CYNFAS

Emily Laurens
15 Rhagfyr 2021

Y Ffashiwn Beth (Y Dywysoges a’r Bysen)

Emily Laurens

15 Rhagfyr 2021 | Minute read

Mae gan y dywysoges fraint ond mae hi'n fregus, yn simsan, ar y pentwr uchel hwnnw o fatresi a gwelyau plu. Nid yw'r holl haenau yna'n ddigon i'w gwarchod rhag gwirionedd y bysen sych, grychiog.

Mae'r stori hon wedi bod ar fy meddwl byth er dechrau'r project hwn – ymchwiliad i ffasiwn cyflym a hanes diwydiant dillad Cymru. Nid pentwr o welyau plu perffaith stori tylwyth teg fydda i'n eu dychmygu chwaith, ond yr hen fatresi welwch chi yn y domen. Yn staeniau a llwydni i gyd wedi'r cyfan y bydd matresi yn dyst iddyn nhw – misglwyf, chwys twymyn hunllefus, cyfathrach rywiol, geni a marw. Gwrthrychau sydd wedi'u plethu'n llawn â'r corff dynol yw'r matresi hyn. Ond mwy am hynny eto.

Fi yw'r dywysoges yn y trosiad hwn. Prynwr ffasiwn gwyn, dosbarth canol o'r Gorllewin. Mae'r bysen sy'n fy nghosi, yr hyn sy'n fy ngwneud yn anghysurus, yn rhywbeth sydd ddim yn fy mrifo yn uniongyrchol ond sy'n ei gwneud hi'n amhosib i mi gysgu'n esmwyth, sef cyfalafiaeth.

Weithiau rydw i'n teimlo gwir alar a chynddaredd am yr anghyfiawnder, yr anghyfartaledd a'r niwed systemig sy'n rhan annatod o gyfalafiaeth, ond os ydw i'n onest, cosi yw'r cyfan. Yn wahanol i wisgo crys rhawn, garw, anesmwyth er mwyn edifarhau neu wneud yn iawn, nid yw'r cosi yma'n ddim ond rhwystr i fwynhau yn llawn fraint fy statws fel tywysoges. Mae'n ei gwneud yn amhosib i mi brynu fy hoff ddillad, fy hoff fwyd, neu dusw blodau o Kenya. Fel Neo yn The Matrix rydw i wedi cymryd y dabled goch, wedi darllen yr erthyglau, wedi gweld y rhaglenni dogfen, ac yn methu mwynhau yn llawn y breintiau sy'n agored i mi. Fel y dywysoges, rydw i'n anghyfforddus, a'r bysen yw cyfalafiaeth yn ei holl ogoniant.

Ond mae yna rywbeth sydd i fod i 'ngwarchod i rhag y bysen – y matresi, y matrix. I mi mae'r matresi gwarchodol hyn yn gymysgedd o amddiffynfeydd a dulliau dygymod sy'n fy ngalluogi i fyw o ddydd i ddydd; elfennau cyfalafiaeth sy'n cuddio'n fwriadol ei natur ddinistriol, niweidiol.

20 matres a gwely plu

  1. Cadwyni cyflenwi astrus
  2. Dihangfa ac atyniad y moethus
  3. Datganiadau moesegol amwys cwmnïau 
  4. Methu uniaethu â gweithwyr yn y rhan fwyaf o'r byd (ac mae hiliaeth yn ffactor yn hyn)
  5. Cwlt perffeithrwydd (y cyfryngau cymdeithasol)
  6. Natur anweledig yr erchyllter
  7. Rhwyddineb gwario (talu gyda cherdyn, cardiau credyd, cronni dyledion)
  8. Dyma beth mae pawb arall yn ei wneud
  9. Diffyg dewis ymddangosiadol
  10. Y syniad ffals o'r pellter daearyddol rhyngof i a'r sweatshop (mae sweatshops yn y DU)
  11. Mae dillad y sweatshop ym mhobman
  12. Ansicrwydd am ba mor wael yw hi mewn gwirionedd
  13. Dryswch ffasiwn sy'n newid yn gyson
  14. Gwefr siopa (y rhuthr dopamine)
  15. Natur gaethiwus siopa ar-lein
  16. Y berthynas rhwng enwau mawr ffasiwn cyflym ag enwogion/dylanwadwyr
  17. Mae'r byd yn mynd â'i ben iddi beth bynnag (felly pam ddim mwynhau tra gallwn ni)
  18. Mae angen gwaith ar fwyafrif y byd/y de bydol
  19. Yr angen i gael ein derbyn gan gymdeithas
  20. Llenwi twll dirfodol

