CYNFAS

Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
30 Ebrill 2025

Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore

30 Ebrill 2025 | Minute read

Wrth i bandemig COVID-19 waethygu a’r pwysau ar staff y GIG gynyddu yn ystod gaeaf 2020, roedd Amgueddfa Cymru am ddefnyddio’r casgliad celf cenedlaethol mewn ysbytai a safleoedd gofal i gynnig cysur i staff a chleifion.

Fel rhan o Celf ar y Cyd, cyfres o brojectau a lawnsiwyd yn gyntaf yn 2020, rydym wedi gweithio gyda byrddau iechyd drwy Gymru ar broject Celf Mewn Ysbytai, a buom yn fwyaf diweddar yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Fe weithiom ar y cyd gydag aelodau staff y bwrdd iechyd i greu pecynnau celf yn benodol ar gyfer cleifion a'u teuluoedd wrth iddyn nhw dderbyn gofal lliniarol.

Isod ceir deunydd ychwanegol gan gynnwys cerdd gan Grug Muse a Sain Ddisgrifiadau sydd wedi'u creu mewn ymateb i weithiau celf, wedi'u dewis gan aelodau staff y bwrdd iechyd. Cymrwch bip – pa weithiau celf sy’n apelio atoch chi?

Villanelle

gan Grug Muse

Cerdd mewn ymateb i Llethr yng Nghymru gan Richard Eurich

Dwy goeden, bryn, a chwmwl - dyna’i gyd -    
ac awren heb ystwrio.    
Wn i ddim pam ‘steddais i gyhyd

yn syllu. Does dim hud    
i’r lle, na dim i godi cyffro:    
dwy goeden, bryn, a chwmwl, dyna’i gyd –

a llonydd, i bendwmpio’n fud    
neu ddal ben rheswm efo’r adar to.    
Wn i ddim pam ‘steddais i gyhyd.

Efalle’n wir fod mwy i’r byd    
na’r hyn a welais yno:    
dwy goeden, bryn, a chwmwl; dyna’i gyd.

A dywed rhai bod amser yn rhy ddrud    
i’w dreulio wrth droed bryn, yn bola-heulo.    
Wn i ddim pam ‘steddais i gyhyd.

Efallai mai’n rhu rhad y gwerthais hyd    
yr oriau eraill dreuliais oddi yno. Ac eto.

Ddwy goeden, bryn, a chwmwl. Dyna’i gyd.    
Wn i ddim pam ‘steddais i gyhyd.


GB. WALES. Llaneglwys. The smallest school in the UK. Four students. Field nature lesson. 1977.
HURN, David
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru

Tynnodd David Hurn sawl ffotograff o'r ysgol hon yn Llaneglwys ddiwedd y 1970au. Mae'r llun hwn yn dangos pedwar plentyn allan ar daith natur gyda'r athrawes. Mae'r plentyn lleiaf ar y blaen i’r lleill, i weld yn canolbwyntio wrth geisio cydbwyso ar foncyff coeden, a'r tri phlentyn hŷn tu ôl iddi fel petai nhw'n cael mwy o hwyl. Golwg eithaf syber sydd ar yr athrawes yn y blaen.

Ydych chi'n cofio chwarae fel hyn yn blentyn? Cydbwyso ar bethau, hongian o fariau, neu sefyll ar eich dwylo?

Sut le oedd yr ysgol gynradd? Oes gennych chi atgofion o'ch athrawes neu'r plant eraill? Fyddech chi'n mynd ar deithiau natur, neu wibdeithiau?

Sut brofiad fyddai bod yn rhan o'r grŵp bach yma yn y ffotograff? Mae blodau bysedd y cŵn yn awgrymu taw diwrnod o haf yw hi. Efallai bod yr awyr yn llawn trydar adar neu si gwenyn. Pa synau eraill fyddech chi'n eu clywed? Sut arogl fyddai yn y goedwig?

 

Trawsgrifiad

Disgrifiad sain o ffotograff du a gwyn, Yr ysgol leiaf yn y DU. Pedwar disgybl. Gwers natur maes. Tynnwyd y llun yn Llaneglwys, Powys, ym 1978 gan ffotograffydd dogfennol enwog Magnum, David Hurn. Yn 2017 rhoddodd David Hurn ei gasgliad ffotograffau cyfan yn rhodd i Amgueddfa Cymru, gan gynnwys y ffotograff hwn. Negatif ffilm oedd y ddelwedd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae wedi cael ei sganio'n ddigidol a'i phrintio er ein mwynhad ni. Nawr dwi am ddisgrifio'r ffotograff i chi.

Rydyn ni'n edrych ar olygfa mewn coedwig. Mae pedwar plentyn ifanc yn dilyn eu hathrawes ar hyd boncyff coeden sydd wedi cwympo ac yn ymestyn ar draws y ffotograff. Mae pob un yn edrych i lawr ar y boncyff cyn eu cam nesaf, ac yn ymestyn eu breichiau fel adenydd i gadw cydbwysedd.

O flaen y boncyff, mae patsyn o fysedd y cŵn yn tyfu, ac yn y cefndir mae coedwig sy'n gymysgedd o wahanol rywogaethau, gyda golau’n torri drwy'r bylchau rhwng y boncyffion. Ymestynna'r coed i'r entrychion, gyda brigau a dail y coed mewn cysgod yn dywyllach na'r gweddill. Mae'r awyrgylch yn llawn cyffro a dirgelwch, wrth i ni ddychmygu beth sy'n cuddio yn y goedwig, tu hwnt i'r canghennau trwm a'r brigau sy'n bentwr ar y llawr. Bron y gallwn ni glywed y carped o nodwyddau pinwydd yn sisial!

Ar un olwg, mae rhisgl garw'r goeden ar ei gorwedd yn edrych fel crychau croen eliffant anferth! Mae rhyw hud am y blodau yn y blaendir hefyd. Gall bysedd y cŵn dyfu hyd at ddwy fetr o daldra, ac mae'r blodau hyn, gyda'u dail hirgrwn melfedaidd a chlychau'r blodau mewn clystyrau, bron yn dalach na'r plant ar y boncyff.

