CYNFAS

Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
20 Tachwedd 2023

Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau

Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru

20 Tachwedd 2023 | Minute read

Beth oedd ‘Cerflunwaith Prydeinig Newydd’?

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y mudiad celf hynod yma, y cerflunwyr dan sylw a gweithiau perthnasol yn ein casgliad yn Amgueddfa Cymru.

Pwy oedden nhw?

Roedd y Cerflunwyr Prydeinig Newydd, y cafodd eu gwaith ei arddangos a’i ddathlu’n eang drwy gydol saithdegau a’r wythdegau, yn cael eu grwpio gyda’i gilydd yn fras ar sail ffactorau fel eu hoedran, yr ysgolion celf aethon nhw iddyn nhw a’u cysylltiadau cymdeithasol â’i gilydd, yn hytrach nag oherwydd bod eu gwaith yn weledol debyg. Yn wahanol i fudiadau celf eraill, doedd ganddyn nhw ddim ideoleg na maniffesto roedden nhw’n ei rannu, a chael eu dwyn ynghyd gan guraduron a beirniaid celf wnaethon nhw, yn hytrach na hunan-adnabod fel grŵp.

Roedd deunyddiau’r Cerflunwyr Prydeinig Newydd yn amrywio o blastig i bren, i fetel, i bigment pur; roedd eu gweithiau yn aml yn haniaethol, ond nid bob amser. Er bod y grŵp yn amrywiol yn eu hagwedd at gerflunio, roedden nhw’n unedig ynghylch sut roedden nhw’n ehangu potensial y cyfrwng yma – drwy gyflwyno delweddau ffigurol ochr yn ochr â gwaith haniaethol neu drwy ddewis gweithio gyda chymysgedd o ddeunyddiau a thechnegau cerfluniol traddodiadol a newydd.

Roedd ffigurau allweddol y grŵp yma’n cynnwys Stephen Cox, Tony Cragg, Barry Flanagan, Antony Gormley, Richard Deacon, Shirazeh Houshiary, Anish Kapoor, Alison Wilding a Bill Woodrow. Roedd yr artistiaid yma’n cael eu hyrwyddo fel cynrychiolwyr gorau cerflunwaith Prydeinig newydd ac yn arddangos eu gwaith gyda'i gilydd yn eang yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Beth oedd yn ‘newydd’ amdanyn nhw?

Roedd y genhedlaeth o gerflunwyr a ddaeth cyn mudiad Cerflunwaith Prydeinig Newydd wedi dod yn drwm o dan ddylanwad Anthony Caro, a oedd yn addysgu yn Ysgol Gelf St Martin. Roedd cerflunwaith Caro ei hun o’r chwedegau yn aml wedi’i wneud o fetel, yn hynod haniaethol, ac wedi’i nodweddu gan ei raddfa fawr, ei leoliad uniongyrchol ar y llawr (yn hytrach nag ar blinth) a’i ddefnydd o liw gwastad, artiffisial. Dechreuodd grŵp dethol o’i fyfyrwyr yn Ysgol Gelf St Martin hefyd weithio fel hyn – gan ffafrio weldio a chydosod yn lle technegau castio a modelu mwy traddodiadol, defnyddio lliwiau cryf ac artiffisial yn lle rhai naturiol a defnyddio deunyddiau cerfluniol newydd fel metel sgrap a gwydr ffibr yn lle deunyddiau mwy traddodiadol fel pren a chlai. Daethant i gael eu hadnabod fel y Genhedlaeth Newydd.

Roedd Cerflunwaith Prydeinig Newydd, arddull a ddaeth i'r amlwg yn y saithdegau, yn cael ei weld fel adwaith i ffurfiau metel minimalaidd y chwedegau a’r Genhedlaeth Newydd. Roedd nifer o’r artistiaid sy’n gysylltiedig â Cherflunwaith Prydeinig Newydd – gan gynnwys Richard Deacon, Barry Flanagan ac Antony Gormley – yn mynychu Ysgol Gelf St Martin, er nad yw eu gwaith yn adlewyrchu traddodiad Caro.

