CYNFAS

Flatboy
26 Mawrth 2024

Dathlu, Gofalu, Gwrthdystio: Pobl, Cymdeithas a Hunaniaeth

Flatboy

26 Mawrth 2024 | Minute read


Arlunydd ac argraffydd o Gymru yw Flatboy. Mae eu gwaith yn cyflwyno pobl trawsryweddol neu anghydffurfwyr rhyweddol yn eu heiliadau mwyaf bregus ac ewfforig. Mae projectau gwahanol yn canolbwyntio ar wahanol emosiynau – tynerwch, hapusrwydd, rhyfeddod, agosatrwydd, heddwch – er mwyn ceisio dangos dyfnder ac amrywiaeth y profiadau traws sy'n anaml yn cael eu gweld yn y cyfryngau ac yn gyhoeddus. Yn eu gwaith i gyd mae Flatboy yn ceisio cyfleu’r cyswllt rhwng pobl traws, a'r ymdeimlad o gariad dwfn, di-derfyn sy'n llifo drwy'r gymuned.


Share


Comments

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

More like this