CYNFAS

Melissa Munro, Uwch Curadur: Casgliad Derek Williams
12 Chwefror 2023

Gonestrwydd Digyfaddawd: Cyfres ‘Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod’ gan Paula Rego

Melissa Munro, Uwch Curadur: Casgliad Derek Williams

12 Chwefror 2023 | Minute read

‘Dydy pobl ddim eisiau meddwl am y pethau yma; dyw e ddim yn gwrtais, felly maen nhw’n troi eu cefnau ac mae menywod yn dioddef.’               
Paula Rego yn sôn am gyfres Abortion, cyfweliad Art Fund ym mis Mehefin 2022

Paula Rego – Artist Gwleidyddol

Gellir dadlau mai Paula Rego (1935-2022) oedd un o artistiaid gwleidyddol mwyaf pwerus y byd modern. Cafodd ei magu ym Mhortiwgal yn ystod cyfundrefn ffasgaidd António de Oliveira Salazar, ac mae’n ymddangos mai ei ormes ar fenywod a hawliau menywod yw un o’r grymoedd y tu ôl i gyfeiriad gwaith Rego. Mae paentiadau eiconig fel Dog Woman, War a’i chyfres Abortion a’i chyfres Abortion yn ddigyfaddawd yn eu darluniad cignoeth o’r creulondeb a’r gormes a ddioddefa menywod. Mae’r arddull theatrig o adrodd straeon yng ngwaith Rego yn creu golygfa ysgytwol a dystopaidd bron o’r byd. Ochr yn ochr â hynny, mae ei diddordeb mewn Catholigiaeth a straeon tylwyth teg yn aml yn cyfuno i greu delweddaeth gyfarwydd ond brawychus.

 

 

Cyfres Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod


Mae’r gyfres Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn un llwm a ddigyfaddawd. Yn wahanol i lawer o’i gweithiau eraill ar bapur, nid oedd y gyfres ysgythriadau hon ar ffurf paentiad, er eu bod yn debyg o ran maint a phresenoldeb i waith a gaiff ei wneud gyda phaent olew ar gynfas.

Cynhyrchodd Rego y gyfres yn 2009 fel ymateb protest i’r arfer niweidiol o anffurfio organau cenhedlu benywod sy’n digwydd mewn 30 o wledydd yn Affrica, y Dwyrain Canol ac Asia, ar ferched rhwng oedran babandod a 15 oed. Mae’n cynnwys torri organau cenhedlu allanol benywod yn rhannol neu’n gyfan gwbl, neu achosi niwed arall i organau cenhedlu benywod am resymau heblaw rhai meddygol. Fel y nodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, does dim manteision iechyd i ferched a menywod o anffurfio organau cenhedlu benywod. Gall achosi cymhlethdodau iechyd difrifol, poen ac weithiau marwolaeth. Mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn achos o wahaniaethu yn erbyn menywod a merched ac mae’n mynd yn groes i’w hawliau dynol.


Yn y delweddau a grëwyd gan Rego, gwelir menyw hŷn yn aml - y fam yn ôl pob tebyg - yn parhau â’r arfer cymdeithasol annynol, tra bod ffigwr gwrthun heb wyneb yn cyflawni’r weithred. Mewn rhai fersiynau mae’n ymddangos mai cymeriad benyw-wrywaidd yw’r ffigwr gyda phidyn ymddangosiadol, er bod Rego yn gadael hynny’n amwys. Mae natur gignoeth y gwaith yn ein gorfodi i wynebu gwirionedd anghyfforddus am y byd rydyn ni’n byw ynddo. Nid yw Rego am i ni droi i ffwrdd ac mae’n gwneud y profiad yn anoddach fyth drwy bwysleisio diniweidrwydd plentyndod y dioddefwyr drwy gynnwys manylion fel teganau ar wasgar, a doli hyd yn oed.


Mae chwe phrint yn y gyfres, y cyntaf yn dechrau gyda’r teitl tyner Hwiangerdd ac mae’r rhain yn mynd yn dywyllach yn raddol – Priodferch Nos, Enwaedu, Wedi’u Pwytho a’u Clymu, Mae Mam yn dy Garu Di nes i ni gyrraedd y print olaf, o’r enw Dianc, sy’n cynnwys neges o obaith ymhlith y tywyllwch.