Dydyn ni, y prynwyr, ddim i fod i wybod am y sweatshops. Rydyn ni wedi ein gwahanu'n llwyr o'r dull cynhyrchu. Ond rydw i'n byw yng ngorllewin Cymru ac mae creu dillad yn greiddiol i'n hanes diweddar. Yn y project hwn dyma fi'n dadwisgo ychydig o'r hanes hwnnw, yn gwrando ar straeon pobl a gofyn: tasen ni'n cofio a dathlu'r gorffennol yn llawn, fydden ni'n gwneud gwell penderfyniadau am ble mae ein dillad yn dod? Ac allwn ni ddychmygu dyfodol lle byddwn ni'n creu dillad unwaith eto yng ngorllewin Cymru?

Mae Y Ffasiwn Beth yn rhan o ymchwil parhaus i ddefnydd, dillad, a'r diwydiant dillad/addurn parod o'r enw ffasiwn cyflym*. Wrth ddilyn y llinyn benodol hwn, bydda i'n edrych ar symud ffatrïoedd dillad o orllewin Cymru i Affrica ac Asia. Roedd y ffatrïoedd hyn, yn enwedig Dewhirst (Slimma gynt) yn creu dillad ar gyfer Marks & Spencer ac eraill o'r 1960au i ddechrau'r 21fed ganrif.

Fy stori i yn rhannol yw stori Slimma/Dewhirst a symud y cwmni, neu yn hytrach, mae hi'n rhan o fy hanes personol. Cefais i fy magu yng ngorllewin Cymru ac rydw i bellach yn byw ym mhrifddinas diwydiant gwlân y 19eg ganrif a chartref Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre. Pan oeddwn i'n ifanc roedd teulu a ffrindiau yn gweithio yn ffatrïoedd Slimma/Dewhirst, ac roedden nhw'n rhan o fywyd yr ardal. Roedd yma hefyd ffermio, twristiaeth a gweithgynhyrchu. Heddiw mae'n teimlo fel taw twristiaeth yw'r unig ddiwydiant byw, ond mae cymaint o'r cyfoeth gaiff ei gynhyrchu gan dwristiaeth yn cronni tu allan i'r ardal. Mae ail dai yn creu pentrefi sy'n wag a diffrwyth yn y gaeaf, a diffyg tai i bobl leol eu prynu a'u rhentu. Mae'r rhain yn broblemau byw a thorcalonnus yn fy nghymuned.

Cymuned yw'r man cychwyn i mi yn aml. Rydw i'n hoffi dechrau gyda phrofiad bywyd, profiad rhywun gwahanol i fi, a'r cam cyntaf oedd cyfweld gweithwyr a chyn-weithwyr lleol y diwydiant tecstilau. Doedd hwn ddim yn broject hanes llafar anferth, er i fi ddilyn canllawiau a moeseg casglu hanes llafar a thalu pob cyfrannwr am eu hamser.

Fe siaradais i â chwe menyw oedd wedi gweithio yn y diwydiant tecstilau ym Mhort Talbot, Aberteifi ac Wdig. Roedd y rhan fwyaf yn gweithio yn ffatri Dewhirst yn Aberteifi yn 2001 pan wnaeth honno gau gan ddiswyddo 400. Roedd yr hyn ddywedon nhw yn fy synnu.

Roeddwn i'n disgwyl iddyn nhw rwgnach am Dewhirst, y cwmni a symudodd i Morocco ac yna Bangladesh ac sydd bellach yn rhan o gadwyn gyflenwi 'trydydd parti' gymhleth sy'n galluogi siopau'r stryd fawr i osgoi ymrwymiadau amgylcheddol a moesegol. Symud ffatrïoedd o'r Gorllewin i weddill y byd sydd wedi galluogi ffasiwn cyflym i dyfu'n hunllef cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol.

