CYNFAS

Abraham Makanjuola
28 Gorffennaf 2023

Codi’r Llen ar Gaffael: ysgrifennu labeli, cadwraeth a mynd yn groes i’r graen – cipolwg y tu ôl i’r llen

Abraham Makanjuola

28 Gorffennaf 2023 | Minute read

Tarddiad y project

Ers mis Mai 2021 dw i wedi cael pleser o fod yn rhan o broject Codi’r Llen ar Gaffael gyda grŵp o 6 o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru. Daeth y project i fodolaeth gyda dyfodiad y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys. Creodd yr artist ac enillydd gwobr Turner, a anwyd ym Mhrydain (o dreftadaeth Nigeria), Chris Ofili, bortffolio o ddeg print o'r enw Gogledd Cymru oedd yn cynnwys ysgythriadau o wahanol leoedd yn y Gogledd yn 1996. Cafodd y gyfres hon ei harddangos yn fyd-eang mewn llefydd fel y Tate a’r Amgueddfa Celf Fodern (MoMA) ond rhywsut ni chafodd ei harddangos yng Nghymru er gwaethaf y ffaith ei bod yn darlunio tirluniau Cymru. Sylweddolodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (NMC) hyn a dechrau chwarae gyda'r syniad o gaffael cyfres Gogledd Cymru a rhoi’r penderfyniad yn nwylo grŵp o bobl ifanc. Roedd y syniad yna i roi'r penderfyniad gweithredol yn nwylo staff y tu allan i’r sefydliad yn enfawr ac yn torri tir newydd yn hanes yr amgueddfa. Yn naturiol fel grŵp fe ddewison ni fynd ar drywydd y caffaeliad ac felly dyna ddechrau Codi’r Llen ar Gaffael.  

Themâu ailddehongli

Mae'r project yn dirwyn i ben ac aeth yr ailddehongli y buom yn gweithio arno yn fyw ar y 1af o Fawrth 2023 i ategu arddangosfa Rheolau Celf?. Mae'r llinyn aur sy'n cysylltu'r ailddehongli yn deillio o weithiau rydyn ni’n eu hoffi fel grŵp a herio arferion hirsefydlog. Yn yr arddangosfa gallwch ddod o hyd i nifer o elfennau cynnil a chliwiau cudd yn barod i'w datguddio. Fel grŵp dewison ni roi sylw i artistiaid gwahanol yn amrywio o artistiaid adnabyddus i newydd-ddyfodiaid, ac yn olaf i'r rhai na chafodd eu cydnabod tra'u bod yn creu eu gwaith.  

Y broses o Godi’r Llen ar Gaffael

Mae'r project wedi bod yn gyfoeth o wybodaeth ac mae wedi gwneud y broses gaffael yn hollol glir i mi. Rydyn ni wedi dysgu am gadwraeth, gwneud cais am grantiau a chyfleoedd ariannu eraill, archifo, mynegeio'r gweithiau celf, dim ond i enwi rhai pethau.

Mae'r grŵp o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn gyfoethog gyda phrofiadau a setiau sgiliau gwahanol. Yr amrywiaeth yma yn ein plith yw'r hyn sy'n caniatáu inni fod yn llwyddiannus, mae yna bob amser set wahanol o safbwyntiau sy'n sicrhau ein bod wedi meddwl am y dasg dan sylw o sawl ongl. Mae wedi bod yn gymharol hawdd i ni ddod i gonsensws yn ystod y project. Fe wnaethon ni wrando ar bob llais a chlywed pob llais. Fel grŵp rydyn ni wedi cyfarfod dair gwaith wyneb yn wyneb a 10+ gwaith ar-lein. Yn ystod y broses yma cefais y fraint a'r dasg o ffilmio ein cyfarfodydd grŵp yn y cnawd. Fy nod oedd rhoi dealltwriaeth glir o'r hyn ddigwyddodd yn ystod y sesiynau wyneb yn wyneb a rhyngddynt, mewn ffordd y byddai gwylwyr yn teimlo fel eu bod yno eu hunain.  

Roedd yr Amgueddfa yn gefnogol iawn i'r project yma, ychydig iawn o wrthwynebiad a gafwyd i'n syniadau a rhoddwyd esboniad bob tro ar gyfer syniadau a wrthodwyd. Cawson ni lawer o gyfleoedd gwahanol a oedd yn deillio o Godi’r Llen ar Gaffael a oedd yn cynnwys y cyfle i gyflwyno i'r Amgueddfa Brydeinig, ymddangosiad teledu ar Sky Arts, i siarad â'r artist enwog Bob a Roberta Smith i enwi ond ychydig.  

OFILI, Chris
© Chris Ofili/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Amlygu talent newydd o Gymru

Rhan o'r broses gaffael oedd siarad gydag artistiaid i ofyn am fenthyg eu gwaith. Ym mis Rhagfyr 2022 croesawodd pedwar o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yr artistiaid Rhiannon Gwyn ac Ella Louise Jones ar gyfer ymweliadau stiwdio rithwir. Yn ystod y ddau ymweliad yma, fe wnaethon ni esbonio gwreiddiau'r project, ein proses ni a pham roedden ni'n teimlo fel bod eu gwaith yn berthnasol i ailddehongliad yr oriel. Dewiswyd y ddau artist yma gan ein bod eisiau rhoi sylw i artistiaid o Gymru. Roedd eu gwaith hefyd yn gysylltiedig â rhai o is-themâu'r ailddehongliad, ac mae'r rhain yn cynnwys Hunaniaeth a’r Dreftadaeth Gymreig, a Thirweddau Cymru.  

