byd celf ac i hawlio gwell amodau gwaith i artistiaid. Dywed yr hanesydd Julia Bryan-Wilson yn ei hastudiaeth o’r pwnc:
‘Ym 1969 anfonwyd llythyr dienw drwy fyd celf Efrog Newydd yn datgan “Rhaid i ni gefnogi’r Chwyldro drwy ddymchwel ein rhan ni o’r system a braenaru’r tir ar gyfer newid. Mae hyn yn awgrymu gwahanu'r weithred o greu celf yn llwyr o gyfalafiaeth.” Roedd wedi ei lofnodi gan “Weithiwr Celf”. Gweithiwr celf, dienw, yn gwneud galwad ddelfrydol, yn mynnu bod goblygiadau gwleidyddol i’r broses o greu a chyflwyno celf.
‘Mae’r alwad daer yn awgrymu nad yw gwaith bellach wedi ei gyfyngu i’r disgrifiadau traddodiadol o ddulliau aesthetig, y weithred o greu, neu’r gwrthrych celf – mae hefyd yn awgrymu amodau gwaith yr artist, dymchwel y farchnad gelf gyfalafol, a hyd yn oed chwyldro.’6
Dechreuodd y streic gelf yn rhyfedd iawn gyda ‘herwgipiad’, pan fartsiodd yr artist Vassilakis Takis i Amgueddfa Celf Fodern Efrog Newydd a thynnu cerflun roedd yr amgueddfa wedi ei ddangos heb ei ganiatâd.7 Roedd yr amgueddfa wedi caffael y gwaith, ac felly i bob pwrpas yn ei berchen, ac mae’n debyg bod ‘herwgipiad’ Vassilakis Takis yn fodd o amlygu diffyg grym yr artist o fewn i amgueddfeydd a’r ystyriaeth sefydliadol ehangach o gelf fel math o lafur anweledig.
Mae nifer o artistiaid cyfoes adnabyddus yn cynhyrchu gwaith sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng artistiaid, gweithwyr celf a sefydliadau. Mewn arddangosfa yn 2016 o’r enw 5 Weeks, 25 Days, 175 Hours fe gaeodd yr artist Maria Eichhorn y Chisendale Gallery i ymwelwyr a gofyn i staff yr oriel beidio â gweithio am y cyfnod a ddisgrifiwyd yn y teitl. Wedi ymweld â’r oriel a thrafod amodau ac arferion gwaith gyda staff penodol, cynhyrchodd yr artist waith dwy ran yn cynnwys symposiwm un diwrnod ac arddangosfa bum wythnos lle na fyddai’r staff yn gweithio. Gyda’r oriel ar gau i ymwelwyr a dim gwrthrychau na delweddau i’w dangos, roedd y gwaith (y diffyg celf weledol a’r ymdrech i gynhyrchu’r arddangosfa) yn llwyr ddibynnol ar fod yn ‘syniad’ cyhoeddus gyda’r potensial i sbarduno trafodaeth. Drwy beidio â darparu profiad oriel traddodiadol, roedd yr arddangosfa hefyd am ‘herio’r gynulleidfa i ystyried y gwaith mae staff yn ei wneud yn curadu a gweinyddu, a sut mae tynnu’r ymdrech hon yn weladwy a sut all yr effaith gael ei fesur’.8