Ond roedd y menywod wnes i eu cyfweld yn caru Dewhirst ac yn teimlo bod y cwmni yn gofalu amdanyn nhw.

Elin am Dewhirst, Aberteifi: "Roedd y cyfleoedd yn y ffatri yn wych, doedd dim ots am dy ganlyniadau di yn yr ysgol, y cyfan oedd yn bwysig oedd gwaith caled."

Siân, am Morris and Cohen, Port Talbot: "Mae'n waith blinedig, a'r sŵn, ie, oherwydd doedd dim amddiffynwyr clustiau na dim byd felna, a byddai'r gerddoriaeth yn fyddarol hefyd, ond gweithlu hapus, hapus, cymeriadau, cymeriadau go iawn... a'r tynnu coes... roedden nhw'n griw da... ac roedd y partïon Nadolig yn sbort."

Mae byd o wahaniaeth rhwng y rhain a'r adroddiadau rydw i wedi'u darllen o sweatshops yn India a Bangladesh:

Sakamma, 42 oed a mam i ddwy ferch yn gweithio i gyflenwr GAP, Texport, yn Bengaluru, India: "Mae'n brifo cael dy dalu cyn lleied. Rhaid i fi wneud hyn ac mae nhw'n gwerthu'r dillad am fwy na fydda i'n cael fy nhalu mewn mis. Allwn ni ddim bwyta bwyd iach. Dyw ein bywydau ni ddim yn dda, rydyn ni'n byw mewn poen am weddill ein bywydau a marw mewn poen. Cyflogau isel yw'r prif reswm. Faint o faich all menyw ei ysgwyddo? Gŵr, plant, tŷ a gwaith ffatri – sut allwn ni ddygymod â'r cyfan ar gyflog mor fain? Felly rydyn ni'n sownd mewn magl o ddyled. Oes ateb i'n problem ni? Mae'r targedau'n rhy uchel. Mae nhw'n galw am 150 o ddarnau yr awr. Pan fyddwn ni'n methu'r targedau mae'r trais yn dechrau. Mae gormod o bwysau; mae fel artaith. Allwn ni ddim cymryd egwyl neu yfed dŵr neu fynd i'r tŷ bach. Mae'r goruchwylwyr ar ein cefnau drwy'r amser. Byddan nhw'n ein galw yn asyn, yn dylluan [creadur gyda chysylltiadau cythreulig], yn gi ac yn ein gwawdio... yn gwneud i ni sefyll o flaen pawb, a dweud wrthon ni fynd i farw."

Cyfieithiad o erthygl yn y Guardian gan Gethin Chamberlain (2012) 

Dyma o ble daw ein dillad.

Gan y menywod o Gymru wnes i eu cyfweld roeddwn i'n disgwyl clywed am chwerwder a chaledi ariannol, ond yn hytrach, yr hyn a gollwyd pan gaeodd y ffatrïoedd oedd cyfeillgarwch "roedd e'n drist iawn, bron fel galaru".

Dyma nhw'n canfod swyddi eraill – roedd galw am eu sgiliau a dechreuodd nifer eu busnesau eu hunain. Ond fe gollon nhw rywbeth annirnad. Roedd y ffatri fel cymuned, yn deulu estynedig gyda'i gymeriadau, ei systemau a'i ddefodau ei hun. Doedd dim byd tebyg.

Mae hyn yn ein hatgoffa nad yw pethau materol yn bwysig. Gwreiddyn bywyd yw'r pethau rhwng y craciau – y straeon, yr atgofion, y perthnasau. Mae hefyd yn ein hatgoffa nad yw anghyfartaledd a chaledi yn rhan annatod o'r diwydiant dillad. Dyma fenywod yng Nghymru yn creu dillad a mwynhau eu gwaith, yn cael cyflog teg a chynhyrchu nwyddau ar gyfer y stryd fawr. Dillad i bobl gyffredin.

