DYSGU

Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg - Amgueddfa Cymru
5 Ebrill 2023

Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?

Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg - Amgueddfa Cymru

5 Ebrill 2023 | Minute read

Ydych chi erioed wedi sefyll y tu allan i oriel a meddwl, sut brofiad yw hi yno? Beth sy’n cael ei ganiatáu, neu ddim? Ydy hi’n addas i fi?

Ydych? Nid chi yw'r unig un. Ond yn ffodus mae rhywbeth at ddant pawb! Mae mwynhau oriel yn rhywbeth ddylai fod ar gael i bawb, felly peidiwch â phoeni os nad ydych chi erioed wedi bod o'r blaen neu os nad ydych chi'n gwybod beth rydych chi i fod i'w wneud neu ei feddwl. Cliciwch chwarae ar y fideo uchod a bydd hyn yn helpu i'ch rhoi ar ben ffordd.

Os nad oes gennych chi ddwy funud i'w wylio, dyma ychydig o awgrymiadau a allai fod o gymorth...

  1. Meddyliwch am beth rydych chi’n ei hoffi mewn oriel – oes yna ddarn yn y gofod sy'n sefyll allan i chi?

  2. Meddyliwch am beth nad ydych chi’n ei hoffi – mae celf yno i rannu barn, does dim rhaid i chi hoffi pob darn. 

  3. Arhoswch am ychydig o flaen darn o gelf – edrychwch yn fanwl, mae'r rhan fwyaf o bobl ond yn edrych ar waith celf am 6 eiliad ar gyfartaledd – beth arall allwch chi ei weld os ydych chi'n aros am fwy o amser?

  4. Rhowch eich hun yn esgidiau'r Artist – pam wnaethon nhw baentio hyn? Pa fath o amodau oedd yno pan gafodd ei baentio? Gallwch chi ofyn beth bynnag rydych chi eisiau!

  5. Peidiwch â chael eich dychryn gan oriel dawel. Mae celf yn tanio sgwrs – trafodwch, mae gan bawb bersbectif gwahanol i'w gyflwyno, ac mae barn pawb yn ddilys! 

  6. Gwnewch eich hun yn gartrefol mewn oriel, cymerwch lyfr braslunio gyda chi, cymerwch sedd a chymerwch eich amser.

  7. Tynnwch lun. Allwch chi ddim mynd â'r darn celf adref gyda chi, felly beth am dynnu llun a chael cipolwg arall arno pan fyddwch chi'n cyrraedd gartref? 


Share


More like this