CYNFAS

Steph Roberts
1 Tachwedd 2023

Y Telynorion Dall: Sain Ddisgrifiadau

Steph Roberts

1 Tachwedd 2023 | Minute read

Mae Sain Ddisgrifiadau newydd sydd wedi’u cyd-greu, nawr ar gael i’w mwynhau! Cafodd y ddau Sain Ddisgrifiad hwn eu creu fel rhan o broject Y Telynorion Dall: Golwg o’r Newydd, a ariannwyd gan Rwydwaith Deall Portreadau Prydain.

John Parry, y Telynor Dall, gyda Chynorthwy-ydd. PARRY, William © Amgueddfa Cymru

The Blind Welsh Harper. PARRY, John Orlando © Amgueddfa Cymru

Mae o leiaf naw portread o delynorion dall yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Maen nhw wedi bod yn y casgliad ers degawdau, ond maen nhw bob amser wedi cael eu disgrifio a’u trafod o safbwynt curadur nad yw’n ddall. Roedd y project hwn yn cymryd ‘golwg o’r newydd’ drwy archwilio dau ohonyn nhw, John Parry, y Telynor Dall, gyda Chynorthwy-ydd a The Blind Welsh Harper, o safbwynt dall.

Ar gyfer y project hwn, roeddwn i’n gweithio fel curadur llawrydd ochr yn ochr â grŵp o artistiaid a chyfranwyr sydd un ai’n ddall neu â golwg rhannol, er mwyn archwilio’r gwaith drwy sgwrsio ac arsylwi. Y sgyrsiau hyn wnaeth siapio’r Sain Ddisgrifiadau isod.

I ddechrau, beth yw Sain Ddisgrifiad?

Disgrifiad llafar o wrthrych yw Sain Ddisgrifiad. Mae’n gweithredu fel canllaw disgrifiadol i waith celf, mae’n declyn i helpu pobl i ddeall rhinweddau materol, gweledol ac amlsynhwyraidd darn o waith. Er eu bod fel arfer yn cael eu defnyddio fel teclyn hygyrchedd i bobl ddall neu rannol ddall, maen nhw’n gallu bod yr un mor ddiddorol i bobl nad ydyn nhw’n ddall hefyd.

Mae’r Sain Ddisgrifiadau hyn tua 7 munud o hyd. Gallwch ddewis gwrando, neu ddarllen y trawsgrifiad llawn isod.

John Parry, y Telynor Dall, gyda Chynorthwy-ydd, gan William Parry

Paentiad olew ar gynfas yw hwn, sydd tua 90cm o uchder a 70cm o led. Mae tri chymeriad yn y paentiad: yr enwog John Parry, Telynor Dall Rhiwabon; ei gynorthwy-ydd; a thelyn. Maen nhw mewn ystafell dywyll iawn, a honno’n llawn celfi moethus. Mae John Parry ar yr ochr dde, yn eistedd yn canu’r delyn. Drws nesaf iddo, ar y chwith, mae dyn ieuengach, yn sefyll gyda sgôr cerddoriaeth yn ei law. Mae’n ei droi ychydig tuag aton ni, fel petai’n ein gwahodd ni i’w ddarllen. Gwrandewch ar y recordiad sain, neu darllenwch y trawsgrifiad, i ddysgu mwy.

John Parry, y Telynor Dall, gyda Chynorthwy-ydd. PARRY, William © Amgueddfa Cymru

Trawsgrifiad

Sain ddisgrifiad yw hwn o baentiad dan y teitl John Parry, y Telynor Dall, gyda Chynorthwy-ydd sydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Paentiad olew ar gynfas yw e. Mae’n mesur tua 90cm o uchder a 70cm o led, felly mae e tua’r un maint â gât gardd fechan. Peintiwyd y llun tua 1770 gan yr artist Cymreig William Parry; llun yw e o John Parry, tad yr artist, oedd yn enwog fel Telynor Dall Rhiwabon.

