CYNFAS

Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
28 Hydref 2024

Llwybr Tref Gŵyl Grefft

Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin

28 Hydref 2024 | Minute read

Fel rhan o Lwybr Crefft y Dref, mewn cydweithrediad gyda Gŵyl Grefft Cymru, fe wnaethom ni gyflwyno chwe artist gyrfa gynnar cyffrous, a ddewiswyd i ymateb i gelfwaith gan oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru. Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ein nod yw sicrhau bod y casgliadau gwerthfawr hyn yn fwy hygyrch a deniadol i bawb.

Lewis Prosser

Fire Bowl

Albion Aberteifi

PROSSER, Lewis, Fire bowl ©Lewis Prosser / Oriel Mostyn, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

PROSSER, Lewis, Fire bowl © Lewis Prosser / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

PROSSER, Lewis, Fire bowl © Lewis Prosser / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

Mae Lewis Prosser yn wneuthurwr basgedi abswrdaidd, sy'n byw ym Mhenarth, de Cymru. Mae'n defnyddio gwneud basgedi, perfformiad, a dylunio gwisgoedd i ddathlu syniadau am ddefod, treftadaeth, a llafur yn Ynysoedd Prydain ac o'u cwmpas. Mae ei waith yn uno pobl trwy grefftwriaeth a rhyfeddod a rennir, gydag adloniant a didwylledd wrth ei galon.

Ella Bua-In

Hikers on the Moelwynion; Cottage, Nowhere

Stiwdio 3

BUA-IN, Ella, Hikers on the Moelwynion; Cottage, Nowhere ©Ella Bua-In / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

BUA-IN, Ella, Hikers on the Moelwynion; Cottage, Nowhere ©Ella Bua-In / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

BUA-IN, Ella, Hikers on the Moelwynion ©Ella Bua-In / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

Mae Ella yn grochenydd hunan addysgedig sy'n byw yn Aberteifi, gorllewin Cymru. Mae ei chefndir mewn peintio celfyddyd gain yn ychwanegu elfen dweud storïau gref at ei gwaith. Daw ei hysbrydoliaeth o amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys mytholeg Groeg, arteffactau hanesyddol, blociau pren Japaneaidd, a thirwedd Cymru.

Hannah Walters

Mab

Awen Teifi

WALTERS, Hannah, Mab © Hannah Walters / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

WALTERS, Hannah, Mab © Hannah Walters / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

WALTERS, Hannah, Mab © Hannah Walters / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

Mae Hannah yn artist cerameg sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae'n creu eitemau cerfluniol ac ymarferol a ysbrydolir gan ei hamser yn gweithio yng nghanolfan hen bethau ei theulu yn Sir Benfro. Yn defnyddio clai cranc a phorslen, mae ei gwaith yn archwilio gwerth a gwrthdaro, a'i nod yw gwneud hen bethau cyfoes sy'n cysylltu'r gorffennol a'r presennol.

Rosie Lake

Pentaptych IV

CRWST

LAKE, Rosie, Pentaptych IV © Rosie Lake / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

LAKE, Rosie, Pentaptych IV © Rosie Lake / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

LAKE, Rosie, Pentaptych IV © Rosie Lake / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

Mae Rosie yn artist tecstiliau sy'n byw ger Llanymddyfri, Sir Gâr. Mae ei chyfansoddiadau graffig yn archwilio cyfosod siâp, gwead, a llinell, gan ddadlennu eu posibiliadau didwedd. Mae'n cyfuno'r elfennau hyn yn fedrus i greu darnau sy'n weledol drawiadol a llonydd.

Rosa Harradine

Cadair Idris handbroom; Tryfan broom

Albion Aberteifi; Cardigan Bay Brownies

HARRADINE, Rosa, Ysgub Tryfan © Rosa Harradine / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

HARRADINE, Rosa, Ysgub llaw Cadair Idris ac Ysgub Tryfan © Rosa Harradine / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

HARRADINE, Rosa, Ysgub Tryfan © Rosa Harradine / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

Mae Rosa yn wneuthurwr brwshys ac ysgubellau sy'n byw yng Nghaerfyrddin, gorllewin Cymru. Mae gweithio gyda deunyddiau cynaliadwy, naturiol yn hanfodol i'w hymarfer, gan ei hysbrydoli i wneud darnau sy'n hardd ynghyd ag yn ddefnyddiol.

Ffion Evans

Hydref

MWLDAN

EVANS, Ffion, Hydref © Ffion Evans / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Heather Birnie

EVANS, Ffion, Hydref © Ffion Evans / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Ffion Evans

EVANS, Ffion, Hydref © Ffion Evans / Oriel Myrddin, Ffotograffiaeth gan Ffion Evans

Mae Ffion yn artist tecstilau o Gonwy. Mae'n creu lluniadau cyffyrddol, synhwyraidd a ysbrydolir gan wrthrychau bob dydd a'n perthnasoedd â nhw. Mae ei gwaith yn archwilio chwarae a chyffwrdd sy'n ennyn enydau o lawenydd a chwilfrydedd trwy ryngweithio.


Llwybr Tref Gŵyl Grefft ac Oriel Myrddin

Wrth i'n taith gyda Gŵyl Crefft Cymru ddod i ben, rydyn ni'n adlewyrchu ar y cydweithredu llawn ysbrydoliaeth rhwng Oriel Myrddin, CELF yr oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru a chwe artist arbennig. Roedd y project hwn nid yn unig yn ffordd o godi'r llen ar y doniau anhygoel sydd yma yng Nghymru ond hefyd yn gyfle i bwysleisio'r gwerth mewn cysylltu gwneuthurwyr cyfoes gyda'r casgliadau celf cenedlaethol. Rydyn ni'n hynod o falch o fod wedi chwarae rhan wrth ehangu ar y cyrhaeddiad a dylanwad sydd gan gelf Cymru, a gweld sut mae'r cyhoedd wedi ymateb iddo. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld i ble fydd y gweithiau unigryw hyn yn dod o hyd i'w cartrefi newydd ar draws y wlad.

Share


More like this