DYSGU

Adéọlá
5 Ebrill 2023

Gweithdy Ffedog gydag Adéọlá

Adéọlá

5 Ebrill 2023 | Minute read

Helo, fy enw i yw Adéọlá ac rwy’n artist sy’n byw yng Nghymru. Ces i fy ngeni a fy magu yn Nhrinidad. Mae Trinidad yn adnabyddus am garnifal anhygoel, ac mae’r carnifal wedi dylanwadu ar y gwaith rwy’n ei greu. Rydw i hefyd wedi fy ysbrydoli gan fyd natur a sut rydyn ni’n cysylltu ag elfennau natur. Mae rhai darnau o fy ngwaith yn cynnwys creu ffedogau neu sgertiau gyda llinellau a phatrymau wedi’u paentio, a weithiau geiriau hyd yn oed! Mae’r ffedogau fel gwisgoedd (mae hyn yn agwedd ar garnifal). Rwy’n hoffi cymysgu paentio, creu marciau, gwisgoedd/addurniadau a ffotograffiaeth. Yma, bydda i’n dangos ffordd syml i chi o wneud eich ffedog eich hunan, gan gymryd yr un camau â fi wrth greu fy narnau.

 

Cam 1

Deunyddiau: Paent (dau liw), Brwsys Paent, Papur/Papur Newydd/Ffabrig, siswrn, papur a phensil, gwregys, camera/ffôn

Dewisol: argraffydd neu gyfrifiadur â rhaglen arlunio

Gwnewch yn siŵr fod gennych arwyneb clir i weithio arno sydd wedi’i orchuddio i’w amddiffyn rhag paent, neu arwyneb nad oes ots ganddoch chi iddo fynd yn frwnt.

Gallwch wneud eich paent eich hunan gan ddefnyddio’r rysáit yma:

½ cwpan o flawd  
½ cwpan o halen  
½ cwpan o ddŵr

Cymysgwch nes ei fod yn llyfn ac yna ychwanegwch ddiferion o liw bwyd

 

Cam 2

Dewiswch Thema:

Ar gyfer yr enghraifft yma, rwy’n dewis Natur a’r Amgylchedd fel thema. Rwy’n mynd i weithio gyda dŵr, felly glas a gwyn fydd fy lliwiau i. Bydda i’n defnyddio llawer o linellau dŵr cylchog yn fy nyluniad. Gallwch greu braslun o sut hoffech chi i’ch dyluniad edrych. Mae’n iawn os bydd yn newid pan fyddwch chi’n dechrau paentio.

 

Cam 3

Torrwch eich papur/ffabrig

Mesurwch y papur neu’r ffabrig yn erbyn eich corff er mwyn cael yr hyd perffaith i chi. Torrwch i’r maint rydych chi ei eisiau.

 

Cam 4

Gadewch i ni baentio! Meddyliwch am batrwm neu defnyddiwch eich braslun. Mwynhewch!

 

Cam 5

Arhoswch i’ch paent sychu. Gall paent gwlyb fod yn anniben iawn.

 

Cam 6

Nawr bod eich darn yn sych, defnyddiwch y gwregys i blygu top y papur/ffabrig drosto, a’i roi o gwmpas eich canol i gael llun! Gofynnwch i rywun dynnu llun ohonoch chi yn eich ffedog. Cofiwch wenu! Gallwch dynnu cymaint o luniau â hoffech chi. Rydw i am dynnu dau.

 

Cam 7

Nawr, gallwch un ai argraffu’r lluniau, a phaentio’r cefndir, fel wnes i yn y darn yma

NEU

Gallwch lanlwytho’r lluniau ar eich cyfrifiadur a ‘phaentio’ y cefndir arno. Rwy’n defnyddio fy hoff raglen o’r enw: SketchBook

 

Cam 8

Da iawn! Fe gymerodd lawer o amser, ond dyma fy narn gorffenedig! Galla i argraffu hwn nawr.

Sut mae eich un chi’n edrych?

Byddwn ni'n dwlu gweld eich lluniau - rhannwch nhw gyda ni drwy ebostio sean.kenny@amgueddfacymru.ac.uk


Share


More like this