Gadewch i mi ddisgrifio’r llun i chi. Mae ’na dri chymeriad yn y llun: John Parry, ei gynorthwy-ydd, a’r delyn. Maen nhw mewn stafell dywyll iawn, a honno’n llawn celfi moethus. Roedd hyn ymhell cyn cyfnod trydan, felly mae’n debyg bod y stafell wedi’i goleuo â chanhwyllau, lampau, neu’r lle tân. Mae’n bosib hefyd bod y llun wedi tywyllu dros amser. Mae ’na ryw deimlad o bethau’n cuddio yn y cysgodion.

Fe allech chi dybio nad yw stafell dywyll yn addas iawn ar gyfer person dall. Ond i rai pobl sy’n ddall, mae gofod tywyll neu led-dywyll yn llawer mwy cyfforddus na stafelloedd wedi eu goleuo’n llachar. Mae’n dibynnu ar eu cyflwr. Wyddon ni ddim pa fath o ddiffyg ar ei olwg oedd gan John Parry, na sut roedd yn effeithio arno. Ond fe wyddon ni ei fod yn ddall o oedran ifanc, ac oherwydd – nid er gwaethaf – ei ddallineb, fe ddysgodd sut i ganu’r delyn.

Mae John Parry ar ochr dde y llun, yn eistedd wrth ei delyn a’i fysedd yn cyffwrdd yn ysgafn â’r tannau. Mae ei lygaid ar gau. Heblaw mod i’n gwybod ei fod yn ddall, gallwn yn hawdd feddwl ei fod wedi ymgolli yn ei gerddoriaeth ei hun. Dychmygwch y seiniau hyfryd yn hofran drwy’r stafell led-dywyll.

Nesaf ato, ar y chwith, mae ’na ddyn ieuengach – mae’n bosib taw David, brawd yr artist, yw e. Mae’n sefyll gydag un goes wedi’i phlygu’n ôl ychydig, yn edrych yn eitha anffurfiol a chydig yn ddigywilydd. Byddwn i’n hoffi neidio i mewn i’r llun a theimlo ei sanau! Mae e’n syllu’n syth tuag aton ni, fel petai’n ceisio dweud rhywbeth wrthon ni, ac mae ganddo sgôr cerddoriaeth yn ei law. Falle ei fod e’n gwrando ar ei dad yn canu’r delyn ac yn dilyn y sgôr yr un pryd. Mae’n troi’r sgôr ychydig tuag aton ni, fel petai’n ein gwahodd ni i’w darllen.

Sgôr ar gyfer Zadok the Priest yw hi, anthem glasurol gan Georg Friedrich Händel. Falle eich bod eisoes wedi ei chlywed – mae hi’n enwog fel Anthem y Coroniad – neu falle eich bod yn gyfarwydd â hi fel cân Cynghrair Pencampwyr UEFA! Roedd John Parry yn enwog am ei berfformiadau meistrolgar o gerddoriaeth Händel. Yn ddiddorol iawn, roedd Händel hefyd yn ddall. Collodd ei olwg yn 1752, rhyw 20 mlynedd cyn i’r llun hwn gael ei beintio.

Mae fel petai’r artist yn dweud wrth y rhai sy’n edrych ar y llun, ‘Dyw eich amheuon chi ddim yn adlewyrchiad o alluoedd fy nhad. Dyw ’Nhad ddim hyd yn oed yn gallu gweld hwn, ond gwrandewch!’ Mae’r rhain yn bobl go iawn, maen nhw’n perthyn i’w gilydd, ac rwy’n credu ei fod yn falch o’i dad.

Mae’n amlwg eu bod mewn safle cyfforddus yn gymdeithasol oherwydd eu dillad crand, a’r ffaith eu bod yn cael eu hystyried yn ddigon pwysig i gael artist i beintio llun ohonyn nhw.