Pedwar plentyn sydd yma, tair merch a bachgen ychydig gamau y tu ôl i'r athrawes, ac mewn trefn oedran a thaldra. Mae'n sioe o ffasiwn plant y 70au – sanau a sandalau, ffrogiau pen-glin a chardigan, crysau-t coler mawr, fflêrs a gwalltiau mewn bòb ciwt. Allwn ni ddim peidio gwenu ar y plant yn eu dillad ysgafn, hwyliog.

Du plaen yw dillad yr athrawes – cardigan wedi gweu, sgert ben-glin, blows a sandalau. Mae ei gwallt mewn bòb trwchus, tonnog. Fel ei dillad ffurfiol, proffesiynol, golwg syber sydd ar ei hwyneb.

Mae'r plant rhyw gam i ffwrdd o'u gilydd. Er bod osgo'r plant yn drefnus ac yn debyg, mae'r wên ar wyneb pob un yn brawf o hwyl y foment.

Mae'r ferch fach yn y blaen wedi ei dal ar hanner cam – ei choes flaen y tu ôl i fysedd y cŵn. Gyda'i hysgwyddau crwm mae'n edrych bron fel pyped ar linynnau anweledig, yn camu yn ofalus ar hyd y boncyff. Gwaith anodd yw cadw'ch cydbwysedd ar foncyff coeden, ac mae hi'n canolbwyntio'n galed! Am wers llawn hwyl!

Mae David Hurn yn byw ac yn gweithio yn Tyndyrn, Sir Fynwy, ac mae'n un o ffotograffwyr dogfennol mwyaf dylanwadol Prydain gydag enw mawr yn rhyngwladol. Ym 1973 fe sefydlodd Ysgol Ffotograffiaeth Ddogfennol enwog yng Nghasnewydd. Cefnodd yn y pen draw ar faterion cyfoes a throi at destunau mwy personol, fel y gwelwn ni yn y ffotograff hapus hwn.

Hillside in Wales (1967)
EURICH, Richard
© Ystâd Richard Eurich. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru

Mae'n teimlo fel bod cymaint o le yn y paentiad hwn o lethr yng Nghymru. Gyda'r awyr mor las a'r bryniau mor wyrdd, ac er gwaetha'r ychydig gymylau yn yr awyr mae'n edrych fel diwrnod braf – diwrnod cynta'r gwanwyn efallai. Sut deimlad fyddai sefyll ar y mynydd hwn? Sut olygfa fyddai o ben y mynydd?

Allwn ni ddim gweld unrhyw un yn y paentiad – dim pobl, dim anifeiliaid. Mae'n ymddangos mor heddychlon. Does dim tirnodau chwaith, ac eithrio dwy goeden a llwybr bach yn y canol.

Yw tirlun fel hwn yn teimlo'n gyfarwydd? Yw e'n teimlo fel tirlun Cymreig? Mae'r paentiad yn edrych yn llawn gwead – dychmygwch redeg eich bysedd drwy'r glaswellt. Fyddai'r porfa'n feddal a sych, ac efallai'n llawn mwsog? Sut arogl fyddai ar y mynydd ys gwn i? Gall rhai pobl synhwyro storm ar y gorwel – allwch chi?

 

Trawsgrifiad

Disgrifiad sain o baentiad o'r enw Llethr yng Nghymru, gan Richard Eurich oedd yn byw rhwng 1903 a 1992. Cafodd ei baentio ym 1967. Paentiad olew ar fwrdd yw'r gwreiddiol sy'n 62cm o daldra a 76cm o led yn ei ffrâm. Mae'n rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Nawr dwi am ddisgrifio'r gwaith i chi. Astudiodd Richard Eurich yn Ysgol Gelf Bradford ac Ysgol Slade yn Llundain.

Fel Artist Rhyfel Swyddogol gyda'r Llynges Frenhinol rhwng 1941 a 1945, paentiodd Richard Eurich nifer o forluniau a golygfeydd rhyfel. Paentiodd dirluniau yn y Pennines gydol ei fywyd, a gweithiodd yng Nghymru hefyd.

Mae'r olygfa hon o lethr gwag yng Nghymru, yn codi i guddio’r awyr bron i gyd, yn ymddangos yn syml, ond yn creu ymdeimlad mawr o le.

Gwelwn y llethr o bell, ac mae'n llenwi'r ffrâm bron i gyd. Mae'r gefnen grom, serth yn codi o'r gornel dde isaf i'r gornel chwith uchaf. Mae'r patsyn o awyr yn dechrau'n llwyd a thywyll, yn chwyddo ac ymdonni drwy fflachiau o wyn, cyn torri'n wybren las agored.

Mae pen y bryn ymhell uwchlaw'r cymylau. Ar y llethr mae dafnau o graig lwyd, frith yn toddi i'r tir, sy'n donnau o arlliwiau gwyrdd meddal, llyfn, fel melfed.

Mewn un man mae un o'r tonnau tir yma'n plymio'n ddramatig, cyn i'r llethr serth barhau ar yr ochr draw. Gwelwn fflachiadau o greigiau brown golau yn ymwthio drwy'r gwyrdd, cyn ymdoddi i'r glaswellt cyfoethog, llyfn.

Wrth edrych ar y paentiad hwn, gallwn ni ddychmygu oerfel y glaswellt dan ein traed a blasu'r awyr iach.

Ar y mynydd mawr gwyrdd hwn hefyd mae dwy goeden – un yn dal yn sownd i ochr y llethr, dri chwarter o'r ffordd i lawr. Yn is i lawr, mae ffordd las yn diflannu tu ôl i droed y llethr, ac am beth o'r ffordd mae arlliw ysgafn o wal yn ei chysgodi. Ger y ffordd las hon mae'r ail goeden yn sefyll.

O bell, mae'r coed yn ymddangos yn fach ac unig, ac maen nhw wedi eu paentio yn gain a bregus iawn. Mae eu canghennau main yn taflu fflachiadau o gysgod dros y llethr. Ond mae cryfder a dycnwch i'r coed hyn hefyd, ac rydyn ni'n eu hedmygu am ddal eu gafael at y clogwyn.

Er bod yr awyr yn dawel, gallwn ni ddychmygu'r coed yn dal eu tir yn wyneb gwynt enbyd. Mae'n teimlo fel petai popeth yn y paentiad yn llifo tuag at y ddwy goeden, ac er gwaetha pawb a phopeth, maen nhw yma o hyd. Yn rhan hanfodol o ddrama'r olygfa. Yn dyst i ddirgelwch a rhyfeddod natur.

