DYSGU

Michal Iwanowski
27 Medi 2023

Eich Map Chi o’r Byd

Michal Iwanowski

27 Medi 2023 | Minute read

Mappa Mundi
DAVIES, Paul
© Paul Davies/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Arlunydd o Gymru oedd Paul Davies (1947–1993) oedd yn gweithio gyda chymunedau lleol i greu pob math o fapiau yn y tirlun. Cafodd llawer o’r mapiau eu gwneud allan o ddeunyddiau naturiol, fel gwrthgloddiau a phlanhigion. Cafodd rhai eu troi’n ddarluniau wedyn. Yn ei fapiau, roedd Paul Davies yn dychmygu gwahanol fersiynau o’r byd, lle’r oedd llefydd, pobl, a digwyddiadau oedd yn bwysig iddo yn ganolog i’r gwaith.  

Ar gyfer y gweithgaredd yma rydw i wedi dewis Paul Davies oherwydd mae gen i ddiddordeb mewn edrych ar y byd o bell er mwyn ei ddeall, ac i ddeall fy lle i ynddo yn well. O safbwynt byd-eang, y blaned gyda’i thir a’i dŵr yw’r elfen fwyaf cyffredin i bob un ohonom. Mae pob un ohonom yn perthyn yma.

Enw’r gwaith celf ar gyfer y gweithgaredd yma ydy Mappa Mundi, sy’n golygu map y byd. Efallai y byddwch chi’n adnabod siapiau cyfarwydd ynddo.

Ar gyfer y gweithgaredd yma, rydw i’n eich gwahodd chi i wneud eich map chi o’r byd.

Yn gyntaf, meddyliwch am y byd rydych chi’n byw ynddo, neu’r byd yr hoffech chi fyw ynddo. Sut rydych chi’n gweld y byd? Beth sydd bwysicaf yn eich byd chi?  

Nesaf, meddyliwch am fap o’ch byd. Beth fyddai’n ei gynnwys? A fyddai ganddo’r un cyfandiroedd â’r rhai presennol, neu a fyddai ganddo un cyfandir mawr efallai? A fyddai cyfandiroedd o gwbl, neu gefnfor enfawr yn unig? Lle byddech chi ar y map?

Ac yn olaf, meddyliwch am y deunyddiau a ble byddwch chi'n gweithio ar eich map. Fydd e’n fap bach gallech chi ei wneud allan o blanhigion ar ddalen o bapur ar eich desg? A fydd e’n fap enfawr wedi’i greu yn y tywod? Neu efallai map lliwgar wedi ei wneud allan o ddarnau o blastig rydych chi wedi’u casglu i’w hailgylchu? Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd!

Yn yr enghraifft uchod, roeddwn i am i fy myd gael ei orchuddio’n llwyr â phlanhigion, ar ôl dioddef o draffig a dinasoedd prysur. Casglais ychydig o ddail rhedyn, cwpwl o gennin Pedr, a defnyddio casyn gobennydd glas ar gyfer y cefndir – dyma liw perffaith i gynrychioli’r cefnforoedd. Defnyddiais fap go iawn o’r byd i gyfeirio ato wrth wneud siâp y cyfandiroedd, ac yna defnyddiais y dail a’r blodau i lunio fy map. Roedd siswrn yn ddefnyddiol wrth docio rhai o’r dail a mireinio’r cyfuchliniau. Dyma fy map i o’r byd.

Eich Map Chi o’r Byd

Eich tro chi yw hi nawr.

Gallwch wneud eich map mor fawr neu mor fach ag y dymunwch. Gallwch ei gerflunio gyda brigau, ei adeiladu allan o gerrig mân, ei blethu â llinyn, neu ei dyfu allan o hadau yn yr ardd – pa bynnag ddull rydych chi’n teimlo sy’n cynrychioli eich byd orau. Defnyddiwch eich dychymyg; does dim ffiniau!

Dilynwch y camau hyn:

  1. Meddyliwch am syniad ar gyfer eich map. Beth yw eich map chi o’r byd?
  2. Ar ôl penderfynu ar hynny, meddyliwch am y deunyddiau i wneud y map. Efallai y byddwch chi eisiau i’ch ffrindiau eich helpu os ydych chi’n gwneud map mawr iawn.
  3. Dewch o hyd i leoliad da i wneud y map – arwynebau gwastad yw’r hawsaf i weithio arnyn nhw. Gallwch adeiladu eich map yn yr awyr agored, neu gasglu deunyddiau a dod â nhw adref i greu eich map ar eich desg.
  4. Casglwch y deunyddiau angenrheidiol, a, pan fyddwch chi’n barod, dechreuwch wneud eich map!
  5. Ar ôl gorffen, bydd angen camera arnoch (gallwch ddefnyddio’ch ffôn wrth gwrs) i dynnu lluniau o’ch map. Mae’n werth meddwl am y llun cyn i chi ddechrau gwneud y map – beth fydd y ffordd hawsaf o dynnu llun ohono, yn syth ymlaen, neu oddi uchod? Os bydd angen help arnoch, cofiwch ofyn. Mae oedolion fel arfer yn eithaf defnyddiol, yn enwedig y rhai tal.  
  6. Y cam olaf yw anfon eich llun atom. Byddwn ni wrth ein bodd yn ei weld, ac i ddysgu am eich map chi o’r byd!

Share


More like this