CYNFAS

Amgueddfa Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru
20 Rhagfyr 2021

Creu Gwaith Newydd: Artistiaid yn Ymateb i Nawr

Amgueddfa Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru

20 Rhagfyr 2021 | Minute read

Project comisiwn dan arweiniad artistiaid yw Creu Gwaith Newydd: Artistiaid yn Ymateb i’r Nawr. Ar ddechrau 2021 gofynnodd Cyngor Celfyddydau Cymru i bum artist sydd â'u gwaith yng nghasgliad Amgueddfa Cymru – Michal Iwanowski, Sue Williams, Bedwyr Williams, Bev Bell-Hughes a Daniel Trivedy – i ddewis artist rhagorol yng Nghymru sydd ar ddechrau'u gyrfa ac ar foment allweddol yn eu datblygiad fyddai'n elwa'n sylweddol o gefnogaeth a chomisiwn.

Yr artistiaid a ddewiswyd i gymryd rhan yn Creu Gwaith Newydd: Artistiaid yn Ymateb i’r Nawr yw: Philip Cheater, Jo-Anna Duncalf, Geraint Ross Evans, Emily Laurens, Toni Osuji, Mia Roberts, João Saramago a Dafydd Williams.

Artist yn gweithio yn Abertawe yw Philip Cheater, mewn stiwdio gydag oriel Elysium. Drwy ei waith mae Philip yn edrych ar greu ystyr mewn bywyd bob dydd a sut y gall elfennau gael eu haddasu i wyrdroi ein dealltwriaeth o'n byd. Mae wedi bod yn datblygu syniadau am strwythurau grym a systemau rheoli, ac yn y rhifyn hwn o Cynfas mae'n rhannu map gwead i gyflwyno materoliaeth y syniadau mae wedi bod yn eu trafod.

Artist yn gweithio gyda chlai yng ngogledd Cymru yw Jo-Anna Duncalf. Mae ei gwaith presennol yn edrych ar amryw ddulliau o osod testun mewn clai ac arno, gan ddefnyddio llythrennau i greu siapau positif a negatif, a phatrwm, ysgythru, haenau a darnau modwlar niferus i gyflwyno'i gwaith. Ar gyfer y comisiwn mae Jo-Anna wedi casglu myfyrdodau pobl am Covid-19 i arbrofi a chreu gwaith newydd.

Artist ffigurol yw Geraint Ross Evans sy'n gweithio yng Nghymru drwy gyfrwng darlunio, paentio a gosodwaith. Maes chwarae yw'r gofod darlunio i Geraint, lle i arbrofi â datrysiadau i broblemau cymhleth a chreu posibiliadau am fyd gwell. Ar gyfer y comisiwn hwn mae Geraint wedi cael ei ysbrydoli gan ei brofiad o banorama a murluniau, yn ogystal ag arbrofi â cartograffeg, adeiladu bydoedd a ffigyrau. Mae'n rhannu pedair cainc o'r ymchwil hwn â ni.

Mae gwaith Emily Laurens yn pontio celf gyfranogol, ffilm, celf weledol, theatr a chelf byw. Yn ystod y comisiwn hwn mae wedi gweithio ar ffilm newydd yn edrych ar ffasiwn cyflym a hanes diwydiant dillad Cymru. Yma mae hi'n cyfleu ei syniadau, ei chanfyddiadau a chyd-destun ei gwaith yn ogystal â rhannu'r ffilm.

Artist a ffotograffydd yn gweithio yn ne Cymru yw Toni Osujini. Ei diddordeb mewn theori ac arfer anthropolegol sy'n llywio ei gwaith, a'r syniad o gydgysylltiad. Wrth fyfyrio ar effaith corfforol a meddyliol hirdymor y pandemig, gan gynnwys dadbersonoli o ganlyniad i straen, mae Toni wedi bod yn edrych ar ei 'gwreiddio' a'i gorffwys ei hun. Ar gyfer y rhifyn hwn o Cynfas mae wedi ysgrifennu darn newydd ar gelf ac ofn.

Artist sy'n byw a gweithio yng ngogledd Cymru yw Mia Roberts. Mae gwaith Mia yn trafod microddiwylliannau trefi bach y Gogledd o safbwynt rhywioldeb, gwrywdod, iechyd meddwl, dibyniaeth, trais a gwleidyddiaeth. Mae'r gwaith yn cwmpasu cerfwaith mawr, delweddau, fideo a sain, gan fyfyrio ar drawsnewid, hormonau, salwch a marwolaeth, clawstroffobia ac unigedd, a'r hapusrwydd sydd i'w gael mewn grwpiau lleol.

Artist o Lisbon ym Mhortiwgal yw João Saramago yn wreiddiol, ond sydd bellach yn gweithio yng Nghaerdydd. Yn ei waith mae'n trafod syniadau o wendid a dyfalbarhad drwy gyfrwng darlunio, ffotograffiaeth, perfformiad, ffilm a gosodwaith penodol i safle. Bydd esiamplau o bob un o'r prosesau i'w gweld yn y rhifyn hwn o Cynfas.

Artist yn gweithio yn Abertawe yw Dafydd Williams. Mae'n defnyddio'i waith fel modd o gysyniadu, deall ac amlygu bywyd, hanes, anffafriaeth a dylanwad Queer drwy ganolbwyntio ar ei fywyd hoyw ei hun, heteronormalrwydd, cof a dyfeisiad. Yma mae'n codi'r llen ar ei broses, ei feddyliau a'i gwestiynau yn ystod y comisiwn.

Mae Creu Gwaith Newydd: Artistiaid yn Ymateb i’r Nawr yn un o bedwar project Celf ar y Cyd a ddatblygwyd i rannu celf ar draws Cymru mewn ymateb i'r pandemig. Mae'r project yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Arweiniwyd project Creu Gwaith Newydd: Artistiaid yn Ymateb i’r Nawr gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda'r Cydweithwyr Celfyddydol Elen Roberts a Louise Hobson.


Share


More like this