A cottage in a cornfield
CONSTABLE, John
© Amgueddfa Cymru

Roedd John Constable yn baentiwr tirluniau enwog, ac efallai y byddwch chi'n gyfarwydd â'i weithiau eraill.

Roedd Constable yn credu bod pob elfen o natur yn haeddu sylw'r artist. Gallwn ni weld hyn yn Bwthyn mewn Cae Ŷd, gan fod y manylion lleiaf wedi'i paentio'n ofalus. Roedd Constable yn credu y dylai artist gael perthynas bersonol ddwfn â'r tirlun roedd yn ei baentio, ac fe baentiodd ei filltir sgwâr yn Dedham Lane, Suffolk, gyda chariad ac angerdd mawr.

Mae ei baentiadau wedi'u gwreiddio yn eu lleoliad, ac yn llawn stori neu naratif.

Tasech chi'n edrych ar y paentiad hwn gyda rhywun arall, pa stori fyddech chi'n ei hadrodd? Pwy sy'n byw yn y bwthyn? Sut fydden nhw'n treulio'i dyddiau? Sut olwg sydd ar ystafelloedd y bwthyn? Hoffech chi fyw yma, yng nghanol y cae ŷd?

Mae'r paentiad yn teimlo'n eidylaidd a hiraethus. Mae'n teimlo'n gartrefol, hamddenol a thawel.

 

Trawsgrifiad

Disgrifiad sain o baentiad o'r enw Bwthyn mewn Cae Ŷd, gan John Constable oedd yn byw rhwng 1776 a 1837. Cafodd ei baentio ym 1817. Paentiad olew ar gynfas yw'r gwreiddiol sy'n 31cm o daldra a 26cm o led. Mae'n rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Nawr dwi am ddisgrifio'r gwaith i chi.

Ganed John Constable yn East Bergholt, Suffolk, ym 1776. Roedd yn artist tirluniau Rhamantaidd oedd yn credu y dylai artist gael perthynas bersonol ddwfn â'r olygfa neu'r testun roedd yn ei baentio – pethau roedd yn eu hadnabod a'u caru, oedd yn ennyn teimladau dwfn. Dywedodd unwaith taw 'dim ond gair arall am deimlo yw paentio'.

Mae'r rhan fwyaf o'i waith wedi'i ysbrydoli gan atgofion o'i blentyndod yn Suffolk. Mae Bwthyn mewn Cae Ŷd yn dangos tŷ tlawd yn y wlad, gydag asyn ac ebol yn cuddio yng nghysgod y giât – golygfa syml fyddai'r artist wedi ei gweld bob dydd wrth gerdded i'r ysgol yn fachgen.

Am daith i'r ysgol fyddai honno! Mae'n siŵr y byddai amser yn stopio wrth iddo bwyso dros drawst uchaf y giât ac edrych ar draws y cae ŷd. Ac yno gallai deimlo graen y pren, rhwd y metel a goglais y pabis coch yn ymwthio drwy'r bylchau yn y ffens fel yn y paentiad. Byddai'n boddi ym mhrydferthwch yr ŷd wrth iddo suo yn y gwynt, ac yn ymgolli yn arogl blodau'r ysgaw. 'Fy llefydd i fydda i'n baentio orau', meddai mewn llythyr at ffrind.

Ac nid yw'n cymryd dim yn ganiataol. Mae'r lôn wledig yn arwain at y giât wedi treulio i'r pridd mewn mannau, a dafnau amryliw o borfa yn ymwthio i faglu cerddwr diofal – llwybr mae'r artist yn ei adnabod fel cefn ei law! Dros y lôn mae pelydrau'r haul yn tasgu goleuni, a'r ymylon mewn cysgod yn agos i'r ffens bob ochr i'r giât. Yno mae mieri gwyrdd tywyll yn gorchuddio, dringo a hongian. Mae dau fonyn coeden yn glir o'u gafael – un â chefn crwm – a golau'r haul eto'n dawnsio dros y ddau hen bren.

Mae'r asyn a'r ebol yn cuddio yn y cysgodion, a fflach ysgafn bol gwyn yr asyn yn datgelu'i guddfan. Efallai eu bod nhw hefyd yn gallu arogli blodau'r ysgaw, wrth i'r gwynt gario arogl y boldau gwyn sy'n britho'r cae. Ac mae digonedd o ddewis, yn y môr o liwiau sy'n britho'r olygfa ac yn ei llenwi â bywyd. Ymhell uwch eu pennau mae canopi gwyrdd cyfoethog coeden fawreddog. Ei dail yn chwarae â'r awyr fel bysedd bregus, lle mae fflach y cymylau llwyd yn chwim a dramatig.

Tu hwnt i’r giât a heibio'r goeden, mae'r cae ŷd yn suo. Uwchlaw gwyrdd cyfoethog eu coesynnau, mae pennau melynwyn yr ŷd yn ymestyn at yr awel ysgafn. Ac yn swatio'n dawel tu hwnt i'r cae mae'r bwthyn. Mae ei ochr aton ni, a dim ond rhan o flaen y tŷ yn y golwg – drws o bren gwyn gyda phlanhigyn dringo'n cordeddu. Mae lliwiau brown meddal y bwthyn yn ei wreiddio yn y tirlun, a thywyllwch y ffenestri pren, llethr y to a'r addurn syml ar ei ben yn ychwanegu at gynhesrwydd gwledig yr olygfa. Uwchlaw'r tŷ mae simdde yn sefyll yn dalsyth mewn patsyn o awyr goleuach.

Ar ochr chwith y bwthyn mae coed trwchus yn dal y gwynt a haul yr haf sy'n ymwthio drwy'r cymylau uwch eu pennau. Ac i'r dde mae'r caeau a'r coed yn fwy aneglur – ac yn arlliw yn y pellter mae cae o ŷd aeddfed yn frown dan yr haul.

Roedd yr artist yn adnabod y lle yn iawn.

Mae John Constable yn dangos i ni sut i weld prydferthwch mewn pethau bob dydd, a chysur ar stepen y drws. Gwenwch am y pethau bychain.