Ond beth os yw'r pethau real yn bwysig hefyd, ond nid yn y modd dychmygwn ni, nid yn nhermau gwerth ariannol. Yw dull y Gorllewin o feddwl wedi creu bwlch annaturiol rhyngom ni a phethau? Mae digonedd wedi cael ei ysgrifennu am hyn. Yn ei lyfr Thing Theory mae Bill Brown yn dyfynnu Maurice Merleau-Ponty sy'n dweud sut mae pobl wedi “ymgolli mewn pethau” a bod y corff yn “beth ymhlith pethau”[1] ac mae Terence E. Rosenberg yn gwneud dadl gref fod “pethau wedi'u gwneud yn cwmpasu ein bodolaeth a'r cyfan y gallwn ei brofi, gan gynnwys yr hyn y ceisiwn ei wahaniaethu fel y naturiol.”[2]

Alla i ddim taflu esgidiau fy chwaer, fu farw saith mlynedd yn ôl. Maen nhw'r un siâp â'i thraed, wedi mowldio iddi, gallwch chi weld ôl ei thraed ar y mewnwadn. Roedden nhw'n ei chario. Dyma'r cyfan sydd gen i ohoni nawr, yn faterol – dillad, esgidiau a phethau eraill.

Fel fi, mae gweithwyr Dewhirst ynghlwm â'r pethau, y stwff, y gwrthrychau o'u cwmpas. Dywedodd Tracy taw'r peth wnaeth ei tharo'n wirioneddol ar ôl cau ffatri Dewhirst yn Aberteifi oedd gweld y peiriannau gwnïo yn cael eu llwytho ar lori i'w cludo i Morocco, lle roedd y ffatri'n symud.  Ar ôl saith mlynedd ym Morocco symudwyd y peiriannau i Bangladesh, ond aeth dim un o staff Dewhirst gyda nhw "Doedd dim angen person cynhyrchu arnyn nhw" meddai Elin, a dreuliodd saith mlynedd ym Morocco yn rheoli'r ffatri "Felly collais i fy swydd... Ym Morocco roedd popeth yn cael ei wneud fel y bydden ni yn Aberteifi." Ond roedd y ddwy ohonon ni'n gwybod taw nid felly mae hi ym Mangladesh, ble mae Dewhirst yn dal i weithredu.

Mae Tracy yn teimlo'n warchodol iawn dros y peiriannau, "ein peiriannau NI oedden nhw" meddai. Siaradodd Tracy a Jean am sut y gallen nhw ddweud os oedd rhywun arall wedi defnyddio eu periant. Mae peiriannau gwnio diwydiannol yn fetel, lliw gwlanen llwydaidd croen Cawcasaidd. Byddan nhw'n cynhesu, yn canu grwndi a  throelli wrth i ffabrig gael ei dynnu drwodd fesul pwyth. Mae curiad y nodwydd yn debyg i fywyd. Roedd menywod ffatri Dewhirst mor gyfarwydd â'r broses gynhyrchu, gallen nhw ddweud os oedd jins yn y siop yn dod o'u ffatri ‘nhw’ drwy edrych. Gofynnais i sut, "Dim syniad, rhywbeth i wneud gyda hyd y pwythau, y tensiwn efallai, dim syniad." Rhywbeth annirnad.

Yn ogystal â chyfweld gweithwyr y diwydiant dillad, fe ymwelais i â'r casgliad tecstilau yn Sain Ffagan. Dyma fi'n mynd ag uno'r menywod, Siân Conti, gyda fi. Ar fy ymweliad â Sain Ffagan roeddwn i'n holi fy hun "pam ydw i yma? Beth sydd â hyn i wneud â ngwaith i, â ffasiwn cyflym?".