Roedd arddangosfa Maria, Money at Kunsthalle Bern yn 2000 yn dilyn patrwm tebyg, gyda’r artist yn dewis gwario ei chyllideb ar welliannau i’r adeilad, gan greu arddangosfa heb waith celf ond yn llawn adeiladwyr a phlymwyr wrth eu gwaith. Ategwyd y gwaith gan gatalog arddangosfa oedd yn dogfennu hanes yr oriel, gan gynnwys y modd y cafodd ei hariannu’n hanesyddol gan sefydliadau artistiaid, a bellach gan noddwyr preifat.9 Comisiynwyd 5 Weeks fel rhan o raglen dan nawdd Cyngor Celfyddydau Lloegr a’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon o’r enw ‘How to Work Together’, project cydweithredol tair mlynedd rhwng y Chisendale Gallery, Studio Voltaire a The Showroom. Wrth fyfyrio ar gyhoeddiad o’r enw Think Tank, blog yn dogfennu’r cydweithio rhwng orielau a’u staff, mae Andrea Phillips yn cynnig bod ‘cydweithio yn yr achos hwn, i ddechrau, yn benderfyniad tactegol gan y sefydliadau i dderbyn nawdd, yn ail, yn ddechrau anarferol i fath o gydsefyll byrhoedlog, ac yn drydydd, yn drafodaeth oedd ar brydiau yn hynod anodd’.10
Mae hyn yn berthnasol oherwydd bod gwaith Maria Eichhorn, sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng yr artist gweithiol a’r sefydliad a’i weithlu, yn datgelu realiti noddi diwylliannol dan y drefn wleidyddol sydd, ac a fydd ohoni yn y DU. Law yn llaw â chwtogi parhaus, pellgyrhaeddol o gefnogaeth gan y wladwriaeth drwy doriadau i’r wladwriaeth les a gwasanaethau cymdeithasol o ganlyniad i gynni, mae sefydliadau celfyddydol yn gorfod bod yn gynyddol llai dibynnol ar nawdd cyhoeddus a mwyfwy ar nawdd corfforaethol, rhoddion unigolion ac (efallai yn fwy na dim) ymrwymiad i gynyliadwyedd ariannol a buddsoddiad. Pan fu’n rhaid i amgueddfeydd ar draws y DU gau eu drysau yn ystod pandemig COVID-19 fe drodd nifer o sefydliadau mawr at gwtogi costau, gan gynnwys diswyddo ar raddfa fawr. Atebwyd bwriad Tate i dorri 313 o swyddi yn ei adrannau manwerthu, cyhoeddi a lletya gan streic amhenodol gyda gweithwyr yn mynnu na ddylai unrhyw swydd gael ei cholli tra fo unigolion yn y sefydliad yn ennill dros £100,000 y flwyddyn, y dylai 10% o fenthyciad arfaethedig gan y llywodraeth yn cael ei ddefnyddio i arbed swyddi, ac y dylai’r Tate ymuno ag Undeb PCS i alw ar lywodraeth y DU i ddarparu rhagor o gymorth.11
Cefnogwyd galwad gweithwyr y Tate gan y 10 artist ar restr fer Gwobr Turner 2020 mewn llythyr agored. Dywedodd y llythyr taw’r gweithwyr fyddai’n colli eu swyddi fyddai’r ‘staff ar y cyflog isaf, y mwyaf ansicr a’r mwyaf difreintiedig’ gydag effaith anghymesur ar staff o gefndiroedd BAME, honiad a wadwyd gan y Tate.12 Ateb olaf yw gweithredu diwydiannol pan fo cydfargeinio wedi methu datrys anghydfod rhwng gweithiwr a chyflogwr, gan ddod â’r mater i lygad y cyhoedd mewn modd tebyg i waith artistiaid fel Maria Eichhorn. Efallai nad yw’r gynulleidfa’n gwybod a wnaeth y staff beidio â chynnig eu llafur mewn gwirionedd neu a gawsant eu perswadio i weithio yn groes i gais yr artist, ond mae’r weithred yn amlwg yn ceisio dynwared prosesau cymdeithasol, diwylliannol ac ariannol y sefydliad.