DUNBAR, Evelyn, Dyrnu a Byrnu, Sir Fynwy © Ystâd Evelyn Dunbar/Amgueddfa Cymru

Mae'r paentiad hwn o fferm yn teimlo'n llawn bywyd! Caiff ein llygaid eu tynnu'n syth i ganol y llun, sydd wedi'i fframio gan ddrysau mawr y sgubor.

Mae'r paentiad fel petai wedi'i foddi mewn goleuni euraid. Arlliwiau melyn a brown yw'r lliwiau i gyd bron, gydag ambell fflach o goch.

Edrychwch yn agosach ar ddillad y menywod. Allwch chi ddyfalu dyddiad y paentiad o'r gwisgoedd? Lifrai Byddin Tir y Menywod mae'r menywod yn ei wisgo.

Paentiwyd y llun ym 1943, pan taw Evelyn Dunbar oedd yr unig fenyw wedi ei chyflogi fel artist rhyfel swyddogol. Fe baentiodd hi gyfres o luniau o fenywod wrth eu gwaith dros y rhyfel – yn godro, codi tatws, tocio coed a pob math o waith fferm arall. Mae ei phaentiadau yn gofnod hyfryd o'r Ffrynt Cartref.

Ydych chi, neu'r teulu wedi gwneud gwaith ffarm erioed? Wnaethoch chi byth helpu i drin gwair? Neu godi tatws? Sut brofiad oedd e?

 

Trawsgrifiad

Disgrifiad sain o baentiad o'r enw Dyrnu a Byrnu, Sir Fynwy, gan yr artist Evelyn Mary Dunbar oedd yn byw rhwng 1906 a 1960. Cafodd ei baentio yn Ionawr 1943, yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Paentiad olew ar gynfas yw'r gwreiddiol sy'n 41cm o daldra a 51cm o led. Mae'n rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dwi am ddisgrifio'r gwaith i chi, ond yn gyntaf, dyma ychydig o hanes yr artist.

Graddiodd Evelyn Dunbar o'r Coleg Celf Brenhinol ym 1932. Ei swydd broffesiynol gyntaf oedd paentio murlun mewn ysgol yng Nghaint. Fel nifer o artistiaid eraill y cyfnod, roedd hi'n credu bod gan gelf rôl bwysig i'w chwarae mewn bywyd cyhoeddus.

Pan dorrodd y rhyfel ym 1939, cafodd Evelyn Dunbar ei chyflogi gan y Weinyddiaeth Wybodaeth i ddogfennu'r rhyfel a gwasanaeth menywod ar y ffrynt cartref, yn enwedig y Fyddin Dir. Hi oedd yr unig fenyw ym Mhrydain i gael ei chyflogi fel Artist Rhyfel. Diolch i'w hangerdd dros gelf gyhoeddus a'i chariad at gefn gwlad a'i dealltwriaeth, roedd hi'n ddewis perffaith. Nawr dwi am ddisgrifio'r gwaith i chi.

Mae criw o Ferched Tir wrthi'n gweithio'n galed ger hen sgubor dywodfaen ar fferm ym Mrynbuga, Sir Fynwy, yn dyrnu a byrnu gwair. Mae drysau'r sgubor led y pen ar agor i ddangos pawb wrthi fel lladd nadredd y tu mewn hefyd. Yn nau draean uchaf y paentiad fe welwn ni'r broses o ddyrnu – o rannu'r grawn o'r gwellt. Yn y traean isaf fe welwn ni'r broses o fyrnu'r gwair ar yr iard.

Mae'r sgubor o dywodfaen Cymreig lleol yn fawreddog yn ei natur wledig ei hun. Gosodwyd rhai cerrig unigol o bob maint, siâp a lliw wedi'u cerfio'n ofalus ymysg y tywodfaen ac mae'r lliwiau daearol, ysgafn yn sefyll allan yn erbyn y cefndir golau. Llechen Gymreig yw'r to, gyda darnau o fwsog yn frith drosto. Yn llenwi llwybr canol y sgubor mae peiriant dyrnu rhuddgoch.

Mae Merched y Tir yn gwisgo cotiau khaki a dyngarîs, siwmperi glas tywyll ac esgidiau du. Efallai bod y merched y tu allan yn gwisgo eu cotiau cynnes rhag oerfel main mis Ionawr. Yn pwyso yn erbyn y drws i'w ddal ar agor mae ystyllen bren, ac yn erbyn wal chwith y sgubor mae rhaca neu gribyn yn pwyso.

Mae grawn a gwellt yn cuddio'r iard bron yn gyfan gwbl, yn gymysgedd o felyn a brown yn cael eu goleuo mewn fflachiadau gan olau egwan dechrau'r flwyddyn sy'n treiddio i'r iard o'r dde, gan daflu cysgodion y tu ôl i'r byrnau gwair a'r mynydd grawn.

Yn y blaendir y tu allan i'r sgubor mae dwy o Ferched Tir, un ym mhob cornel. Y tu ôl i'r ddwy, yng nghanol yr iard, mae trydedd yn pwyso dros y peiriant byrnu rhuddgoch. Mae hi wedi'i phaentio ychydig yn llai na'r lleill, gyda chludydd y peiriant yn diflannu i'r sgubor y tu ôl iddi, a'i linellau syth yn hollti'r iard. Dyma esiampl o'r artist yn defnyddio persbectif i greu golygfa llawn dyfnder. Ym mhen arall y peiriant byrnu mae byrnau hirsgwar perffaith yn ymddangos bob yn dri.

Nid tasg hawdd yw cario'r byrnau mawr, trwm, ond mae'r ferch yn y blaendir ar y dde yn edrych yn fwy na thebol. Gan blygu yn ei chwrcwd gyda'i phen yn isel at y ddaear, mae hi'n cario pentwr o dri ar ei chefn. Dychmygwch y pwysau ar ei chefn, a phigo anghyfforddus y gwellt wrth iddi sadio'r byrnau gyda'i dwylo. Welwn ni ddim mo'i phen, dim ond dwy fraich yn dal y byrnau, ond mae'n ddigon i ni deimlo ei chryfder a'i phenderfyniad.

Yn y blaendir ar y chwith mae'r ferch yn sgubo'r iard gyda'r haul ar ei chefn a'i choler wedi'i godi rhag yr awel fain. Mae ei sgarff smotiog oren a gwyn yn dal ein sylw a chodi gwên – efallai ei bod hi'n dipyn o gymeriad!

