CYNFAS

Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf - Amgueddfa Cymru
24 Ebrill 2024

Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith

Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf - Amgueddfa Cymru

24 Ebrill 2024 | Minute read

“Yn debyg i’r ffordd y mae iaith yn datblygu a datblygu, mae myfyrdodau Dhruva Mistry yn adlewyrchu’r lluosowgrwydd o nid syniadau gweledol yn unig, ond cysyniadau diwylliannol” - Ynghylch Dhruva Mistry

Wyddoch chi bod yna 4 grŵp o gerfluniau yn addurno’r tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd? Fe’i hadnabyddir fel y ‘cerfluniau atig’, ac mae pob grŵp yn cynrychioli gwahanol elfennau o fywyd Cymru – o hanes i’r gwyddorau, diwydiant a’r celfyddydau.

Minature version of 'Reguarding Guardians of Art'
MISTRY, Dhruva
© Dhruva Mistry, CBE RA/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Cafodd y cerflunydd Dhruva Mistry ei gomisiynu i gwblhau cynllun cerfluniau’r adeiliad. Wedi’i gomisiynu yn y 1980au, mae ei gerflun Reguarding Guardians of Art, yn cwblhau waliau allanol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r creadur adeiniog hwn - hanner dyn hanner anifail - yn plethu dylanwadau hynafol a modern o bedwar ban byd fel gwarchodwr symbolaidd celf a diwylliant Cymru. Ganed Mistry yn Gujarat, India, ac mae ei waith wedi’i ysbrydoli gan ddiwylliannau drwy’r byd. Gan fenthyg syniadau o India, i’r Aifft, a Groeg, ac o gelf werin i hanesion hynafol a chyfoes, mae ei waith yn adlewyrchu’r gwahanol brofiadau o’r byd o’n cwmpas.

Mae nifer o ffyrdd y mae cerflunwyr yn cynllunio’u gwaith. Yn y casgliad celf cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru, mae’n bosib gweld holl broses Mistry – o’i frasluniau cynnar i’r cerflun gorffenedig.

Braslunio cerflun

Study for "Reguarding Guardians of Art"
MISTRY, Dhruva
© Dhruva Mistry, CBE RA/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Mae’r astudiaeth liwgar hon o’r cerflun arfaethedig ar gyfer Pafiliwn yr Adain Ddwyreiniol yn dangos syniadau cychwynnol Mistry. Yn debyg i stribed llyfr comics, mae’r astudiaeth yn adrodd stori’r cerflun o bob ongl. Fe allwn ni weld sut mae’r artist wedi datblygu’i syniadau, o farciau amrwd gan ddefnyddio creon cwyr i amlinellau a manylion mwy datblygiedig mewn inc du.

Beth yw model y cerflunydd?

Maquette for 'Reguarding Guardians of Art'
MISTRY, Dhruva
© Dhruva Mistry, CBE RA/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

‘Maquette’ yw model cychwynnol bychan y cerflunydd. Mae’r fersiwn bychan hwn o’r cerflun yn cynnig y cyfle i’r artist weld y gwaith terfynol cyn mynd ati i greu fersiwn mawr, maint llawn. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i’r cerflunydd weithio allan sut aiff ati i greu’r gwaith. Mae’r model hwn gan Mistry wedi’i gerfio o bren a’i fodelu o blaster, yn dangos bwriadau’r artist, ac yn cynnig y cyfle i edrych yr holl ffordd o amgylch y gwaith, gan ffocysu ar ei holl onglau. Gall sicrhau bod y brasluniau 2D yn llwyddo yn y trydydd dimensiwn – mae’r cerflunwyr yn gallu addasu’r modelau hyn cyn gweithio ar y fersiwn mwy.

Gwarchodwr

Installing "Regarding Guardians of Art" by Dhruva Mistry on the East Wing of the National Museum Wales Cathays Park building
MISTRY, Dhruva
© Dhruva Mistry, CBE RA/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Mae’r ffigwr, sy’n edrych allan dros Park Place ym Mharc Cathays Caerdydd, yn sefyll fel gwarchodwr i’r rheiny dan ei ofal. Yn ofalwr ac yn ffrind, mae ei gadair wag yn aros i groesawu ymwelydd – artist arall, o bosib?


Curadur Digidol Amgueddfa Cymru yw Carys Tudor ac mae hi wedi gweithio yn adran gelf yr amgueddfa ers 2021. Gyda chefndir ym maes cyfathrebu, mae’n angerddol am gynnig cyfleoedd i bob llais gael rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd, gan wneud pob pwnc yn berthnasol ac yn ddeniadol. Mae Carys hefyd yn ymddiddori mewn darluniau o hanes cymdeithasol a diwydiannol diweddar drwy gelf.

MISTRY, Dhruva, Installation drawing for "Guardians of Art" © Dhruva Mistry, CBE RA/Amgueddfa Cymru


Share


More like this