CYNFAS

Celf ar y Cyd
19 Awst 2024

Galwad Agored: Llygredd Plastig

Celf ar y Cyd

19 Awst 2024 | Minute read

Rydyn ni ar hyn o bryd yn gwahodd ceisiadau am ymatebion artistig i Cone Alert gan Tim Pugh (casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a Flip Flop 29, Playa Santa Anna, Havanna, Cuba, 2014 (casgliad Amgueddfa Cymru).

PUGH, Tim, Cone Alert © Tim Pugh

PERRY, Mike, Flip Flop 29, Playa Santa Anna, Havana, Cuba, 2014 © Mike Perry/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Mae natur a’r byd o’n cwmpas wedi ysbrydoli cenedlaethau o artistiaid dros y canrifoedd. Ers y 17eg Ganrif mae tirluniau wedi bod yn thema hynod boblogaidd yn y byd celf, yn ein cysylltu â lleoliad penodol, a chreu ymdeimlad o gartref neu gynefin.

Wrth i’r byd o’n cwmpas newid mae celf gyfoes yn aml wedi rhoi llais i faterion amgylcheddol. Adrodd hanes heddiw fydd artistiaid, a chynnig naratif i’n profiadau ni.

Rydyn ni’n chwilio am ddarnau o gelf weledol newydd fydd yn ychwanegu at y sgyrsiau o amgylch llygredd plastig yn ein moroedd. Bydd cyfranwyr yn defnyddio gweithiau celf Tim Pugh a Mike Perry fel sbardun neu fan cychwynnol i greu gwaith newydd sy’n ymateb.

Bydd y gweithiau comisiwn yn cael eu cyflwyno ar wefan Celf ar y Cyd⁠, ac rydyn ni’n eiddgar i glywed gan artistiaid sy’n edrych ar ddiwylliant gweledol o safbwynt gwahanol, a does dim angen cefndir celfyddydol proffesiynol i ymgeisio. Gall y cyfraniadau terfynol fod mewn unrhyw gyfrwng all gael ei fewnblannu i’r wefan: e.e. fideo neu ddelwedd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cymorth tîm curadurol a phroject Celf ar y Cyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru i gwblhau'r cyfraniad.

Cynigir tâl o £600 am bob cyfraniad llwyddiannus (sef oddeutu deuddydd o waith). O’r rheiny fyddwn ni’n eu derbyn, dau gais fydd yn cael eu comisiynu’n llawn.

Y broses ymgeisio

Anfonwch eich syniadau dros e-bost at sara.treble-parry@amgueddfacymru.ac.uk gan gynnwys y canlynol:

  • Amlinelliad o’ch syniad. Gall hyn fod yn ddisgrifiad byr, hyd at 200 gair, braslun syml, mood board, neu gasgliad o ddelweddau – beth bynnag sy’n cyfleu’r syniad orau.
  • Enw a rhagenw dewisol, cyfeiriad cartref, manylion cyswllt a bywgraffiad byr.

Dyddiad cau

Rhaid cyflwyno’r cais cyn 5pm ar 9 Medi 2024.⁠ ⁠

Bydd bwrdd y project yn adolygu’r cynigion o fewn 20 diwrnod gwaith ac yn penderfynu pa rai i’w comisiynu. Bydd 2 ymateb artistig yn cael eu comisiynu.

Os oes gennych chi ddiddordeb ac am holi cwestiynau pellach, neu os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd, cysylltwch â Sara Treble-Parry drwy ebostio sara.treble-parry@amgueddfacymru.ac.uk neu drwy ffonio 029 2057 3232.


Share


More like this