Yn y sgubor mae pump arall o Ferched y Tir yng nghanol holl sŵn a llwch y peiriant dyrnu. Maen nhw i gyd bron mewn cysgod a gyda'u cefnau aton ni, ac yn llai amlwg na'r ffigurau yn y blaendir. Ond dyw hyn ddim yn tynnu oddi wrth yr ymdeimlad o waith caled o gwbl.

Maen nhw'n gweithio naill ochr i'r peiriant, a hefyd ar draws yn uchel uwch ei ben. Mae un ferch sydd â'i chefn aton ni yn cribinio pentwr bach euraid o wenith i'r peiriant. Uwch ei phen, yn ddyfnach i'r sgubor, mae merch arall yn cario ysgub wenith a'i ffrind yn gwylio. Maen nhw'n agos at drawstiau'r to, yn silwét yn erbyn yr agoriad hirsgwar yn y cefndir. Ar ôl gorffen eu gwaith, byddan nhw'n dringo i lawr yr ysgol sy'n pwyso o'u blaenau.

Yn eu lifrau khaki sy'n ymdoddi i'r olygfa, cawn ein hatgoffa bod Merched y Tir yn perthyn i'r tir, yn perthyn i hanes y lle hwn, fel yr ydyn ni'n perthyn i gylch bywyd a gwaith sy'n ein cwmpasu.

Waterlilies
MONET, Claude
© Amgueddfa Cymru

Efallai bod y llun hwn yn gyfarwydd – mae'r artist, Claude Monet, yn enwog am ei baentiadau o lilis dŵr. Byddai'n aml yn ail-baentio’r un golygfeydd drosodd a thro, ar amseroedd gwahanol o'r dydd, mewn gwahanol dymhorau ac mewn goleuni gwahanol. Paentiodd dros 250 o lilis dŵr i gyd.

Hyd yn oed os yw'r llun yn gyfarwydd, edrychwch arno fel petai chi'n ei weld am y tro cyntaf. Mae cymaint o ddyfnder yma – yn y pwll dwfn, yr adlewyrchiadau, y blodau. Er taw Lilis Dŵr yw teitl y gwaith, mae'n teimlo'n fwy fel astudiaeth o'r dŵr ei hun. Mae'n teimlo fel bod arwyneb y dŵr yn symud a sgleinio.

Edrychwch ar y lliwiau yn y paentiad. Glas a phorffor mor llachar! Weloch chi ddŵr mor las erioed? Yw'r lliwiau yn eich atgoffa chi o unrhyw beth?

Ydych chi'n gwybod am unrhyw baentiadau eraill gan Monet? Ydych chi erioed wedi'u gweld nhw mewn oriel? Neu fuoch chi'n ddigon lwcus i ymweld â chartref Monet yn Giverny, Paris?

 

Trawsgrifiad

Sain Ddisgrifiad o un o'r paentiadau Liliau Dŵr gan yr artist Argraffiadol enwog o Ffrainc, Claude Monet, oedd yn byw rhwng 1840 a 1926. Paentiodd Monet sawl llun gwahanol o lilis dŵr yn ystod ei yrfa. Paentiodd y llun hwn ym 1905. Paentiad olew ar gynfas yw'r gwreiddiol sy'n 82cm o daldra a 100cm o led. Mae'n un o dri phaentiad lilis dŵr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dwi am ddisgrifio'r gwaith i chi, ond yn gyntaf, dyma ychydig o hanes yr artist.

Symudodd Monet i bentref bychan Giverny ym 1883 – hafan dawel rhyw 40 milltir o brysurdeb Paris. Ym 1890 prynodd dŷ yno ac ymgartrefu. Roedd yn arddwr brwd, ac fe ddyluniodd ardd yn ei gartref newydd gan ddwyn ysbrydoliaeth o erddi Siapaneaidd a harmoni rhwng dyn â natur.

Ym 1893 fe brynodd lyn mawr gerllaw a'i droi'n ardd ddŵr. Doedd y cymdogion a'r ffermwyr lleol ddim yn hapus o gwbl – roedden nhw'n ofni y byddai'r planhigion yn gwenwyno'r dŵr a lladd eu defaid!

Daeth yr ardd ddŵr yn obsesiwn i Monet – plannodd lilis dŵr, ac adeiladu pont Siapaneaidd dros y llyn. A dros 30 mlynedd olaf ei fywyd, fe baentiodd Monet ddau gant a hanner a mwy o baentiadau olew o'r llynnoedd lili.

Does dim gorwel na llawr yn y paentiad; mae'r artist yn edrych yn syth i lawr ar arwyneb y dŵr lle mae grwpiau o ddail lili ar wasgar – yn fflachiadau gwyrdd golau gyda'r blodau bregus yn smotiau bychan pinc, gwyn a melyn. Ydych chi'n teimlo awydd i roi hwb, cam a naid o ddeilen i ddeilen dros y llyn? Ne efallai eich bod yn cael eich hudo i fan tawel – man i ymlacio a myfyrio.

O dan ac o gwmpas y lilis mae adlewyrchiad yr awyr las a'r helyg gwyrdd yn fflachiadau llachar o liw ar y dŵr.

I Monet, roedd arwyneb y dŵr mor bwysig â'r lilis eu hunain. Byddai hyd yn oed yn gofyn i'w arddwyr sgimio a glanhau arwyneb y dŵr, a chadw llygad barcud ar y lilis dŵr i'w cadw'n daclus yn eu lle! Fel hyn, gallai Monet wylio a phaentio newidiadau'r adlewyrchiadau golau a lliw ar wyneb y dŵr – golygfa fyrhoedlog, fythol newydd, sy'n fyfyrdod tawel ar fywyd, golau a threigl amser.

Dywedodd Monet fod ei ardd ddŵr yn 'tanio ynoch chi ymdeimlad o'r tragwyddol – rydych chi'n profi yno mewn microcosm... ansefydlogrwydd y bydysawd sy'n gweddnewid ei hun o flaen ein llygaid ym mhob eiliad.'

Mae amser... bywyd... golau yn amhosib ei ddal, ond fe geisiodd Monet ei orau. Cawn ni ein hatgoffa yn ei gyfres lilis dŵr ein bod ni hefyd yn rhan o'r darlun cyfoethog, byrhoedlog hwn.