Mae’r ddau’n gwisgo dillad sy’n nodweddiadol o’r 18ed ganrif: sanau at y pen-glin, sgidiau a bwcl arnyn nhw, gwasgodau wedi’u botymu a chotiau â chynffonnau hir. Mae John Parry yn gwisgo wig powdrog gwyn, tebyg i wig barnwr. Mae ei ddillad yn lliwgar – glas cyfoethog a choch, gyda botymau mawr aur. Mae cynffonnau ei got yn hongian i lawr ochr ei gadair. Mae’r cynorthwy-ydd yn gwisgo siwt frown a gwyn sy’n llai rhodresgar. Maen nhw wedi’u gwisgo fel petaen nhw ar fin perfformio, ond mewn gwirionedd mae’n debyg taw wedi gwisgo ar gyfer y llun maen nhw, fel petai’n achlysur arbennig.

Mae ’na ffenest y tu ôl i’r cynorthwy-ydd, a honno’n edrych mas dros dirlun tywyll, stormus. Yn fframio’r ffenest mae llenni o ddefnydd coch, trwm. Ar y llawr mae ’na garped patrymog neu rỳg Twrcaidd. Mae popeth yn ymddangos yn ddrudfawr. Gallaf ddychmygu bod y stafell yn arogli o bren, ffabrigau llychlyd a chwyr, a’r cyfan mae’n debyg wedi’i gymysgu ag arogl chwys. Mae popeth yn brudd a thrymaidd iawn.

Mae’n debygol bod y stafell wedi ei modelu ar stafell yn Wynnstay, stad wledig enwog yng ngogledd Cymru, a chartref Syr Watkin Williams-Wynn – tirfeddiannwr cyfoethog o Gymru oedd yn angerddol dros gefnogi’r celfyddydau. John Parry oedd telynor personol y teulu, ac roedden nhw hefyd yn cefnogi ei fab, William, yn ei yrfa fel artist. Roedd y teulu Parry’n cael gofal o’r radd flaenaf yn Wynnstay, ac yn cael eu trin fel asedau teuluol. Yn anffodus, dinistriwyd Wynnstay gan dân trychinebus yn 1858 a chollwyd nifer fawr o eitemau a chelfi gwerthfawr, yn cynnwys telyn John Parry.

Mae John Parry tua 60 oed yn y darlun hwn, ac roedd ei yrfa yn ei hanterth. Roedd yn gyfansoddwr a chyhoeddwr llwyddiannus, a byddai galw cyson am ei wasanaeth fel perfformiwr. Byddai’n diddanu teuluoedd bonedd Llundain yn eu cartrefi crand, ac yn teithio o gwmpas y wlad yn cymryd rhan mewn cyngherddau elusennol cyhoeddus. Y delyn deires – hynny yw, telyn ac arni dair rhes o dannau – oedd ei offeryn.

Yn y darlun gallwn weld ei bod yn gorffwys ar ei ysgwydd chwith, sy’n dangos taw telyn deires Gymreig yw hon, nid y delyn glasurol gyfandirol a gâi ei chwarae ar yr ochr dde. Mae John Parry yn enwog am gynyddu poblogrwydd y delyn deires, a’i sefydlu fel offeryn cenedlaethol i Gymru.

Er bod yna delynorion dall eraill o gwmpas bryd hynny, roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n cael trafferth i wneud bywoliaeth. Llwyddodd John Parry i gyrraedd lefel o enwogrwydd a llwyddiant na welwyd erioed mo’i debyg. Roedd ganddo gyfuniad prin o sawl elfen – roedd yn dalentog a chraff, a chanddo gefnogaeth noddwr cyfoethog. Ond byddai’n defnyddio’i ddallineb i’w fantais ei hun. Adeiladodd bersona cyhoeddus iddo ef ei hun, bron fel petai’n ymgorfforiad byw o hen feirdd Cymru. Mae beirdd ers cyn cof wedi cael eu cysylltu â dallineb, felly roedd ei ddallineb ef ei hun yn ychwanegu dilysrwydd at ei hawl, gan ychwanegu at natur ramantus ei stori a’i apêl i’r cyhoedd.