Mae'r pethau, y gwrthrychau, y stwff yn Sain Ffagan wedi'i wahanu yn llawn. Popeth allan o gyd-destun, yn unigol, pob dilledyn ar wahân i'w berchennog a'i le a'i swyddogaeth wreiddiol a'r labeli a'r storiâu sydd ynghlwm â nhw yn cynyddu'r tristwch hwn. Pob eitem wedi'i osod mewn drôr, wedi'i lapio mewn papur sidan. Yn y corffdy hwn i bethau chewch chi ddim cyffwrdd unrhywbeth, fel petai bodau byw yn heintus. Gall y gwrthrychau gael eu trin â menig yn unig, eu ffotograffio, eu trafod, eu hedmygu. Mae trefn i'r synhwyrau hyd yn oed, a chyffwrdd yn isel ar y rhestr. Ac eto ... onid cyffwrdd yw'r mwyaf sylfaenol? Y mwyaf rhyfeddol? Onid dyna bwynt pethau? Cyffwrdd, teimlo, dirnad?

Ond yma yn Sain Ffagan mae pwysigrwydd perthynas yn cael ei gydnabod. Wrth drafod daeth y curadur Elen Phjillips i ddeall bod Siân wedi gweithio i gwmni dillad gweu J.J. Seaton, sylfaenwyr y cwmni dillad moethus Toast. Roeddent yn ddiweddar wedi rhoi eu harchif i'r amgueddfa a bydd Siân nawr yn helpu i gatalogio'r archif. Bydd Siân hefyd yn cael ei chyfweld ar gyfer casgliad hanes llafar yr Amgueddfa. Mae hyn, i mi, yn un o ganlyniadau pwysig y project.

Rydyn ni yn y Gorllewin yn addoli pethau materol ac yn mwynhau caffael pethau newydd. Nwyddau materol hynny yw. Caiff ffasiwn cyflym ei yrru gan gaffael pethau newydd, a'u taflu'r un mor gyflym a difeddwl. Gwariodd pobl yn y DU £59.3 biliwn ar ddillad yn 2019 (Statista.com), ac mae tua 350,000 o dunnelli, gwerth tua £140 miliwn o ddillad ail law ond digon dilys, yn cael eu taflu i'r domen yn y DU bob blwyddyn, dros 30% o'n dillad diangen (adroddiad WRAP Valuing our clothes 2017).

Weithiau bydda i'n teimlo y gall fy mhractis celf ymestyn drwy'r holl haenau brwnt a chael at y bysen galed wrth galon cyfalafiaeth, ei dal a'i deall. Ei deall a dirnad rhyw allwedd, rhyw gyfrinach gyfrin fydd yn datrys y cyfan, dod â'r cyfan i ben, agor llwybr newydd. Dwi'n deall bod elfen o achubiaeth gwyn yn fy ngeiriau i, chwilio am yr ateb cyflym, a bod y ffordd hon o feddwl yn rhan o'r hyn sydd wedi arwain at yr anghyfartaledd a'r dinistr presennol. Ond mae'n bwynt sy'n rhaid i mi ei gydnabod, cyn ei roi o'r neilltu.

Ar ôl cyfweld, creu, meddwl ac ymweld, a sesiynau mentora gyda chriw o artistiaid rhagorol, gan gynnwys Angela Maddock, Peta Lily, Persephone Pearl, Rachel Porter, Daniel Trivedy a Bedwyr Williams, fe greais i ffilm fer.

Mae’r ffilm yn trafod: natur abswrd fashiwn a chyfalafiaeth; diffyg cynllun dynol; natur afreolus, rhemp, heintus twf anghynaladwy; anesmwythyd gwisgo dillad wedi'u creu mewn sweatshop; gwacter prynwriaeth; cwlt perffeithrwydd; awydd ymhlith pobl wyn ryddfrydol i wneud penyd, a gwisgo crys rhawn i leddfu euogrwydd; a'r angen i ddatgymalu ac ailddefnyddio, gwisgo pethau mewn ffyrdd gwahanol, canfod patrwm a chynllun newydd. Ond, yn anymwybydol, ydw i hefyd wedi bod yn dangos pa mor afresymol yw ceisio herio anghydraddoldeb y byd drwy'r cyfrwng hwn? Oferedd ceisio trafod a newid systemau anferth, byd-eang sydd wedi hen ymwreiddio?