Mae gan y paentiad hwn gysylltiad arbennig â Chymru. Cafodd ei brynu gan Gwendoline Davies ym Mharis ym 1913. Magwyd Gwendoline yn Llandinam, ger y Drenewydd, ac fe adeiladodd hi a'i chwaer Margaret un o gasgliadau celf gorau Prydain yn yr 20fed ganrif gydag arian a etifeddwyd gan eu tad-cu, y diwydiannwr Cymreig enwog David Davies o Landinam. Rhoddodd y Chwiorydd Davies 260 o weithiau celf i Amgueddfa Cymru ym 1951 a 1963, gan gynnwys tri o lilis dŵr Claude Monet. Dyma'u haelioni yn gweddnewid y casgliad celf cenedlaethol. Am rodd i'w mamwlad!

The rising of the Skylark
PALMER, Samuel
© Amgueddfa Cymru

Mae'r awyr yn y paentiad hwn mor brydferth a dramatig, does dim syndod fod y bugail wedi aros i edrych yn gegrwth!

Codiad yr Ehedydd yw enw'r gwaith, ac mae'n debyg fod y bugail wedi camu allan i glywed cân yr adar. Allwch chi weld yr ehedydd? Mae'n anodd ei ganfod chware teg!

Glywoch chi ganiad yr ehedydd erioed? Fyddech chi yn gallu dweud y gwahaniaeth rhyngddi a chân adar eraill?

Mae pobl yn credu fod mwy o gerddi wedi cael eu hysgrifennu am ganiad yr ehedydd nag unrhyw aderyn arall. Cerdd gan John Milton ysbrydolodd y paentiad hwn, ond mae sawl bardd wedi canu ei glodydd, gan gynnwys Dafydd ap Gwilym a ofynnodd iddo gario neges i'w gariad.

Wnaethoch chi erioed godi'n gynnar, neu aros ar ddihun drwy'r nos i weld y wawr? Ydych chi'n cofio lliw'r awyr? Sut oeddech chi’n teimlo? Ydych chi'n meddwl fod Samuel Palmer wedi dal y teimlad hwnnw yn ei baentiad?

 

Trawsgrifiad

Disgrifiad sain o baentiad o'r enw Codiad yr Ehedydd, gan yr artist Samuel Palmer oedd yn byw rhwng 1805 a 1881. Cafodd ei baentio ym 1839. Paentiad olew ar gynfas yw'r gwreiddiol. Mae'n eithaf bach ac yn 31cm o daldra a 26cm o led. Mae'n rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Nawr dwi am ddisgrifio'r gwaith i chi.

Torriad gwawr yw hi. Mae bugail newydd agor y giât er mwyn i oen bach basio i'r tirlun mawr tu hwnt... at y bryniau yn y pellter dan awyr fel marmor. Gorwel newydd a gwawr gynnes. Cynnes. Meddal. Addfwyn a mwyn.

Symudodd Samuel Palmer i bentref Shoreham yng Nghaint ym 1826, oedd yn fyd hollol wahanol i lwch a baw'r Chwyldro Diwydiannol a thywyllwch Rhyfeloedd Napoleon. Cafodd ei ysbrydoli gan fardd ac artist arall, William Blake, i ymgolli yn y gorffennol gwledig ac mae ei dirluniau yn dathlu ffrwythlondeb byd natur a symlrwydd cefn gwlad.

Ar ochr dde'r paentiad mae bwthyn to gwellt, ond nid pawb sy'n sylwi arno ar yr olwg gyntaf. Bron ynghudd tu ôl i glwstwr o goed, mae wedi dod yn rhan annatod o'r tirlun. Dim ond rhan fechan o'r gwellt golau, bregus a'r briciau sydd iw gweld. Mae dail a llystyfiant arlliwiau gwyrdd a brown ysgafn yn creu blanced bluog dros y bwthyn, yn addurno'r bondo a chreu cysgodion dros y drws a'r ffenest dywyll.

Yn y pellter, tu hwnt i'r cysgodion, mae gwawr newydd yn torri.

Ger y bwthyn mae dwy goeden dal, denau yn codi i gyffwrdd yr awyr. Mae'r ddwy'n sefyll gyda'i gilydd, fel dwy ffrind fraich ym mraich, ac un yn pwyso'n ôl ryw ychydig fel petai'n cael ei dan gan yr awel. Ymestynna'r brigau bregus, â'u dail fel bysedd bach. Wrth fôn y coed mae eiddew wedi lapio am y boncyffion tenau, yn ceisio dianc yn chwareus.

Mae'r coed yn codi fry uwchlaw'r bugail, sydd wedi ymgolli yn ei feddyliau â'i fraich ar hanner agor y giât. Amdano mae gŵn hir las tywyll, cot frown gyffredin a sgarff goch. Teimlwn ryw symlrwydd hudolus ynddo wrth iddo edrych tua'r awyr mewn cyfaredd. Mae fflachiadau o olau yn tasgu ar byst y giât ac ar y ffens tu hwnt i'r agoriad. Ac fel y bwthyn, mae popeth wedi'u gwisgo mewn gwyrdd. Uwchlaw'r llwyni mae fflachiadau o olau'n dawnsio.

Cyn pasio drwy'r giât mae oen bach yn edrych tua'r wawr gynnes ar y gorwel. Mae pelydrau cynnar yr haul yn brigo'r bryniau pell yn ddigon i daflu cysgodion cynnil tu hwnt i'r ffens, gan greu llwybr sy'n denu'r oen bach.

Drwy'r giât mae llwybr sy'n frith o flodau melyn yn arwain at y rhostir tonnog sy'n dal golau cynta'r dydd. Mae'r rhostir yn codi tua'r haul tu hwnt i'r ffens, ac yn anelwig yn y pellter mae bryniau mwy yn codi'r un fath.

Mae un o'r bryniau hyn yn gorffen mewn gwastatir niwlog, ac ymhell uwchlaw yn yr awyr farmor mae ehedydd pitw yn hofran. Prin y gallwn ei weld. Rhwng bwlch yn y cymylau mae'r lleuad yn ffarwelio. Gwawrio bore newydd, dehrau newydd.

Ysbrydolwyd y paentiad hwn gan linellau o gerdd l'Allegro gan Lohn Milton, a gyhoeddwyd ym 1645.

