CYNFAS

Arddun Rhiannon
15 Mai 2024

Arnofio

Arddun Rhiannon

15 Mai 2024 | Minute read

Agor llygaid. Calon yn curo. Anadl yn gyflym. Meddyliau yn rasio. Ah, dwi'n gweld! Mae heddiw am fod yn un o'r diwrnodau *yna*.

Chwarter awr o syllu ar y to cyn mentro ymestyn am y ffôn. Mae fy nêt Tinder neithiwr wedi ’ngadael i ar 'Read' (a finna’ wedi penderfynu ar enwau’n plant ni’n barod – digywilydd.) Hanner awr yn gwibio heibio wrth imi scrolio’r sgwariau 1080x1080 llawn llwyddiannau.

Perthynas newydd yn cael ei lawnsio. Gwyliau moethus. Dyweddïad. Tŷ newydd. Babi ar y ffordd. Babi wedi cyrraedd. Dyweddïad arall. Ac ambell lun o swpar beige wedi’i addurno efo ffilter Valencia.

Digon! Taflu'r byd seibr ffug i'r neilltu.  Nôl i realiti.

Seiniwch yr utgorn. Clywch y klaxon. Ton enfawr yn dod i ’nghyfeiriad mewn 3, 2, ...

‘Ti byth am allu fforddio cartref call. Fyddi di’n lwcus i allu prynu sied yn yr economi yma!

Ti ar ei hôl hi.

Mae’r cloc yn ticio os wti isho cael babi.

Cofio'r peth gwirion ’na nes di yn 2011?

Ti'n embarrassing.

Ti'n useless.

Ti'm i fod yn hapus.’

Ffiw.

Pan mae pobl yn cyfeirio at eich ugeiniau, maen nhw’n honni mai dyma ydi cyfnod gorau’ch bywyd. Ydyn nhw’n cyfri post-troi yn 25 yn hynny? Achos ’nath neb fy rhybuddio i fy mod i am deimlo’n geriatric cyn troi’n 30. Actiwali, do, dwi’n deud celwydd. Mi na’th Simon Cowell! Chi'n gweld, os fyswn i’n gystadleuydd ar The X Factor heddiw, mi fyswn i’n cael fy rhoi yn y categori hynaf un. Y categori doedd neb isho. Yr un efo Wagner a Tesco Mary. Y categori lle ro’dd y cystadleuwyr 27 oed yn panicio mai dyma oedd eu ‘cyfle olaf’ nhw i lwyddo mewn bywyd. Oni’n arfer chwerthin a meddwl eu bo’ nhw’n ymddwyn bach dros ben llestri. Dwi rwan yn sbio nôl ac yn gallu uniaethu efo’r dramatics. ’Nes i erioed feddwl y byddwn i’n cyffroi dros archebu hwfyr newydd ar Facebook Marketplace ac yn cwyno bod Love Island ymlaen mor hwyr? Naddo, ond dyma ni!

Dwi’n deud ’mod i’n teimlo’n hen, ond dwi hefyd dal i deimlo fel plentyn. Plentyn sy’ di colli ei riant mewn archfarchnad, yn rhedeg ar hyd y lle fel iâr heb ben yn trio chwilio amdanyn nhw. Mae o’n teimlo fel ddoe pan mai’r poenau bywyd mwyaf oedd gen i oedd cofio fy llinellau yn y drefn gywir ar gyfer y cyngerdd ’Dolig, a dewis rhwng cael castell fownsio neu rollerskates ar gyfer fy mharti penblwydd yn 8 oed. (Er lles iechyd a diogelwch, fe ddylwn i wedi dewis y castell, gyfeillion.)

Ges i ’ngeni yn berson indecisive – os chi’n holi fi ble i fynd am swper, mi fydd hi’n amser brecwast cyn chi gael ateb - ond ma’ fy ugeiniau’n cymryd y mic, braidd.

Dwi isho teithio a chyfarfod pobl o bob cwr o’r byd i gael adrodd yr hanesion gwyllt i’n wyrion yn y dyfodol. Dwi isho prynu tŷ a setlo lawr. Dwi isho symud i fyw a gweithio mewn gwlad arall. Dwi isho newid gyrfa bob munud. Dwi isho byw ar ynys anghysbell efo ci bach ciwt. Dwisho taro mewn i fy love of my life ar ganol stryd ddinesig a byw yn hapus am byth. (Oce, dwi’n cyfaddef ella ’mod i wedi gwylio gormod o ffilms Disney efo honna, ond hei, ’sdim drwg mewn breuddwydio, nagoes?)

Tydi’n anwyliaid i ddim yn mynd yn fengach. Dwi angen trysori’r amser sydd gen i efo nhw. Allai’m hel fy ’mhac a’u gadael. Mi fasa hynny’n hunanol, ond os dria’i setlo lawr rwan, ai difaru wna i?

Ella mai newid gyrfa i fod yn athronydd llawn amser ddylwn i achos dwi’n wych am gwestiynu popeth. Lle ydw i fod? Pwy ydw i? Be yn union ydi pwrpas bywyd, os oes ’na un? Ydi hapusrwydd llwyr yn realistig neu ydw i’n cropian tuag at rywbeth sydd ddim yn bodoli?

Wrth i mi droedio’r llwybr troelliog o fod yn oedolyn ifanc, heb ddefnydd SatNav na Google Maps, a gyda’r paradocs parhaol o deimlo dim ond eto teimlo popeth i’r byw, dwi’n sylweddoli yn ara’ bach efallai nad fy ugeiniau ydi’r achos am yr holl gwestiynau. Y profiad o fod yn ddynol ydi o, ac mae’n bosib na chai fyth yr ateb ‘cywir’ i’r un ohonynt. Ni gyd yn ymddangos yn llonydd a bodlon ein byd, ond un peth sy’n sicr, mae coesau pob un ohonom yn mynd ffwl spîd o dan y dŵr.

Mae'r darn hwn yn ymateb i Still Life IV gan Lisa Barnard.


Daw Arddun Rhiannon yn wreiddiol o bentref Dinas, Llanwnda ger Caernarfon, ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn y maes cyfathrebu. Ar ôl cyfnod o ysgrifennu blogiau yn rheolaidd i Meddwl.org (elusen iechyd meddwl uniaith Gymraeg), daeth Arddun yn aelod gwirfoddol o'r tim rheoli yn 2019. Mae Arddun hefyd yn rhedeg tudalen Instagram personol @HelMeddyliau i drafod popeth yn ymwneud â lles a iechyd meddwl. Ei diddordebau yw ysgrifennu'n greadigol, pobi. mynd i'r theatr, a ffotograffiaeth.


Diweddarwyd: 22/05/2024

BARNARD, Lisa, Still Life IV © Lisa Barnard/Amgueddfa Cymru


Share


More like this