CYNFAS

Chloe Jones
31 Gorffennaf 2023

7 Cwestiwn Cyflym gyda Chloe Jones o'r Grŵp Codi’r Llen ar Gaffael

Chloe Jones

31 Gorffennaf 2023 | Minute read

1. Dyweda ychydig amdanat ti dy hun. 

Helo bawb, Chloe ydw i :). Dw i’n dod o Gaerdydd ond dw i'n byw ac yn gweithio yn Llundain ar hyn o bryd. Astudiais Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio'n benodol ar baentio genre Fictoraidd ar gyfer fy nhraethawd Meistr. Yn fy amser hamdden, dw i'n hoffi mynd i gigs, gweld arddangosfeydd, cymdeithasu gyda fy ffrindiau a mynd am dro i weld golygfeydd. 

2. Pam oeddet ti am fod yn rhan o'r Grŵp Codi’r Llen ar Gaffael? Beth oeddet ti am gael allan ohono? 

Dw i wastad wedi bod â diddordeb mewn curadu a'r sector amgueddfeydd, ond yn gwybod fawr ddim am sut mae'r rôl yn edrych o ddydd i ddydd. Pan welais i’r hysbyseb ar gyfer y project Codi’r Llen ar Gaffael, meddyliais y byddai'n gyfle gwych i ddysgu am sut mae amgueddfeydd yn gweithio. Roedd hefyd yn gyfle cyffrous i gymryd rhan yn y broses gaffael a bod yn rhan weithredol o'r broses o wneud penderfyniadau. Mae'r project yn unigryw yn hyn o beth, ac felly roeddwn i wir eisiau bod yn rhan ohono. Hefyd, roeddwn i eisiau cwrdd â phobl newydd a meithrin cysylltiadau ag eraill sydd â diddordebau tebyg. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn dysgu gan y curaduron ac i glywed am eu profiadau a'u syniadau, ond hefyd i ddysgu gan fy nghyfoedion. 

3. Beth yw prif bwrpas y grŵp? 

Prif bwrpas y grŵp yw trafod a gwneud penderfyniadau ar y cyd ynghylch caffael cyfres Chris Ofili Gogledd Cymru. Dyma grŵp o ysgythriadau a gynhyrchodd Ofili fel ymateb i dirnodau a lleoedd penodol. Rydyn ni’n cydweithio â'r curaduron a staff eraill Amgueddfa Cymru i gynhyrchu ailddehongliad o Oriel 24 yn arddangosfa Rheolau Celf?, lle bydd gwaith Ofili yn cael ei arddangos am y tro cyntaf. 

4. Oedd unrhyw beth yn dy synnu di am y broses gaffael? 

Roedd cryn dipyn o bethau'n fy synnu i. Roeddwn i’n disgwyl y byddai'r cyllid yn ein cyfyngu i ryw raddau, ond mae wir yn cael effaith enfawr ar bob cam o'r broses gaffael. Roedd y ceisiadau cyllid i sicrhau printiau Ofili yn broses hir ac roedd angen cryn ystyriaeth ar eu cyfer (h.y. cyfiawnhau'r angen am y gwaith celf a'u perthnasedd i gasgliadau'r Amgueddfa). Rhywbeth arall i'w ystyried oedd y gyllideb wrth feddwl am y fframio ac a ddylid paentio waliau'r oriel. Roedd yn ddiddorol iawn gweld sut mae curaduron yn gweithio o gwmpas hyn. 

Yn gyffredinol, cefais fy synnu gan faint o ffactorau sy'n dylanwadu ar benderfyniadau yn y sector. Yn ogystal â'r gyllideb mae yna ystyriaethau ynghylch iechyd a diogelwch, hygyrchedd, ein henw da fel curaduron, cynrychiolaeth, cadwraeth ac yn y blaen. Mae llawer o bobl ynghlwm â'r broses benderfynu hefyd. Mae ceisio cydbwyso hyn i gyd yn hynod o anodd! 

Rhywbeth arall nad oeddwn yn ei ddisgwyl oedd i'r broses fod mor hir. Dechreuon ni weithio ar y project yma ym mis Mai 2021 ac nid yw’r arddangosfa’n cael ei gosod tan ganol Chwefror 2023. 

5. Pam mae'n bwysig newid y strwythur y mae sefydliadau mawr yn gweithio oddi mewn iddo i gynnwys lleisiau o’r gymuned a lleisiau iau? 

Mae cynyddu cynrychiolaeth mewn amgueddfeydd yn hynod o bwysig. Drwy gynnwys y gymuned a lleisiau iau, gall amgueddfeydd ddechrau democrateiddio eu casgliadau. Mae cymaint o straeon i'w datgelu drwy ystyried profiadau a safbwyntiau gwahanol. Gall amgueddfeydd ymddangos i rai yn hen ffasiwn ac ychydig yn ffroenuchel! Os bydd pobl ifanc yn cael cyfle i gyfrannu i'w hamgueddfeydd lleol ac yn teimlo fel bod eu lleisiau'n cael eu clywed, bydd hynny'n debygol o annog ymwelwyr a diddordeb yn y sector. Mae'n mynd nôl i'r cwestiwn pwy rydyn ni'n ei gynrychioli yn ein hamgueddfeydd. Os ydym am gynrychioli'r gymuned, yna dylid ymgynghori â'r gymuned. 

6. Sut wyt ti'n meddwl y gall y project yma ddylanwadu ar brojectau a phrosesau tebyg eraill? 

Dw i'n gobeithio y bydd llwyddiant y project yma yn esiampl i sefydliadau eraill y gall agwedd gydweithredol rhwng pobl ifanc, y gymuned a'r amgueddfa weithio'n dda. Gyrrodd y grŵp Codi’r Llen ar Gaffael y broses o wneud penderfyniadau yn y project yma, a dw i'n credu bod hyn wedi creu canlyniadau diddorol iawn. Fe wnaethon ni feddwl am lawer o syniadau a dehongliadau newydd nad oedd y curaduron o reidrwydd wedi meddwl amdanynt. Roedden ni wir yn gwerthfawrogi'r ystyriaethau a'r cyngor ymarferol a roddodd y curaduron i ni. 

Mae elfen gyflogedig y project yma hefyd yn bwysig. Yn aml does gan bobl ifanc ddim amser i weithio, astudio a gwirfoddoli. Gall hyn fod yn rhwystr enfawr o ran mynediad i'r rhai sydd angen blaenoriaethu gwaith cyflogedig. Dw i'n credu pe bai sefydliadau eraill yn cynnig cyfleoedd tebyg, byddai hyn yn gwneud gyrfa bosibl yn y sector amgueddfeydd yn llawer mwy ymarferol i lawer o bobl. 

7. Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt personol i dy amser yn y project Codi’r Llen ar Gaffael? 

Mae'n anodd iawn dweud oherwydd mae 'na gymaint o enghreifftiau ffantastig wedi bod. Un foment sy'n sefyll allan mewn gwirionedd oedd caffael gwaith celf Ofili. Dyma oedd y tro cyntaf yn hanes yr Amgueddfa i benderfyniad curadurol gael ei wneud y tu allan i'r Adran Gelf, felly roedd yn teimlo'n arbennig iawn i fod yn rhan o hyn. Dw i wedi caru'r trafodaethau rydyn ni wedi eu cael am y broses, dysgu gan lawer o wahanol staff yn yr amgueddfa, mynd i'r amgueddfa a gweld arddangosfa Rheolau Celf? am y tro cyntaf. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen (sori bod hynny'n fwy nag un uchafbwynt!!) 


Share


More like this