The Blind Welsh Harper, gan John Orlando Parry

Darlun inc ar bapur yw hwn, sydd tua 50cm o uchder a 40cm o led. Mae’r teitl The Blind Welsh Harper wedi’i ysgrifennu ar draws y gwaelod mewn priflythrennau trwm. Mae’r Telynor Dall yn eistedd ar fainc bren, yn ein hwynebu ni, gyda’i delyn yn pwyso yn erbyn ei ysgwydd chwith. Mae golwg anniben arno – mae ei ddillad yn garpiog ac wedi’u rhwygo. Mae’n anwesu pen ci blewog wrth ei ochr. O dan ei fainc mae rolyn o bapur gyda’r geiriau ‘An Eisteddvod’ ar draws y top. Gwrandewch ar y recordiad sain, neu darllenwch y trawsgrifiad, i ddysgu mwy.

The Blind Welsh Harper. PARRY, John Orlando © Amgueddfa Cymru

Trawsgrifiad

Sain Ddisgrifiad yw hwn o’r darlun The Blind Welsh Harper sydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Darlun inc ar bapur yw e, ac mae’n mesur tua 50cm o uchder a tua 40cm o led. O dan y llun mae’r teitl ‘The Blind Welsh Harper’, wedi’i sgrifennu mewn priflythrennau trwm. Uwchben hynny mae llinell o destun llawer llai o faint sy’n dweud wrthon ni bod y gwaith wedi’i dylunio a’i beintio gan yr artist John Orlando Parry, ar Ionawr 3ydd 1837, yn King Street, St James’s, Llundain.  O dan y teitl mae dyfyniad o gerdd Gymraeg, gyda’r cyfieithiad Saesneg wedi’i osod i’r chwith ohono. Mae’n dweud ‘Mwyn yw telyn yn y ty lle byddo teulu dedwydd’, ond alla i ddim dychmygu telynor mwy diflas yr olwg na’n cyfaill ni yma!

Felly gadewch i mi ei ddisgrifio fe i chi. Mae’r Telynor Dall yn eistedd ar fainc bren, yn ein hwynebu ni. Mae golwg anniben arno fe, yn pwyso mlaen ychydig yn ei sedd. Mae’n gwisgo het uchel, cot hir a sanau at ei bengliniau, ond mae popeth yn rhacsiog ac mewn cyflwr gwael. Mae ei sgarff-wddf yn gam, mae un o fotymau ei got yn hongian yn rhydd, ac mae gwir angen tacluso blew ei aeliau. Mae ’na glwt ar ei drowsus, dros ei ben-glin dde  – gallwch weld y pwythau sy’n ei gadw yn ei le. Mae’n edrych fel rhywun sy’n mynd drwy gyfnod anodd yn ei fywyd.

Mae ganddo delyn yn pwyso yn erbyn ei ysgwydd chwith, ond dyw e ddim yn ei chwarae. Mae ei law chwith yn gorffwys ar seinfwrdd y delyn, tra bod ei law dde’n anwesu pen ci blewog yr olwg wrth ei ochr. Mae’r ci’n closio at y telynor ac yn syllu’n gariadus arno, ei dafod bach yn hongian allan. Mae’n edrych fel sbaniel, gyda’i glustiau hir llipa. Mae ’na eitemau eraill wedi’u gwasgaru o’u cwmpas: ffon yn pwyso yn erbyn y fainc bren, pâr o fenig ar y llawr, ac ar bwys y menig mae allwedd tiwnio telyn deires.