‘To hear the lark begin his flight

And singing, startle the dull night

From his watch tower in the skies

Till the dappled dawn doth rise.’

Er taw brycheuyn bach yn unig yw'r ehedydd yng nghanol marmor y cymylau, mae'r bugail yn canolbwyntio'n llwyr arno wrth sefyll ger ei bwthyn to gwellt.

Mae'r ehedydd yn llawer mwy na brycheuyn bach – fel gweddill yr olygfa dawel hon mae'n llawn dirgelwch a rhyfeddod. Gallwn ddychmygu ei drydar swynol yn llenwi awyr y bore, yn croesawu dechrau newydd.

Nature morte
ROWAN, Eric
© Eric Rowan/Amgueddfa Cymru

Ganed Eric Rowan yn Lerpwl, ac roedd yn dysgu celf yng Nghaerdydd.

Beth sy’n tynnu eich sylw gyntaf am y paentiad hwn? Pam taw dyna beth sy'n tynnu'ch sylw? Os ydych chi'n edrych ar y llun gyda rhywun arall, beth wnaeth dynnu'i sylw nhw?

Caiff ein llygaid eu tynnu'n syth at yr enfys yng nghanol y llun, fel petai ni'n edrych drwy dwnel. Mae'r glasau gwahanol yn creu naws eithaf tawel, bron fel breuddwyd, ac er bod yma enfys, mae yma leuad hefyd a chysgodion sy'n awgrymu taw'r gwyll yw hi.

Siapau syml sydd yn y paentiad, gyda llawer o sgwariau a phetryalau o flaen cromliniau'r bryniau a'r enfys yn y cefndir. Pam wnaeth yr artist ddefnyddio cymaint o sgwariau? Ydyn nhw'n newid y paentiad o gwbwl?

Sut mae’r llun yn gwneud i chi deimlo? Yw’r llun yn eich atgoffa chi o rywbeth? Wnaeth yr artist baentio'r llun yn y fan â'r lle, neu o'i ddychymyg?

 

Trawsgrifiad

Sain Ddisgrifiad o baentiad o'r enw Nature Morte, gan yr artist Eric Rowan, a anwyd ym 1931. Cafodd ei baentio ym 1974. Paentiad olew ar gynfas yw'r gwreiddiol sy'n 150cm o daldra a 180cm o led. Mae'n rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Nawr dwi am ddisgrifio'r gwaith i chi.

Teitl y gwaith, Nature Morte, yw'r term Ffrangeg am 'fywyd llonydd'. Ond nid paentiad bywyd llonydd traddodiadol yw hwn, gyda gwrthrychau wedi'u trefnu'n ofalus o flaen y gynulleidfa. Yn hytrach, mae hwn yn waith hanner haniaethol sy'n batrwm o sgwariau a phetryalau yn cydgloi, pob un yn arlliw glas gwahanol, gydag awgrym o dirlun yn y cefndir.

Mae'r paentiad yn llwyddo i'n tynnu'n gynnil i mewn.. i mewn... ac i ffwrdd i rywle pell... syml... heddychlon. Mae'r paled o liwiau glas a gwyrdd yn ein tawelu, gydag arlliw o oren mewn mannau, yn helpu i greu'r naws heddychlon hwn.

Artist sy'n cael ei gysylltu â Moderniaeth Gymreig yw Eric Rowan. Roedd artistiaid modernaidd am droi eu cefnau ar y gorffennol a chanfod ffyrdd newydd o fynegi eu hunain. Doedd copïo pethau bob dydd ddim yn ddigon iddyn nhw. Drwy arbrofi â siapau, lliwiau a llinellau mae Eric Rowan wedi llwyddo i greu delwedd haniaethol bwerus sy'n mynd tu hwnt i fywyd bob dydd.

Mae llinell lorweddol yn ymestyn hyd y paentiad, rhyw un rhan o dair o'r ffordd i fyny. Arni mae bryniau symbolaidd yn codi a disgyn, yn llinellau oren a gwyrdd tonnog un tu ôl i'r llall. Uwchben y bryniau hyn mae bloc glas tywyll hirsgwar, ac yn fframio hwn hyd ymyl y ffrâm mae glas goleuach.

Mae'r bryniau symbolaidd yn dechrau yn aneglur ar yr ymylon. Wrth nesáu at y canol maen nhw'n dod fwyfwy i ffocws, nes dod yn glir ac amlwg. Uwch eu pennau mae enfys rubanog goch yn gromlin sy'n pylu i'r pellter. Yn y bloc hirsgwar glas tywyll mae disg fach egwan – lleuad lawn yn gwylio.

Mae defnydd gofalus yr artist o linellau a siapau yn ein tynnu at y gwaith, yn ein gwahodd i brofi taith ddychmygol gydag ef. Ar y gwaelod gwelwn lwybr dwbl.

Mae'n dechrau ar ongl, yn egwan i ddechrau, ond wrth sythu mae'r glas yn crisialu ac rydyn ni'n dilyn y llwybr yn dawel hyderus, nes cyrraedd troed y bryniau yng nghanol y paentiad.

Yna caiff ein llygaid eu denu gan gromlin yr enfys fechan yn crymu dros y bryniau, fel petai'r artist yn ein gwahodd i barhau â'r daith, dros enfys ein dychymyg a thonnau'r bryniau i'r glesni pell.

Snowdon from Llanfrothen
SPENCER, Stanley
© Ystâd Stanley Spencer. Cedwir Pob Hawl 2025/Bridgeman Images/Amgueddfa Cymru

Mae cymaint o bethau'n dal ein sylw yn y paentiad hwn. Mae cyfoeth o goed, porfeydd a phlanhigion mewn gwyrdd o bob math; ac yn y cefndir mae ein mynydd enwocaf, yr Wyddfa.

Ydych chi’n adnabod yr Wyddfa yn y paentiad hwn? Ydych chi'n gyfarwydd â'r mynydd a'i gyffiniau? Yw'r paentiad yn cyfleu'r mynydd yn llwyddiannus, ac yw hwn yn teimlo fel tirlun penodol Gymreig i chi? Sut mae'n cymharu â gwledydd eraill rydych chi wedi ymweld â nhw?

