CYNFAS

Annabel Moller
29 Chwefror 2024

Ymgolli mewn Treftadaeth a Llên Gwerin: Project ar gyfer Amgueddfa Cymru a Llenyddiaeth Cymru

Annabel Moller

29 Chwefror 2024 | Minute read

Beth yw'r project Ymgolli mewn Treftadaeth a Llên Gwerin?

Cynhaliwyd project Ymgolli mewn Treftadaeth a Llên Gwerin yn ystod haf 2022 ym Mhrifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Cymru a Llenyddiaeth Cymru, gyda chefnogaeth gan This Great Adventure a’r StoryFutures Academy. Fel tîm o 6 myfyriwr, gyda chefnogaeth Dr James Taylor a Peter Gardom, fe gynhyrchon ni brofiad fideo 360° a phrofiad sain yn seiliedig ar leoliad y gellid ei gyrchu ar wahanol ddyfeisiau a llwyfannau.

The Bard
JONES, Thomas
© Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Drwy hyn, roedden ni am greu profiadau newydd ac arloesol y gallai straeon diwylliannol coll gael eu hadrodd o’r newydd, mewn ymdrech i annog deialog rhwng cenedlaethau – ac iddo fod yn weithgaredd hwyliog ar gyfer penwythnosau, diwrnodau allan neu hyd yn oed ddiwrnodau i mewn, lle byddai modd i unrhyw un ei fwynhau. Mae'r straeon y penderfynon ni eu hadrodd o’r newydd wedi'u hysgrifennu mewn ffordd sy'n hawdd i'w deall ac sy’n annog cwestiynau am yr ardaloedd cyfagos.

Felly, beth yn union wnaethon ni?

Yn ystod y 6 wythnos gawson ni ar gyfer y project, aethon ni drwy sbrint dylunio, dosbarthiadau meistr gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, sesiynau cynllunio project a chynigion i Amgueddfa Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Fel tîm roedden ni'n gweithio ar...

  • Beth oedden ni eisiau ei gynhyrchu ar gyfer y project,
  • Pwy oedd ein grŵp targed,
  • Sut bydden ni’n ei weithredu yn yr amser oedd ganddon ni,
  • A pha agweddau ar Lên Gwerin a Threftadaeth Cymru y bydden ni’n eu defnyddio ar ei gyfer.

Yn y diwedd penderfynwyd creu dwy daith gerdded ar wahân gyda 3-4 lleoliad yr un, fyddai'n cael eu harchwilio drwy straeon yn ymwneud â llên gwerin Cymru, hanes Môr Hafren a phaentiadau gafodd eu dangos ym mhroject 100 Celf Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Drwy gydol hyn oll ein gobaith oedd y byddai unrhyw un yn gallu mwynhau'r profiad rhithwir neu yn y lleoliad ei hun, os oedd ganddyn nhw unrhyw wybodaeth flaenorol am gelf, llên gwerin a hanes ai peidio.

Sut gwnaethon ni hynny?

Ar ôl penderfynu ar yr holl elfennau yn y sesiynau cynllunio project a chyflwyno ein syniadau i Amgueddfa Cymru a Llenyddiaeth Cymru, aethom yn ein blaenau gyda’n cynlluniau, y ffilmio, y golygu, a’r torri. Roedd gan bob stori roedden ni eisiau ei chreu rywbeth i'w wneud â dŵr, felly dyma oedd ein thema ganolog. Roedd un o'n teithiau cerdded o gwmpas ardal Bae Caerdydd a'r Morglawdd, tra bod yr un arall yn ymwneud â Phenarth a'r llwybr ar hyd y clogwyn yno. Maen nhw'n ymwneud â'i gilydd ac yn rhyng-gysylltiedig oherwydd pynciau sy'n ymwneud â Diwylliant a Threftadaeth Cymru, a Thaliesin, sy'n 'adrodd' y straeon.

Bardd oedd Taliesin oedd yn arfer adrodd chwedlau ac roedd mor boblogaidd cafodd wahoddiad i fod yn Fardd yn llysoedd y Brenin - yn ôl y sôn. Fe wnaethon ni gynnwys cerdd lle mae Taliesin yn esbonio pwy yw e mewn sawl rhan o'r profiad sain, a defnyddio'r patrwm 'Wn i, dw i wedi gweld, a bues i' ar gyfer adrodd y straeon.

The Cliff at Penarth, evening, low tide
SISLEY, Alfred
© Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Roedden ni hefyd am gynnwys rhai o'r lluniau oedd yn perthyn i'r project Celf 100, a chynnwys straeon a gafodd sylw ar wefan Llenyddiaeth Cymru Gwlad y Chwedlau. Felly, defnyddiwyd y gweithiau celf yma Y Bardd gan Thomas Jones, Y Clogwyn ym Mhenarth, Min Nos, Trai, gan Alfred Sisley, Y TERRA NOVA yn gadael Caerdydd 16 Mehefin 1910, gan Richard A. Short

Fe benderfynon ni ymgorffori ambell i stori yn ymwneud â threftadaeth a hanes Caerdydd a Chymru. Mae'r daith ar hyd Penarth a'r llwybr ar hyd y clogwyn yn cynnwys straeon sy'n ymwneud â llên gwerin Cymru a Môr Hafren ac yn cynnwys...