Mewn ymateb i'r arddull gelfyddydol gysyniadol a minimalaidd yma, mabwysiadodd y Cerflunwyr Prydeinig Newydd ddull mwy traddodiadol o ymdrin â deunyddiau, technegau a delweddau, gan ganolbwyntio ar y deunyddiau a'r prosesau a ddefnyddid i wneud cerflunwaith. Er enghraifft, roedd Richard Deacon yn osgoi defnyddio dur wedi’i weldio yn ei waith, gan ffafrio deunyddiau fel ffabrig, leino a phren. Er bod Deacon yn defnyddio dur, roedd yn cael ei galfaneiddio a’i saernïo ag uniadau a rhybedion, gan arddangos ei broses o greu’r cerflun. Mae Deacon yn disgrifio ei hun fel ‘gwneuthurwr’ yn hytrach nag artist, gan bwysleisio’r adeiladwaith y tu ôl i bob un o’i wrthrychau gorffenedig.

Rydyn ni’n gweithio ar ryddhau’r ddelwedd hon.
CARO, Sir Anthony

Sut daethon nhw mor llwyddiannus?

Cynrychiolwyd y rhan fwyaf o'r artistiaid sy'n gysylltiedig â'r cyfnod yma mewn celf Brydeinig gan Oriel Lisson, oedd wedi’i hariannu’n breifat. Roedd perchennog Oriel Lisson, Nicholas Logsdail, yn gefnogol iawn i Gerflunwaith Prydeinig Newydd a defnyddiodd ei safle fel unigolyn amlwg yn y byd celf i feithrin gyrfaoedd y genhedlaeth newydd yma o artistiaid ifanc ac uchelgeisiol. Er y byddai'n dod yn fwy cyffredin yn ddiweddarach i berchnogion orielau masnachol fod â chefndir mewn ysgol gelf, ar y pryd, roedd Logsdail – a agorodd yr oriel yn ei gartref lled-adfeiliedig ym 1967 tra roedd yn fyfyriwr paentio yn Ysgol Gelf Slade – yn wahanol oherwydd ei brofiad uniongyrchol o fyd celf a’i wybodaeth am artistiaid ifanc eraill.

Ar ddechrau’r wythdegau, gwelwyd sawl arolwg arwyddocaol o waith y Cerflunwyr Prydeinig Newydd, gan gynnwys dwy arddangosfa nodedig: Objects and Sculpture yn y Sefydliad Celfyddydau Cyfoes yn Llundain a’r Arnolfini ym Mryste (1981) a Figures and Objects: Recent Developments in British Sculpture yn Oriel John Hansard yn Southampton (1983). Daeth tri churadur ifanc – Iwona Blazwick a Sandy Nairne yn y Sefydliad Celfyddydau Cyfoes a Lewis Biggs yn yr Arnolfini – â’r artistiaid at ei gilydd ar gyfer y gyntaf o’r arddangosfeydd yma, yn seiliedig ar gysylltiadau personol ac ymweliadau â stiwdios ac arddangosfeydd. Roedd arddangosfeydd grŵp o'r fath yn hanfodol i hyrwyddo'r artistiaid newydd yma a bu’n fodd o dynnu sylw ehangach y cyhoedd at eu gwaith.

Roedd sefydliadau proffil uchel eraill fel y Tate, Cyngor Celfyddydau Lloegr a’r British Council hefyd yn gefnogol i’r arddull newydd yma o gerflunio, gan alluogi gwaith yr artistiaid oedd yn gysylltiedig â hi i gael ei weld mewn sefydliadau ac arddangosfeydd mawr yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol. Ar ôl sefydlu Gwobr Turner ym 1984, roedd o leiaf un artist oedd yn gysylltiedig â Cherflunwaith Prydeinig Newydd ar y rhestr fer am chwech o saith mlynedd gyntaf y wobr, gyda thri ohonyn nhw – Richard Deacon, Tony Cragg ac Anish Kapoor – yn fuddugol rhwng 1987 a 1991.

Pa weithiau sydd yn ein casgliad?