Amcanion a chyfleoedd y project

Prif bwrpas Codi’r Llen ar Gaffael oedd darparu nid yn unig cipolwg ond golwg y tu ôl i'r llenni sy'n gwahanu'r cyhoedd oddi wrth broses gaffael yr Amgueddfa. Mae rhai rhannau o'r broses yn gwbl esoterig ac mae rhannau eraill yn cael eu hanwybyddu. Dwy ran o'r broses sy'n cael eu hanwybyddu a dwy o fy nhair hoff ran yw Cadwraeth y gweithiau celf a hefyd ysgrifennu labeli. Fel grŵp, roedden ni’n gallu cwrdd â'r Uwch Gadwraethwr Papur, Fiona McLees i gael mwy o syniad o’r modd y mae gweithiau celf yn cael eu cadw a'u gwarchod. Dysgom fod gwarchod gweithiau celf yn amrywio o ddarn i ddarn, mae'n broses gydweithredol sydd, lle bo'n bosibl, yn cynnwys yr artist yn helaeth.  

Ysgrifennu labeli oedd rhan fwyaf heriol y broses i mi. Cyn hyn, byddwn yn bwrw golwg sydyn iawn ar labeli amgueddfeydd wrth ymweld ag orielau. Ond ers dysgu faint o amser sy'n mynd i ysgrifennu label 60–100 o eiriau, dw i wedi darllen pob label dw i wedi'i weld mewn arddangosfa amgueddfa. Mae ysgrifennu labeli yn gelfyddyd ac yn sgil sy'n cymryd amser i ddatblygu ac mae gen i werthfawrogiad mawr o’r grefft erbyn hyn. Mae fy enw i hyd yn oed yn ymddangos ar y label a ysgrifennais i, sy'n ddigynsail. Fel arfer mae awduron labeli yn ddienw.  

SMITH, Bob & Roberta
© Bob and Roberta Smith/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Arwain at agor yr oriel  

Yr unig her a brofon ni fel grŵp oedd dewis pa liw glas roedden ni ei eisiau ar gyfer y wal nodwedd yn yr oriel. Edrychon ni ar chwe lliw gwahanol o las cyn penderfynu ar 'Regal Silk'. Mae'n syfrdanol i edrych arno. Daethom i'w weld yn bersonol pan wnaethom osod yr arddangosfa. Roedd yn ddiwrnod gwych lle cawsom wylio Lee Jones (Uwch Dechnegydd Celf) yn gosod y gweithiau yn yr arddangosfa yn feistrolgar. Roedd y diwrnod gosod yn gyfle arall i ddysgu ond roedd hefyd yn teimlo fel seremoni raddio wrth i ni wylio'r arddangosfa yn dod at ei gilydd yn gorfforol.  

Roedd y broses gyfan hon yn cyfoethogi'r holl beth yn fawr, ac roedd yn llwyddiannus. Nid yn unig roedden ni'n gallu gweld y tu ôl i'r llen, roedden ni hefyd yn gallu creu gyda rhyddid heb unrhyw fath o dicio blwch neu docenistiaeth. Cawsom annibyniaeth lwyr, a chawsom ein hannog a'n cefnogi gyda phenderfyniadau ein grŵp. Gyda'r gefnogaeth hon, roeddem yn gallu parchu arferion yr amgueddfa ond hefyd rhoi hergwd a herio sut mae pethau wedi'u gwneud yn y gorffennol.  

Roedd yr arddangosfa yno am dri mis o ddydd Mercher 1 Mawrth tan ddydd Sul 4 Mehefin 2023 a roedd yn gyfle i weld hanes yn cael ei wneud yn Amgueddfa Cymru!

Diolch yn fawr iawn i Neil Lebeter, Um Mohamed, Kate Woodward a Jen Dudley am eich holl gefnogaeth ac arweiniad!


Abraham oedd yn dogfennu’r project Codi’r Llen ar Gaffael drwy ffilmio cynnwys tu ôl i’r llen am y broses.

Cafodd Abraham ei gyflwyno i’r project gan y Sub-Saharan Advisory Panel (SSAP) wedi iddo ryddhau rhaglen ddogfen yn archwilio a herio gorffennol, presennol, a dyfodol y straeon ynghylch Cyfandir Affrica o berspectif pobl ar wasgar ym Mhrydain. Tu hwnt i ymweld ag amgueddfeydd, mae Abraham hefyd yn mwynhau chwarae pêl-fasged, drymio a dysgu ieithoedd newydd.

Dau o bobl yn gwisgo mygydau wyneb, mewn storfa amgueddfa gyda raciau a gweithiau celf wedi'u fframio o'u cwmpas.
Dyn ifanc mewn oriel gelf yn dal gwrthrych meddal, pinc, cnapiog, oddeutu'r un hyd ag y mae ef yn dal.
Dau o bobl yn dal paentiad tirlun mawr, tywyll o olygfa diwydiannol.
Pedwar print wedi'u fframio yn erbyn wal oriel glas dwfn; mae'r print cyntaf wedi'i hongian ac mae'r gweddill mewn rhes ar y llawr, yn barod i'w hongian.

Share


Comments

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

More like this