Mae’r print o’r enw Enwaedu yn pwysleisio’n gryf y diffyg dewis i’r merched ifanc hyn. Yn y ddelwedd hon gwelwn blentyn yn cael ei dal i lawr ar fwrdd plygu, gan ei mam ei hunan fwy na thebyg a menyw arall, tra bod prif ffigwr sinistr gydag wyneb penglog yn dal coesau’r plentyn ar wahân i berfformio’r anffurfio. Yn y cefndir, mae menyw yn tynnu dillad isaf merch iau fyth, sydd mor fach fel bod yn rhaid iddi sefyll ar stôl.


Mae’n bosib mai’r ddelwedd anoddaf yn y gyfres gyfan, fodd bynnag, yw Mae Mam yn dy Garu Di. Mae’r fam yn dal y plentyn ar ei glin. Mae hi’n edrych i ffwrdd ac mae ei llaw dde yn gorchuddio llygaid y plentyn rhag yr anghenfil sy’n dod tuag ati. Mae’n ymddangos bod gan y ffigwr noeth, gwallgof hwn, fagina’n llawn dannedd sydd ar fin gwneud yr anffurfiad ar y plentyn. Wedi’i daflu o’r neilltu ar y chwith mae tedi bach wedi’i stwffio sy’n pwysleisio oedran y plentyn a natur erchyll y llawdriniaeth honedig hon.


Defnyddir delweddau beiddgar a thrallodus Rego yn effeithiol. Wrth orfodi’r gwyliwr i ddelio â phwnc y byddent yn ei anwybyddu fel arall, mae’n ein hannog i gyd i wynebu anghyfiawnder gwleidyddol yr arfer echrydus hwn ac i ystyried a yw’n iawn byw mewn byd sy’n troi llygad ddall at y fath greulondeb, neu’n ei gymeradwyo hyd yn oed.  

Cyfres Abortion

Gwnaed defnydd pwerus o allu medrus Paula Rego yn y gyfres Abortion hefyd, a ddechreuodd fel cyfres o baentiadau. Roedd trosi i fformat print yn galluogi ei neges i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Dechreuodd y gyfres mewn ymateb i refferendwm Portiwgal ar erthylu ym 1998 ac a ddylid cyfreithloni’r arferiad. Ychydig iawn o’r boblogaeth aeth i bleidleisio. O ganlyniad, enillodd y bleidlais yn erbyn cyfreithloni. Roedd Rego wedi gweld dioddefaint merched yn ceisio cael erthyliad anghyfreithlon drosti ei hunan. Mae’r gweithiau’n darlunio’r diffyg urddas a’r boen yn ogystal â’r dewrder a’r fuddugoliaeth a brofodd y merched hyn.

Gwaddol Rego

Storïwr oedd Rego a defnyddiai ei dawn creu naratif yn effeithiol iawn i adrodd straeon hunllefus am fywyd go iawn. Fel ffeminydd ymroddedig, dyma un o ddyfyniadau Rego, ‘Rwy’n ceisio sicrhau cyfiawnder i fenywod […] o leiaf yn y lluniau […] A dial hefyd.

Melissa Munro yw Uwch Guradur Casgliad Derek Williams ac mae wedi gweithio yn Amgueddfa Cymru ers 2008. Mae gan Melissa ddiddordeb arbennig yng ngwaith y Swrealwyr a’r gwaith haniaethol wedi’r Rhyfel, ond mae hefyd yn mwynhau gweithio gydag artistiaid cyfoes. 

REGO, Paula
Paupers Press
©Ostrich Arts Ltd/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
REGO, Paula
Paupers Press
©Ostrich Arts Ltd/Amgueddfa Cymru - Museum Wales
REGO, Paula
Paupers Press
©Ostrich Arts Ltd/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Paula Rego (1935 – 2022)

Untitled 1, 1999

Etching on Somerset paper

Paper: 38.0 x 48.0 cm

Image: 19.6 x 29.7 cm

Edition of 17

© Ostrich Arts Ltd

Courtesy Ostrich Arts Ltd and Cristea Roberts Gallery

Paula Rego (1935 – 2022)

Untitled 5, 1999

Etching on Somerset paper

Paper: 38.0 x 48.0 cm

Image: 19.6 x 29.2 cm

Edition of 17

© Ostrich Arts Ltd

Courtesy Ostrich Arts Ltd and Cristea Roberts Gallery


Share


More like this