Tall Tree in the Ear
DEACON, Richard
© Richard Deacon/Amgueddfa Cymru

Ar ôl cael ei arddangos yn ddiweddar mewn lleoliadau ledled Cymru fel rhan o Celf ar y Cyd ar daith, cafodd Coeden Uchel yn y Glust gan Richard Deacon ei phleidleisio yn un o hoff weithiau ein cynulleidfa ar Instagram yn 2020. Mae Deacon, a aned yng Nghymru, yn gerflunydd o bwysigrwydd rhyngwladol, a ddaeth i amlygrwydd drwy ei gysylltiad â Cherflunwaith Prydeinig Newydd. Mae wedi disgrifio Coeden Uchel yn y Glust fel gwaith sydd â “cheinder boddhaol”. Mae'r ddwy elfen yn lapio gyda'i gilydd ond dydyn nhw ddim wedi'u cysylltu â'i gilydd. Mae'r adeiladwaith pren, wedi'i lapio mewn cynfas glas, yn dolennu o dan y siâp dur galfanedig, tra bod gan ymyl uchaf y siâp ddarn coll sy'n agor i ddal gafael a chofleidio'r ddolen las. Mae'r ddwy elfen yn haniaethol, yn hytrach na chynrychioliadol. Ffocws y cerflun yw ei wneuthuriad ei hun a’r berthynas rhwng ei ddwy elfen wahanol.

The Red Hat from Who decides? - modern and contemporary art exhibition selected by members of 'The Wallich' charity. Celebrating the 25th anniversary of the relationship between the National Museum Wales and the Derek Williams Trust.
WOODROW, Bill
© Bill Woodrow/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Mae Bill Woodrow, sydd hefyd yn gysylltiedig â Cherflunwaith Prydeinig Newydd, yn adnabyddus am ailgylchu nwyddau domestig sydd wedi'u taflu a'u troi'n gerfluniau newydd. Ar ddechrau’r wythdegau, datblygodd ei enw da ar gyfres o gerfluniau ‘torri allan’, gan drin a thrawsnewid arwyneb metel teclyn cartref yn wrthrych cyfarwydd arall heb ei ddatgysylltu oddi wrth y teclyn gwreiddiol. Yn Yr Het Goch, mae Woodrow wedi gwneud hynny – tynnu ffurf ffidil a bwa o hen beiriant sychu metel. Roedd deunyddiau cerfluniol wedi’u hailgylchu, a fyddai’n aml yn dod o naill ai’r sgip neu lawr y stiwdio, yn rhan arwyddocaol o arferion llawer o’r Cerflunwyr Prydeinig Newydd. Yn yr un modd â gwaith Deacon, mae’r deunyddiau a’r prosesau yn destun canolog i’r gwaith yma. Fodd bynnag, mae'n bendant yn llai haniaethol.

Small Nijinsky Hare
FLANAGAN, Barry
© Ystâd Barry Flanagan. Cedwir Pob Hawl 2024/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru

Yn olaf, gadewch i ni edrych ar Ysgyfarnog Nijinsky Fach gan Barry Flanagan. Mae'r gwaith efydd ffigurol yma’n llawer agosach at ffurfiau a deunyddiau traddodiadol cerflunio. Mae'r ysgyfarnog hirgoes yn dynwared ystum bale clasurol yn gain drwy sefyll en pointe ar ei choes dde gyda'i phen-glin wedi'i phlygu a'r goes chwith wedi'i phlygu a'i chodi o'i blaen. Dechreuodd y cerflunydd Gwyddelig-Cymreig Barry Flanagan gerflunio ysgyfarnogod ar ddiwedd y saithdegau, gan symud oddi wrth gelfyddyd gysyniadol a thuag at ffiguraeth. Mae'r gwaith yma wedi'i fodelu ar y dawnsiwr bale Vaslav Nijinsky, aelod enwog o'r Ballet Russes a oedd yn adnabyddus am ei neidiadau oedd yn herio disgyrchiant. Mae’r efydd, sy’n ddeunydd trwm a statig, wedi troi’n llawn bywyd, ysgafnder a symudiad.

Beth ydych chi'n ei feddwl – beth yw'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng y tri cherflun yma yn ein casgliad?


Mae Dr Jennifer Dudley bellach yn Guradur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd yn Amgueddfa Cymru, ar ôl gweithio ar Interniaeth Guradurol ac fel Curadur Casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams (Cyfnod Mamolaeth) yn Amgueddfa Cymru. Yn 2021, cwblhaodd Jennifer ei PhD ar gerflunwaith haniaethol diwedd yr ugeinfed ganrif.

FLANAGAN, Barry, Ysgyfarnog Nijinsky Fach © Ystâd yr Artist / Bridgeman 


Share


More like this