DYSGU

Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
7 Mai 2024

Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru

Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru

7 Mai 2024 | Minute read

Mae gan gelf y pŵer i ysbrydoli ymatebion creadigol o bob math, ac mae yna berthynas gref rhwng llenyddiaeth a chelf weledol. Dyma'n union roedd Nia Morais, Bardd Plant Cymru am ei archwilio gyda disgyblion mewn gweithdai gydag ysgolion ar hyd a lled Cymru ar ddechrau 2024.

Gan ddefnyddio’r broses egffrastig fe gafodd y disgyblion y cyfle i bori drwy’n gwefan ac ymateb drwy greu cerddi cynnil arbennig.

Hoffwn ddiolch i’r holl ddisbylion a’r ysgolion am eu brwdfrydedd ac am greu cerddi newydd mewn ymateb i’r casgliad.

Cliciwch drwy’r llyfryn isod i ddarllen eu hymatebion.

Yr ysgolion fu’n cymryd rhan oedd:

  • Ysgol Gyfun Bryn Tawe, Penlan, Abertawe
  • Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy
  • Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
  • Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn
  • Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
  • Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-Groes, Pentwyn
  • Ysgol Bro Caereinion, Llanfair Caereinion

Gyda diolch i Llenyddiaeth Cymru am drefnu’r dosbarthiadau meistr hyn trwy gynllun Bardd Plant Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch Bardd Plant Cymru ar wefan Llenyddiaeth Cymru.


Mae Sean Kenny yn Uwch Swyddog Addysg yn Amgueddfa Cymru ac mae’n goruchwylio rhaglen Addysg Celf ar y Cyd a’r oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru. Mae gan Sean ddiddordeb mewn ehangu’r cyfleoedd i bobl ifanc mewn celf ac amgueddfeydd, tra’n gwneud y casgliadau mor hygyrch â phosib i bawb o bob oed.


Share


More like this