Mae Sain Ddisgrifiadau newydd sydd wedi’u cyd-greu, nawr ar gael i’w mwynhau! Cafodd y ddau Sain Ddisgrifiad hwn eu creu fel rhan o broject Y Telynorion Dall: Golwg o’r Newydd, a ariannwyd gan Rwydwaith Deall Portreadau Prydain.
Mae o leiaf naw portread o delynorion dall yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Maen nhw wedi bod yn y casgliad ers degawdau, ond maen nhw bob amser wedi cael eu disgrifio a’u trafod o safbwynt curadur nad yw’n ddall. Roedd y project hwn yn cymryd ‘golwg o’r newydd’ drwy archwilio dau ohonyn nhw, John Parry, y Telynor Dall, gyda Chynorthwy-ydd a The Blind Welsh Harper, o safbwynt dall.
Ar gyfer y project hwn, roeddwn i’n gweithio fel curadur llawrydd ochr yn ochr â grŵp o artistiaid a chyfranwyr sydd un ai’n ddall neu â golwg rhannol, er mwyn archwilio’r gwaith drwy sgwrsio ac arsylwi. Y sgyrsiau hyn wnaeth siapio’r Sain Ddisgrifiadau isod.
I ddechrau, beth yw Sain Ddisgrifiad?
Disgrifiad llafar o wrthrych yw Sain Ddisgrifiad. Mae’n gweithredu fel canllaw disgrifiadol i waith celf, mae’n declyn i helpu pobl i ddeall rhinweddau materol, gweledol ac amlsynhwyraidd darn o waith. Er eu bod fel arfer yn cael eu defnyddio fel teclyn hygyrchedd i bobl ddall neu rannol ddall, maen nhw’n gallu bod yr un mor ddiddorol i bobl nad ydyn nhw’n ddall hefyd.
Mae’r Sain Ddisgrifiadau hyn tua 7 munud o hyd. Gallwch ddewis gwrando, neu ddarllen y trawsgrifiad llawn isod.
John Parry, y Telynor Dall, gyda Chynorthwy-ydd, gan William Parry
Paentiad olew ar gynfas yw hwn, sydd tua 90cm o uchder a 70cm o led. Mae tri chymeriad yn y paentiad: yr enwog John Parry, Telynor Dall Rhiwabon; ei gynorthwy-ydd; a thelyn. Maen nhw mewn ystafell dywyll iawn, a honno’n llawn celfi moethus. Mae John Parry ar yr ochr dde, yn eistedd yn canu’r delyn. Drws nesaf iddo, ar y chwith, mae dyn ieuengach, yn sefyll gyda sgôr cerddoriaeth yn ei law. Mae’n ei droi ychydig tuag aton ni, fel petai’n ein gwahodd ni i’w ddarllen. Gwrandewch ar y recordiad sain, neu darllenwch y trawsgrifiad, i ddysgu mwy.
Trawsgrifiad
The Blind Welsh Harper, gan John Orlando Parry
Darlun inc ar bapur yw hwn, sydd tua 50cm o uchder a 40cm o led. Mae’r teitl The Blind Welsh Harper wedi’i ysgrifennu ar draws y gwaelod mewn priflythrennau trwm. Mae’r Telynor Dall yn eistedd ar fainc bren, yn ein hwynebu ni, gyda’i delyn yn pwyso yn erbyn ei ysgwydd chwith. Mae golwg anniben arno – mae ei ddillad yn garpiog ac wedi’u rhwygo. Mae’n anwesu pen ci blewog wrth ei ochr. O dan ei fainc mae rolyn o bapur gyda’r geiriau ‘An Eisteddvod’ ar draws y top. Gwrandewch ar y recordiad sain, neu darllenwch y trawsgrifiad, i ddysgu mwy.