  • Roald Dahl, yr awdur
  • Ynysoedd Rhonech ac Echni ym Môr Hafren
  • Teyrnas Tyno Helig, Cantre’r Gwaelod arall Cymru
  • Creigiau o'r enw’r Bleiddiaid ym Môr Hafren
  • Hafren, ysbryd yr afon
TERRA NOVA leaving Cardiff
Short, Richard A.
© Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Mae'r llwybr ar hyd Bae Caerdydd a'r Morglawdd wedi ei strwythuro'n wahanol ac mae’r pynciau'n ymwneud â'r ddinas a'r bae, gan gynnwys newid hinsawdd, natur, ac agweddau ar chwedloniaeth Cymru. Mae'r daith gerdded yn cynnwys...

  • Tiger Bay a'i gymuned
  • Y fflatiau llaid a oedd yn bodoli cyn Bae Caerdydd a'r creaduriaid oedd yn byw yno
  • Yr Afanc, creadur dirgel sy'n byw mewn llynnoedd
  • Scott yr Antarctig
  • Hanes yr Hen Dŷ Tollau

Beth sydd mor arbennig am y project?

Ar wahân i'r profiad unigryw a gawson ni i gyd fel grŵp; dod at ein gilydd, creu rhywbeth sy'n ymwneud â'n graddau yn y Dyniaethau, ond gydag agweddau technegol doedden ni ddim wedi eu hystyried o'r blaen, ac ar gyfer cynulleidfa wahanol iawn, mae'n arbennig oherwydd ein bod ni wir wedi ceisio creu rhywbeth newydd. Fe wnaethon ni fwynhau creu’r profiadau sain a fideo yn fawr iawn, gan allu defnyddio camerâu a rhaglenni 360° ar gyfer creu sain. Roedd ysgrifennu'r straeon yn wych hefyd, yn enwedig am ei fod mor wahanol i'r hyn rydyn ni'n ei wneud fel arfer ar gyfer y brifysgol.

Roedden ni wir eisiau cyflawni ein nodau gyda'r project:

  • Codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth unigryw Caerdydd drwy straeon llên gwerin, hanesion a'r ardal
  • Codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a sut i weithredu
  • I'r straeon roedden ni'n eu hadrodd gael eu clywed a'u rhannu ag eraill


 

Eisiau gweld y cynnyrch gorffenedig? Dyma'r profiad ar-lein!

Pam mae'r project mor arbennig i mi?

Roedd yr holl straeon roedden ni'n ymchwilio iddyn nhw, eu hadrodd, eu haddasu, ac erbyn hyn eu hadrodd o’r newydd, yn rhai roedden ni i gyd yn eu hoffi'n fawr. Roedden ni'n eitha' beirniadol gyda'r fideos, sain, a straeon a sut cafodd popeth ei roi at ei gilydd, lle mae'r paentiadau o Gelf 100 yn ffitio mewn i'r profiadau a'r ffordd roedden ni'n adrodd y straeon. Dewison ni'r gweithiau celf a'r thema dŵr, Taliesin fel storïwr a chymaint o agweddau gwerin Cymru am eu bod yn golygu rhywbeth i bob un ohonon ni, boed hynny oherwydd ein bod ni wedi ein magu gyda nhw, maen nhw'n ymwneud â'n treftadaeth ni neu am eu bod nhw, yn syml, yn teimlo'n hudolus i’w clywed. Oherwydd ein bod wedi dewis popeth gyda'n gilydd mae hefyd yn ein cynrychioli ni fel grŵp, a'r hyn wnaethon ni ei gyflawni gyda'n gilydd yn y 6 wythnos hynny.

Pwy ydw i?

Anna ydw i, rydw i ar hyn o bryd yn fyfyriwr ôl-raddedig yn astudio Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste. Yr haf diwethaf graddiais o Brifysgol Caerdydd gyda fy BA mewn Astudiaethau Crefyddol a Hanes. Penderfynais gymryd rhan yn y project gan nad oeddwn i'n gwybod cymaint am straeon a threftadaeth Cymru ag y byddwn i wedi hoffi oherwydd Covid ac oherwydd fy mod yn dod o Ewrop, nid y Deyrnas Unedig. Agorodd y project fy llygaid i ba mor debyg yw ein holl straeon gwerin; mae cymaint o orgyffwrdd ac archwilio agweddau ar ddiwylliannau eraill yn gwneud i mi deimlo'n agosach atyn nhw.


Mae Anna Moller wrthi'n cwblhau ei gradd Meistr yn Hanes Celf ym mis Medi 2023. Cyn astudio ym Mhrifysgol Bryste, fe raddiodd Anna gyda BA mewn Hanes ac Astudiaethau Crefyddol o Brifysgol Caerdydd, lle bu'n gweithio gydag aelodau'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ar y Project Ymgolli mewn Treftadaeth a Llên. Yn ei hamser hamdden, mae'n dysgu'r Gymraeg gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, yn dringo creigiau yn ne Cymru ac ym Mryste, ac yn ymweld â'r sinema'n aml.


Share


More like this