CYNFAS

Mari Griffith
8 Mawrth 2024

Donald Rodney (1961-1998)

Mari Griffith

8 Mawrth 2024 | Minute read

Roedd Donald Rodney yn ffigwr blaenllaw yn y BLK Art Group, grwp o artistiaid ifanc du Prydeinig a ddaeth i'r amlwg ym Mhrydain yn yr 1980au. Yn eu gwaith, roedden nhw’n ymdrîn a themáu gwleidyddol a chymdeithasol mewn paentiadau, gosodiadau a gweithiau cysyniadol.

Ganed Rodney yn Birmingham i rieni o Jamaica, yr olaf o ddeuddeg o blant. Ers yn blentyn, roedd yn dioddef o anemia crymangell, clefyd etifeddol sydd yn fwy cyffredin ymhlith pobl o dras Affricanaidd neu Garibïaidd. Astudiodd Gelfyddyd Gain yng Ngholeg Polytechnig Trent, gan raddio yn 1985, ac aeth ymlaen i wneud cwrs mewn celfyddyd gain amlgyfrwng yn y Slade School of Fine Art yn Llundain, gan orffen yn 1987.

Yn ei gelf, roedd Rodney yn aml yn dyfynnu diwylliant poblogaidd; yn benthyg ac addasu delweddau er mwyn mynd i'r afael â hiliaeth a hunaniaeth hiliol. Yn ei waith hwyrach, byddai’n defnyddio delweddau meddygol fel hen belydrau-X neu ddata arall yr oedd ganddo yn sgîl ei driniaeth. Drwy ehangu’r pelydrau-X o’i berfeddion ei hun, roedd yn amlygu’r ‘salwch’ ehangach o fewn cymdeithas, sef hiliaeth a gwahaniaethu ar sail hil.

Mae un o weithiau diweddaraf a mwyaf adnabyddus Rodney yng nghasgliad Amgueddfa Cymru: In the House of my Father (1996-7). Ynddo, mae cerflun bach bregus o dŷ yn eistedd yng nghledr llaw’r artist. Wedi'i wneud o’i groen sych ei hun a gafodd ei dynnu fel rhan o’r driniaeth, mae’r tŷ yn cyfleu’r syniad o deulu, llinach a threftadaeth. Bu farw Rodney o anemia cryman-gell flwyddyn ar ôl creu’r gwaith hwn, yn 38 oed.


Mae Mari Griffith yn hanesydd celf sydd wedi gweithio ym maes amgueddfeydd ac orielau celf ers 30 mlynedd, yn datblygu a goruchwylio darpariaeth addysg a dehongli ar gyfer casgliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd, gan gynnwys yn y National Gallery, National Gallery of Art a’r Royal Academy of Arts. Wedi cyfnod yn gweithio’n rhyngwladol ym maes dehongli celf a threftadaeth, mae hi’n awr yn ysgrifennu, golygu a chyfieithu’n llawrydd – am gelf gan fwyaf.

RODNEY, Donald Gladstone
© Donald Gladstone Rodney/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Share


More like this