Mae’n anodd dweud ble maen nhw – tu fas neu dan do. Mae’r llawr o deils carreg yn graciau i gyd. Ar dop y wal ar ochr chwith y llun mae ’na lwmp mawr o blastr wedi cwympo, gan ddangos y gwaith brics oddi tano. Mae ’na jwg o gwrw ar y fainc nesaf at y telynor, felly falle ei fod e’n diddanu gwesteion, neu’n bysgio i ennill arian. Gallwn ei ddychmygu’n chwarae caneuon gwerin ar ei delyn – a phawb yn ymuno yn y canu. Falle taw tafarn yw Tŷ y Teulu Dedwydd!

Dwi’n dychmygu taw’r delyn yw’r peth mwyaf gwerthfawr yn ei fywyd – neu, o bosib, y ci. Tybed sut byddai e’n cario’r offeryn o gwmpas? Byddai angen cerbyd go gryf arno y dyddiau hyn! Dwi’n teimlo trueni drosto fe, ond mae ’na beth hiwmor yma hefyd – bron fel dychan, neu wawdlun. Roedd yr artist, John Orlando Parry, hefyd yn diddanu pobl fel digrifwr a cherddor, ac mae ei hiwmor yn dod i’r amlwg yn nodweddion corfforol eithafol y telynor.

Mae’n amlwg bod y telynor yn dlawd, ond dyw hynny ddim yn dweud unrhyw beth wrthym am ei ddawn gerddorol. Mae’n bosib ei fod yn delynor gwych, ac mae ’na gliwiau yn y llun sy’n awgrymu ei fod o safon eitha da. O dan ei fainc, mae ’na rolyn o bapur – poster neu ryw fath o hysbysiad, mae’n debyg – gyda’r geiriau ‘An Eisteddvod’ wedi’u sgrifennu ar draws y top. Falle ei fod e yn yr Eisteddfod, felly, neu ar ei ffordd yno i gystadlu. Hefyd, mae ganddo delyn fechan yn sownd wrth ei siaced. Roedd y rhain weithiau’n cael eu rhoi fel gwobrau cystadlaethau yn yr Eisteddfod. Byddwn yn tybio ei fod yn eitha llwyddianus, a falle’n mynd drwy gyfnod anodd. Mae fel petai’r holl eitemau hyn o’i orffennol a’i bresennol wedi eu gwasgaru o’i gwmpas.

Ar waelod y dudalen mae ’na ychydig o destun mewn sgrifen od iawn yr olwg. Mae’n edrych yn eitha tebyg i Hen Roeg, ond mewn gwirionedd gwyddor Coelbren y Beirdd yw hi, gwyddor a ddyfeisiwyd gan Iolo Morganwg yn 1791. Roedd Iolo Morganwg yn ffigwr diwylliannol pwysig yng Nghymru, yn enwedig yng nghyfnod cynnar datblygiad yr Eisteddfod. Roedd e hefyd yn dipyn o ecsentrig. Honnai mai Coelbren y Beirdd oedd gwyddor wreiddiol y derwyddon Celtaidd, ond mewn gwirionedd fe ei hun oedd wedi ei dyfeisio! O gyfieithu’r testun i’r Gymraeg mae’n dweud ‘Telyn Fwyn Cymru’, sy’n eironig, oherwydd dyw’r delyn ddim yn edrych ar ei gorau o bell ffordd. Mae’r tannau wedi treulio ac yn glymau i gyd, fel petai’r telynor wedi gwneud jobyn ffwrdd-â-hi wrth geisio’u gosod yn eu lle.

Falle eich bod wedi sylwi nad oes gan ein telynor enw. Cyfeirir ato’n unig fel ‘The Blind Welsh Harper’. Gallwn ddyfalu o hyn ei fod yn cynrychioli rhyw deip arbennig – cymeriad stoc – yn hytrach na pherson go iawn. Falle y dylen ni, felly, ystyried y ddelwedd fel symbol. Beth arall allai e fod yn ei ddweud wrthon ni? Yn y 18ed ganrif roedd y delyn deires wedi dod yn eicon yng Nghymru, yn symbol o falchder gwladgarol. Roedd hi’n cael ei mwynhau mewn tafarnau, mewn gwyliau ac yn yr awyr agored – yn ogystal ag ym mhlasau’r dosbarth uwch a’r bonedd.