Pa dymor sy'n cael ei ddarlunio yma? Pa amser o'r flwyddyn fyddwch chi'n hoffi bod yn yr awyr agored? Ydych chi'n hoffi pelydrau cynnes yr haul ar eich wyneb, neu wynt main?!

Tasech chi yn camu i'r paentiad hwn, ble fyddech chi am fod? Yn cerdded y llwybr? Yn dringo'r Wyddfa? Neu fyddech chi am eistedd mewn man tawel ger y creigiau, gyda llyfr a phicnic?

 

 

Trawsgrifiad

Sain Ddisgrifiad o baentiad o'r enw Yr Wyddfa o Lanfrothen, gan yr artist Stanley Spencer oedd yn byw rhwng 1891 a 1959. Cafodd ei baentio ym 1938. Paentiad olew ar gynfas yw'r gwreiddiol sy'n 51cm o daldra a 76cm o led. Mae'n rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dwi am ddisgrifio'r gwaith i chi, ond yn gyntaf, dyma ychydig o hanes yr artist.

Ganwyd Stanley Spencer ym mhentref bychan Cookham, ar lannau'r Tafwys yn Lloegr. Roedd Cookham yn bwysig iawn i'r artist – iddo ef roedd yn bentref nefolaidd. Yn ystod ei amser yn Ysgol gelf Slade yn Llundain derbyniodd y llysenw 'Cookham' am ei fod yn caru'r lle gymaint. Ym 1917, listiodd Stanley Spencer yn y fyddin a chael ei anfon i'r ffrynt. Wedi dychwelyd, cafodd ei benodi yn artist rhyfel swyddogol, ac fe ysbrydolodd ei brofiadau yn y fyddin un o'r cofebion rhyfel mwyaf dirdynnol.

Wrth i'w yrfa ddatblygu, ac i ennill ei fara menyn, dechreuodd gynhyrchu mwy o dirluniau, oedd yn gwerthu'n dda. Er bod y testun yn wahanol iawn i'w olygfeydd rhyfel, roedd ei fanyldeb, a'i ffordd drawiadol o ddangos bywyd bob dydd yn bresennol o hyd.

Paentiwyd y llun hwn yn Llanfrothen, ger Harlech, ym 1938. Ar y pryd, roedd Stanley yn aros yn yr ardal gyda'i wraig gyntaf, Hilda.

Mae'r paentiad yn dangos y lliwiau a'r gweadau cyferbyniol sy'n rhan annatod o dirwedd gogledd Cymru. Yn y blaendir mae'r caeau yn sgwariau tawel, dymunol – gallwn ni ddychmygu gweld y glaswellt meddal, dwfn yn ymdonni yn y gwynt, ac arogli'r rhedyn gwyrdd.

O gwmpas y caeau mae waliau cerrig sych, pob carreg wedi ei phaentio'n ofalus gan yr artist fel y byddai'r crefftwyr wedi ei gosod yn y wal wrth weithio yn awyr iach Eryri. Yng nghornel un o'r caeau mae'r wal yn crymu i greu cysgodfa fechan. Mae wal arall yn simsan ac angen ei hatgyweirio. Yn ogystal â gwerthfawrogi'r manylder gallwn deimlo bod yr artist yn deall ei dirlun.

Mae toreth o redyn yn dringo'r waliau agosaf aton ni – eu dail yn llafnau o baent gwyrdd a brown rhydlyd. O dan y planhigion mae eu cysgodion yn rhoi dyfnder i'r olygfa, ac yn gwneud iddyn nhw ymestyn tuag aton ni.

Mae'r caeau i gyd yn disgyn i lawr y bryn i bant, lle gallwn ni weld ongl to a simdde tŷ yn swatio ger clwstwr o goed.

Tu hwnt i'r coed, mae stribyn main o ffordd yn torri drwy'r clytwaith o gaeau a chloddiau coediog hyd at droed y bryniau. Mae'r ffordd hon yn hollti'r caeau ar ongl, o'r dde i'r chwith, yn ein gwahodd ar daith drwy'r olygfa.

Yn y cefndir mae dyffryn yn ymwthio drwy'r bryniau, gan ystumio i'r pellter lle mae'r mynyddoedd yn cusanu'r cymylau. Yma mae'r tir yn codi'n serth. Ar y bryniau mae'r tir yn ddafnau o wyrdd a brown, cyn i greigiau llwyd golau ddechrau ymwthio a throi yn llethrau carreg serth sy'n fflachiadau browngoch a llwyd. Ac yn swatio yn y gornel dde uchaf, bron ynghudd tu ôl i'r cymylau, mae'r Wyddfa a'i fawredd garw. Yr Wyddfa o bosib yw golygfa enwocaf Cymru, ond mae'r paentiad yn ei gwasgu i gornel. Mae'r artist yn ein gwahodd i ganolbwyntio ar y caeau, y waliau a'r coed yn y blaendir. Mae'n gofyn i ni ymgolli yn harddwch, arlliwiau ac ehangder yr olygfa hon – ac wrth edrych, efallai ein bod ni'n ystyried hefyd bod y daith mor bwysig â'i phen draw.

Projectau Celf Mewn Ysbytai eraill

Dyma un o nifer o brojectau Celf Mewn Ysbytai o fenter cychwynnol Celf ar y Cyd. Mae projectau eraill wedi cynnwys gweithio gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan; Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro; Bwrdd Iechyd Athrofaol Cwm Taf; a Bwrdd Iechyd Athrofaol Bae Abertawe.

Cyllid a Chefnogaeth

Gwnaed cefnogaeth Amgueddfa Cymru yn bosibl drwy Celf ar y Cyd. Dechreuodd Celf ar y Cyd fel cyfres o brojectau celf gweledol mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, sy’n ein herio ni i rannu’r casgliad celf cenedlaethol mewn ffyrdd newydd ac arloesol yn ystod y pandemig. Mae llinynnau eraill y prosiect yn cynnwys ein cylchgrawn celfyddydau gweledol ar-lein, Cynfas, ac arddangosfa Celf 100. Mae Celf ar y Cyd yn wefan newydd arloesol ac yn elfen ganolog o’r Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Dilynwch ni ar Instagram @celfarycyd am ddiweddariadau rheolaidd ac ewch i’r wefan i archwilio’r casgliad celf gyfoes yn https://celfarycyd.cymru.

Share


More like this