CYNFAS

Steph Roberts
1 Tachwedd 2023

Y Telynorion Dall: Golwg o’r Newydd

Steph Roberts

1 Tachwedd 2023 | Minute read

Project sy’n herio syniadau sydd wedi dyddio am ddallineb mewn amgueddfeydd yw Y Telynorion Dall: Golwg o’r Newydd.

Ar gyfer y project hwn, gwahoddais grŵp o artistiaid a chyfranwyr dall neu rannol ddall – Bridie, Emma, Siân, Lou, a Margaret – i weithio ochr yn ochr â fi i gymryd ‘golwg o’r newydd’ ar bortreadau o Delynorion Dall yn y casgliad celf hanesyddol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mewn gweithdy diwrnod o hyd, cawson ni sgyrsiau bywiog ac ystyrlon am y portreadau, cynrychiolaeth dallineb mewn celf, a beth mae’n ei olygu i berson anabl gael eu ‘gweld’ – neu beidio – gan ein sefydliadau diwylliannol. Gwnaeth y sgyrsiau a gafwyd yn ystod y gweithdy hwn lywio’r gwaith o greu Sain Ddisgrifiadau newydd, a diweddaru’r dehongliadau ar gyfer y portreadau.

Mae’r ffilm ddwyieithog hon yn dogfennu’r gweithdy, ac yn cynnwys cyfweliadau gyda rhai o’r bobl a gymerodd ran. Mae’r ffilm hon ar gael gyda Sain Ddisgrifiadau neu hebddynt.

Y Telynorion Dall (gyda Sain Ddisgrifiad)

Y Telynorion Dall (heb Sain Ddisgrifiad)


Pam mae projectau fel Y Telynorion Dall: Golwg o’r Newydd mor bwysig? 

Pan ddaw at anableddau, mae gan amgueddfeydd lawer o bŵer. Maen nhw’n gwneud rhagdybiaethau ynghylch beth all pobl ei wneud neu beidio â’i wneud mewn gofodau oriel. Maen nhw’n penderfynu pa ddarpariaethau hygyrchedd dylen nhw fuddsoddi ynddyn nhw – neu beidio. Pan fydd ganddyn nhw wrthrychau sy’n ymwneud ag anableddau, nhw sy’n penderfynu pa straeon sy’n cael eu hadrodd am y gwrthrychau hyn, a sut caiff yr anabledd ei gynrychioli a’i ddeall. A phan mae’r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud gan grŵp o bobl nad ydyn nhw’n anabl gan fwyaf – fel sy’n aml yn wir – mae anghyfiawnder, ablaeth, a chamsyniadau niweidiol yn gwreiddio. Roedd y project hwn yn un cam bach tuag at dynnu sylw at hyn a mynd i’r afael â’r mater.

Sut mae’r project hwn yn herio’r ffordd caiff dallineb fel arfer ei gynrychioli mewn amgueddfeydd a’r celfyddydau gweledol?

Roedd gen i ddiddordeb ers amser hir yn y portreadau o Delynorion Dall yng nghasgliad yr amgueddfa, ac ro’n i eisiau archwilio’r straeon tu ôl iddyn nhw. Ond yn fwy na hynny, ro’n i’n chwilfrydig am beth allen nhw ei olygu i gynulleidfaoedd dall heddiw, ac ro’n i eisiau creu cyfle a oedd yn caniatáu i sawl llais a safbwynt gael ei gynnwys wrth ail-ddweud y straeon hyn. Roedd y project yn gwahodd cyfranwyr dall a rhannol ddall i helpu i greu dehongliad newydd ar gyfer y portreadau hyn, drwy sgwrs a thrafodaeth greadigol. Mae’r dehongliad newydd bellach ar gael ar wefan yr amgueddfa i unrhyw un ei mwynhau, waeth beth yw lefel eu golwg.

Mae pobl ddall wedi’u tangynrychioli’n aruthrol ar draws y sector amgueddfeydd a chelfyddydau gweledol. Nid yw hyn oherwydd eu bod nhw’n methu gwneud y gwaith – mae hynny’n bell o’r gwir – ond oherwydd anghydraddoldebau strwythurol, camsyniadau, a diffyg dealltwriaeth sylfaenol a chymorth hygyrchedd a fyddai’n eu galluogi nhw i ffynnu mewn sefydliad fel amgueddfa. O ganlyniad, rydyn ni’n colli allan ar safbwyntiau gwerthfawr, a allai gyfoethogi dealltwriaeth pawb o’r diwylliant gweledol a chelf. Tan fod gennym gynhwysiant a mynediad mwy teg, mae projectau fel hyn yn ffordd hanfodol o ddathlu’r cyfoeth a’r amrywiaeth sy’n bosibl pan fyddwn ni’n archwilio ymagweddau mwy creadigol tuag at gynhwysiant.


Ychydig amdana i

Curadur celfyddydau gweledol, dehonglydd ac ymchwilydd llawrydd sy’n byw yng Nghymru ydw i. Mae fy niddordebau’n cynnwys naratifau iechyd a salwch, cyfiawnder anabledd, a lleisiau sydd wedi’u hesgeuluso mewn hanes celf, ac rwy’n gweithio gydag amgueddfeydd, orielau a sefydliadau diwylliannol eraill i ddod â’r naratifau hyn yn fyw. Mae gen i flynyddoedd lawer o brofiad yn datblygu ac yn darparu Sain Ddisgrifiadau creadigol i ymwelwyr dall a rhannol ddall. Er nad ydw i’n ddall fy hun, rwy’n byw gyda salwch cronig sy’n fy anablu, ac mae gen i brofiad uniongyrchol o geisio llywio a gweithio yn y byd celf sy’n blaenoriaethu lleisiau ac anghenion pobl nad ydyn nhw’n anabl. Cewch wybod mwy amdana i yn www.stephcelf.co.uk.

Diolchiadau – cyfranwyr a chydweithwyr

Gyda diolch i’r artistiaid a’r cyfranwyr am eu brwdfrydedd a’u cyfraniad: Bridie, Emma, Lou a Taffy’r Ci Tywys, Margaret, Siân ac Uri’r Ci Tywys, Rebecca, a Rosanna.  

Datblygwyd y project fel rhan o gymrodoriaeth ymchwil a ariannwyd ac a gefnogwyd gan y Rhwydwaith Deall Portreadau Prydain, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Amgueddfa Cymru a Sight Life.

Cafodd y ffilm ei chynhyrchu gan Elin Mannion, a’i ffilmio a’i golygu gan Robert Cannon. Troslais Sain Ddisgrifiadau Saesneg gan Alastair Sill, a’r Gymraeg gan Steph Roberts.

Mae Prifysgol Westminster, mewn cydweithrediad ag Oriel Watts – Artists’ Village, Oriel Bortreadau Genedlaethol y Smithsonian, VocalEyes, ac Access Smithsonian, wedi creu model W-ICAD (Gweithdy ar gyfer Disgrifiadau Sain Cyd-greu Cynhwysol). Mae’r model hwn yn rhoi templed i staff amgueddfeydd er mwyn cyd-greu Sain Ddisgrifiadau, gan ac ar gyfer grwpiau cymysg o ymwelwyr dall, â golwg rhannol, ac â golwg llawn. Diolch i’r ymchwilwyr am eu cyngor a’u harweiniad wrth gynllunio gweithdy Y Telynorion Dall.


Share


Comments

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

More like this