Ond dyma fel mae hi, a dyma fel mae hi i bawb ohonom. A rhaid i ni ddygymod ag ef. Rhaid i ni gasglu'r darnau a'r tameidiau toredig i gyd, gwneud rhywbeth ohonyn nhw, a'i gyflwyno i'r byd. Yna mae cyfle i'r casgliad hwnnw o ddarnau uno â chasgliadau eraill. Nid yw'r darnau toredig yma yn creu cyfanwaith, ond mae nhw'n creu mudiad. Mudiad sy'n cydnabod gwerth pethau y tu hwnt i'r ariannol, lle mae'r cysylltiadau rhwng pethau yn bwysicach na'r pethau eu hunain, lle mae "perthnasau yn bopeth" yng ngeiriau Adrienne Maree Brown. 3[3]

Soniodd Heulwen Reynolds am yr "ymestyn rhwng y pwythau" gan awgrymu taw'r gofod rhwng y pwythau sy'n caniatáu i'r defnydd ymestyn.  Mewn gwirionedd, strwythur gwead ffabrig gweu sy'n galluogi iddo ymestyn, y dolenni oll ynghyd, yn wahanol i strwythur grid ffabrig gwehyddu. Fe ddewisais i eiriau Heluwen am gau'r gofodau hyn, pan fydd ffabrig gweu yn ffeltio, ar gyfer trac sain y ffilm – "mae'n cau drosodd, a chewch chi mono fyth yn ôl". Mae rhywbeth iasol a clawstroffobig am ffeltio, cau'r bylchau hynny, colli'r ystwythder. Ond gallwch chi ddefnyddio'r ffabrig hwn, mae ganddo ddefnydd. Mewn gwirionedd, mae'n gryf, yn feddal, nid yw'n rhaflo, mae'n wydn ac ystywth.

Efallai taw yn y bylchau, y llefydd cau drosodd, y byddwn ni'n canfod gwir gyfeillgarwch, canfod ein cymuned, pobl sy'n teimlo fel teulu, teimlo'n gartrefol ynghanol y tameidiau toredig a datblygu systemau a defodau newydd. Efallai bod defnydd arall i'r pentwr matresi yna, neu gyfle i'r bysen gael gorffwys, ei phlannu yn y pridd. Efallai ymhen amser gallwn ni ail-drefnu, ail-ddysgu, ail-gofio, a chanfod ffyrdd newydd o fodoli sy'n creu llai o niwed.

*Cyn y project hwn dyma fi'n edrych ar y berthynas rhwng gwlân Cymreig a masnach gaethweision yr Iwerydd, a sut y bu coloneiddio yn sylfaen i gyfalafiaeth echdynnol, diolch i Leoliad Preswyl dan nawdd Theatr Genedlaethol Cymru.

Cyfwelwyr

Siân Conti

Morris Cohen underwear Ltd. Port Talbot (1980 – 1982), Welsh Brides, Aberteifi(1982 – 1984), J&J Seaton knitwear, Llanfynydd (1984 – 1991)

Jean Day

Slimma/Dewhirst Aberteifi (1984 – 2001) Hiut Jeans Aberteifi (2011 – heddiw)

Elin Evans

Slimma/Courts/Dewhirst Aberteifi a Morocco (1981 - 2008), Gina Shoes London a Hiut Jeans Aberteifi (2011 – heddiw)

Tracy Jones

Slimma/Dewhirst Aberteifi (1984 – 2001) Hiut Jeans Aberteifi (2011 – heddiw)

Gill Kynoch

Slimma/Dewhirst Aberteifi (1981 – 2001) Hiut Jeans Aberteifi (2011 – heddiw)

Heulwen Reynolds

Slimma Wdig (1970 – 1972) Hiut Jeans Aberteifi (2017 – heddiw)


[1] Bill Brown, Thing Theory, Critical Inquiry, Vol. 28, No. 1, Things. pp. 1-22. The University of Chicago Press. 2001

[2] Terence E. Rosenberg Intermingled Bodies Distributed Agency in an Expanded Appreciation of Making, Vol.6 Nr.2, Art. 4, 1-18, Goldsmiths, University of London, 2013

[3] adrienne maree brown, Emergent Strategy, AK Press, 2017


Share


More like this