Ond beth yw ystyr cydsefyll yn y byd celf? Mewn oes pan fo artistiaid ar restr fer gwobrau hael yn penderfynu rhannu’r arian, oes perygl bod sefydliadau yn manteisio ar wleidyddiaeth a gwrthsefyll radical. Mae bell hooks yn trafod y gwahaniaeth rhwng cefnogaeth a chydsefyll drwy ddweud ‘gall cefnogaeth fod yn amserol; gall gael ei roi a’i dynnu’n ôl yn hawdd. Mae cydsefyll yn gofyn am ymrwymiad cyson, parhaus’.13 Mae’r ffaith taw artist preswyl yr ICA yn 2021 yw’r criw lleiaf posib, criw celf gwrth-waith amlddisgyblaethol, yn dangos diddordeb ehangach yn arferion gwaith artistiaid sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chyfiawnder a thegwch cymdeithasol. Fel y dywed Dylan Huw, ‘nid yn llygredd y “byd celf” (marchnadol, cis-hetero-patriarchaidd, unfath ni raddau helaeth) y mae egni creu celfyddydol heddiw, ond yn hytrach yn y gwaith sy’n gwerthfawrogi cyfraniad democratig ac yn dychmygu byd tu hwnt i'r presennol’.14 Yn wir, fe ddangosodd un o’r enwau ar restr fer Gwobr Turner eleni, Black Obsidian Sound System, bod gwerth o hyd mewn cicio yn erbyn y tresi, a diolch am yr enwebiad drwy fynnu ‘yr hawl i ffynnu mewn amodau sy’n meithrin a chefnogi’.15
Mae Stephen yn raglennydd, cynhyrchydd ac ymchwilydd ffilm llawrydd sy’n ceisio blaenoriaethu arferion gofal, ecwiti ac hygyrchedd yn ei waith yn y diwydiant ffilm. Ers 2014 mae wedi gweithio ar gyfer Artes Mundi, Chapter, Film London Artists’ Moving Image Network a Gŵyl Ffilm Gwobr Iris, ac fe aeth yn llawrydd yn 2019 gan weithio ar brosiectau fyddai’n cynnwys ymgyrchoedd ymgysylltu cenedlaethol ar gyfer ffilm ddiweddaraf Ken Loach, Academïau Ffilm y BFI i bobl ifanc, a mwy. Mae’n angerddol am wella cynrychiolaeth y dosbarth gweithiol, cwiar ar y sgrîn a thu ôl iddi, ac wedi cyflawni MA mewn Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Bryste yn ddiweddar.
Nodiadau
2 https://museum.wales/cardiff/whatson/9865/The-Sky-in-a-Room-by-Ragnar-Kjartansson/
3 RoseLee Goldberg. Performance: Live art since the 60s, Efrog Newydd: Thames & Hudson, 1998, t. 20.
4 https://thevinylfactory.com/films/ragnar-kjartansson-the-national-a-lot-of-sorrow/
5 Amelia Horgan, Lost in Work: Escaping Capitalism, London: Pluto Press, 2021, t. 39.
6 Julia Bryan-Wilson, Art Workers: Radical Practice in the Vietnam War Era, Berkeley, Los Angeles and London: University of California Press, 2009, t. 1.
7 Ibid, t. 13.
8 Polly Staple, Preface, ‘Maria Eichhorn: 5 Weeks, 25 Days, 175 Hours’, https://chisenhale.org.uk/wp-content/uploads/Maria-Eichhorn_5-weeks-25-days-175-hours_Chisenhale-Gallery_2016.pdf
9 Mai Thu Perret, ‘Maria Eichhorn’, Frieze, https://www.frieze.com/article/maria-eichhorn
10 Andrea Phillips, ‘Invest in what? How to work together, the Arts Council’s Catalyst Fund and art’s contemporary economic infrastructure’, https://howtoworktogether.org/think-tank/invest-in-what-how-to-work-together-the-arts-councils-catalyst-fund-and-arts-contemporary-economic-infrastructure/
11 https://www.frieze.com/article/why-tate-staff-are-strike
12 https://www.instagram.com/p/CEG4WZQF3wr/?utm_source=ig_embed
13 bell hooks, ‘Sisterhood: Political Solidarity between Women’, Feminist Review Rhif. 23, Socialist-Feminism: Out of the Blue (Summer, 1986), tt. 125–138, ar gael fan hyn: https://www.jstor.org/stable/1394725
14 Dylan Huw, ‘Grassroots Collectives at the Gates’, Planet Magazine
15 https://www.artlyst.com/news/turner-nominated-black-obsidian-sound-system-bites-hand-tate/