Ond erbyn diwedd y ganrif roedd poblogrwydd y delyn deires yn pylu, a rhai sylwebyddion diwylliannol yn poeni y byddai’n diflannu o’r tir yn fuan iawn. Felly mae’n bosib y gellid hefyd ystyried cwymp oddi wrth ras y telynor dall druan yn y ddelwedd hon fel sylw ar y pryderon hynny am dranc y delyn Gymreig annwyl.

Rhoi’r darnau ynghyd

Mae’r ffordd gydweithredol hon o weithio yn cwestiynu pwy sydd â’r hawl i benderfynu pa straeon sy’n cael eu hadrodd, a sut, ac na all ystyr darn o waith celf gael ei gyfleu mewn un safbwynt gwrthrychol. Fel ddywedodd un o’r cyfranogwyr, ‘mae ganddon ni i gyd farn ychydig yn wahanol... ond ar ddiwedd y dydd, gallwn ni greu darlun. Mae’n debyg i bôs mewn gwirionedd. Rydyn ni’n rhoi darnau bach pawb at ei gilydd.’ Mae’r Sain Ddisgrifiadau newydd hyn wedi’u creu fel canlyniad o roi darnau bach pawb at ei gilydd. Er eu bod yn cael eu darllen gan un llais, maen nhw’n cynrychioli sylwadau cyfunol a wnaed gan y grŵp – Bridie, Emma, Lou, Margaret, Siân, curadur y project Steph, a hwylusydd y gweithdy Rosanna.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal project Sain Ddisgrifiadau wedi’i gyd-greu?

Mae Prifysgol Westminster, mewn cydweithrediad ag Oriel Watts – Artists Village, Oriel Bortreadau Genedlaethol y Smithsonian, VocalEyes, ac Access Smithsonian, wedi creu model o'r enw W-ICAD (Gweithdy ar gyfer Disgrifiadau Sain Cyd-greu Cynhwysol). Mae’r model hwn yn rhoi templed i amgueddfeydd er mwyn cydweithio gyda grwpiau o bobl ddall, â golwg rhannol, ac â golwg llawn, i gyd-greu eu Sain Ddisgrifiadau eu hunain.


Curadur celfyddydau gweledol, dehonglydd ac ymchwilydd llawrydd sy’n byw yng Nghymru yw Steph Roberts. Mae ei diddordebau’n cynnwys naratifau iechyd a salwch, cyfiawnder anabledd, a lleisiau sydd wedi’u hesgeuluso mewn hanes celf. Mae’n gweithio gydag amgueddfeydd, orielau, a sefydliadau diwylliannol eraill i ddod â’r naratifau hyn yn fyw, ac mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad yn datblygu ac yn darparu cynnwys Sain Ddisgrifiad creadigol.


Diolchiadau

Datblygwyd project Y Telynorion Dall: Golwg o’r Newydd fel rhan o gymrodoriaeth ymchwil a ariannwyd ac a gefnogwyd gan y Rhwydwaith Deall Portreadau Prydain, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Amgueddfa Cymru a Sight Life.

Gyda diolch i’r artistiaid a’r cyfranwyr am eu brwdfrydedd a’u mewnbwn: Bridie, Emma, Lou a Taff y Ci Tywys, Margaret, Siân ac Uri’r Ci Tywys, Rebecca, a Rosanna.

Cafodd y Sain Ddisgrifiadau Saesneg eu recordio a’u hadrodd gan Alastair Sill. Cafodd y Sain Ddisgrifiadau Cymraeg eu cyfieithu gan Eleri Huws, a’u recordio a’u hadrodd gan Alastair Sill.

Diolch i ymchwilwyr W-ICAD am eu cyngor a’u harweiniad wrth gynllunio gweithdy Y Telynorion Dall.


Share


More like this