Trawsgrifiad
Sain Ddisgrifiad yw hwn o’r darlun The Blind Welsh Harper sydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Darlun inc ar bapur yw e, ac mae’n mesur tua 50cm o uchder a tua 40cm o led. O dan y llun mae’r teitl ‘The Blind Welsh Harper’, wedi’i sgrifennu mewn priflythrennau trwm. Uwchben hynny mae llinell o destun llawer llai o faint sy’n dweud wrthon ni bod y gwaith wedi’i dylunio a’i beintio gan yr artist John Orlando Parry, ar Ionawr 3ydd 1837, yn King Street, St James’s, Llundain. O dan y teitl mae dyfyniad o gerdd Gymraeg, gyda’r cyfieithiad Saesneg wedi’i osod i’r chwith ohono. Mae’n dweud ‘Mwyn yw telyn yn y ty lle byddo teulu dedwydd’, ond alla i ddim dychmygu telynor mwy diflas yr olwg na’n cyfaill ni yma!
Rhoi’r darnau ynghyd
Mae’r ffordd gydweithredol hon o weithio yn cwestiynu pwy sydd â’r hawl i benderfynu pa straeon sy’n cael eu hadrodd, a sut, ac na all ystyr darn o waith celf gael ei gyfleu mewn un safbwynt gwrthrychol. Fel ddywedodd un o’r cyfranogwyr, ‘mae ganddon ni i gyd farn ychydig yn wahanol... ond ar ddiwedd y dydd, gallwn ni greu darlun. Mae’n debyg i bôs mewn gwirionedd. Rydyn ni’n rhoi darnau bach pawb at ei gilydd.’ Mae’r Sain Ddisgrifiadau newydd hyn wedi’u creu fel canlyniad o roi darnau bach pawb at ei gilydd. Er eu bod yn cael eu darllen gan un llais, maen nhw’n cynrychioli sylwadau cyfunol a wnaed gan y grŵp – Bridie, Emma, Lou, Margaret, Siân, curadur y project Steph, a hwylusydd y gweithdy Rosanna.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal project Sain Ddisgrifiadau wedi’i gyd-greu?
Mae Prifysgol Westminster, mewn cydweithrediad ag Oriel Watts – Artists Village, Oriel Bortreadau Genedlaethol y Smithsonian, VocalEyes, ac Access Smithsonian, wedi creu model o'r enw W-ICAD (Gweithdy ar gyfer Disgrifiadau Sain Cyd-greu Cynhwysol). Mae’r model hwn yn rhoi templed i amgueddfeydd er mwyn cydweithio gyda grwpiau o bobl ddall, â golwg rhannol, ac â golwg llawn, i gyd-greu eu Sain Ddisgrifiadau eu hunain.
Curadur celfyddydau gweledol, dehonglydd ac ymchwilydd llawrydd sy’n byw yng Nghymru yw Steph Roberts. Mae ei diddordebau’n cynnwys naratifau iechyd a salwch, cyfiawnder anabledd, a lleisiau sydd wedi’u hesgeuluso mewn hanes celf. Mae’n gweithio gydag amgueddfeydd, orielau, a sefydliadau diwylliannol eraill i ddod â’r naratifau hyn yn fyw, ac mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad yn datblygu ac yn darparu cynnwys Sain Ddisgrifiad creadigol.
Diolchiadau
Datblygwyd project Y Telynorion Dall: Golwg o’r Newydd fel rhan o gymrodoriaeth ymchwil a ariannwyd ac a gefnogwyd gan y Rhwydwaith Deall Portreadau Prydain, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Amgueddfa Cymru a Sight Life.
Gyda diolch i’r artistiaid a’r cyfranwyr am eu brwdfrydedd a’u mewnbwn: Bridie, Emma, Lou a Taff y Ci Tywys, Margaret, Siân ac Uri’r Ci Tywys, Rebecca, a Rosanna.
Cafodd y Sain Ddisgrifiadau Saesneg eu recordio a’u hadrodd gan Alastair Sill. Cafodd y Sain Ddisgrifiadau Cymraeg eu cyfieithu gan Eleri Huws, a’u recordio a’u hadrodd gan Alastair Sill.
Diolch i ymchwilwyr W-ICAD am eu cyngor a’u harweiniad wrth gynllunio gweithdy Y Telynorion Dall.