Projectau ac Arddangosfeydd

Mapiau, celf, a dadgoloneiddio

Ellie King, Curadur Cynorthwyol Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

6 Medi 2024 | munud i ddarllen

Yn 2023, comisiynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) pedwar artist o liw i greu gweithiau celf newydd yn ymateb i’w casgliadau. Tyfodd dau o’r prosiectau hyn allan o eitemau sydd o fewn y casgliad mapiau, gyda phwyslais arbennig ar hanesion anodd o gaethwasiaeth a choloneiddio.

Cafodd y project hwn ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Beth sydd ddim ar y map?

Cafodd Mfikela Jean Samuel, artist a siaradwr ar gyfiawnder hiliol, ei eni yn Shisong-Kumbo yng ngogledd-orllewin Camerŵn, ac mae’n byw yng ngogledd Cymru erbyn hyn. Mae Mfikela’n gweithio gyda phaent acrylig ac olew ac yn cael ei ysbrydoli gan ei dreftadaeth a’i linach yn ogystal â themâu hanesyddol ehangach. Mae gwaith newydd Mfikela’n ymateb i fap gan ‘Central Office of Information’ (COI) Llywodraeth Prydain sy’n dangos gwledydd trefedigaethol Prydain yng ngorllewin Affrica yn y 1940au.

West Africa, Central Office of Information, 1948 (Maps E1:6 (18))

Roedd gan y COI gyfrifoldeb i greu ymgyrchoedd gwybodaeth am bopeth o iechyd ac addysg i drafnidiaeth a gofal plant. Mae’r map hwn yn canolbwyntio ar gynhyrchion o ddefnydd i Brydain yn eu trefedigaethau yng ngorllewin Affrica. Dim ond yr ardaloedd o dan reolaeth Prydain sy’n cael eu dangos mewn unrhyw fanylder.

SAMUEL, Mfikela Jean, Opening the dialogue, 2023 © Mfikela Jean Samuel

Meddai Mfikela am y gwaith: ‘Mewn ymdrech i gwmpasu amrywiaeth y cyfandir, rydw i wedi cynnwys elfennau sy’n cael eu hysbrydoli gan bob prif ardal o Affrica. Rwyf yn bwrpasol wedi dewis delweddau o pharaoid o’r Aifft a mygydau traddodiadol o ardaloedd amrywiol. Mae’r symbolau hyn yn cynrychioli’r dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’ wedi goroesi er gwaethaf yr ymyriad coloneiddio, ac sydd yn dangos gwydnwch a chryfder cymdeithas Affricanaidd.

Ymddiddan gweledol yw’r gwaith celf sydd yn gwahodd y gwyliwr i holi hanesion gosodwyd gan bwerau coloneiddio. Mae’n herio’r syniad bod Affrica’n gwrthrych goddefol o wladychiad. Yn lle, mae’n pwysleisio’r gweithrediad a gwrthwynebiad sydd wedi bodoli yno drwy hanes. Trwy blethu’r mapiau efo’r symbolau diwylliannol hyn, rydw i’n anelu at doddi’r olygfa un-dimensiwn rhoddwyd ar Affrica a’i phobl.’

Caethwasiaeth ac Ystâd Slebech

Graddiodd Jasmine Violet o Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 2020. Artist rhyngddisgyblaethol ydy Jasmine, sydd yn gweithio gyda ffotograffiaeth, argraffu cyanotype, dyfrlliw ac olewau i archwilio themâu o hunaniaeth, yr isymwybod ac iechyd meddwl.

VIOLET, Jasmine, The last place we shared, 2023 © Jasmine Violet

VIOLET, Jasmine, Stepping stones, 2023 © Jasmine Violet

Creodd Jasmine ei gwaith mewn ymateb i gysylltiadau rhwng Cymru a Jamaica yn ystod y 18fed ganrif. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gofnodion o blanhigfeydd siwgr a phobl a chafodd eu caethiwo gan Nathaniel Phillips. Fe ddefnyddiodd Phillips y cyfoeth a greodd o’i blanhigfeydd Caribïaidd i brynu ystâd Slebech, pum milltir i ddwyrain Hwlffordd. Mae cofnodion y Llyfrgell yn cynnwys map o Pleasant Hill, un o blanhigfeydd Phillips, ynghyd â rhestr o’r bobl gaeth a oedd yn gweithio yno yn y 1760au.

Ystad Pleasant Hill, yn perthyn i Nath. Phillips Esq., Thomas Bruce, tua 1780 (Slebech maps 3)

Aeth Nathaniel Phillips (1733–1813), mab anghyfreithlon o fasnachwr siwgr yn Llundain, i Jamaica yn 1759 ac erbyn 1761 roedd wedi prynu hanner planhigfa Pleasant Hill. Roedd hanner y blanhigfa hefyd yn eiddo i Richard Swarton (–1762). Tua’r un cyfnod fe briododd Phillips â merch Swarton, sef Ann (–1767). Pan fu farw Swarton yn 1762, gadawodd Swarton ei ran o Pleasant Hill i Ann a’i disgynyddion. Yn ôl cofnod o Ystâd Slebech roedd Swarton yn rhannu perchnogaeth o 51 dyn, 29 fenyw, naw bachgen a saith merch. Roedd hefyd yn llawn berchen ar 10 menyw, wyth bachgen a saith o ferched eraill. Mae’r rhestr o enwau’r bobl gaeth yn goroesi yng nghasgliadau’r Llyfrgell.

Manylyn o'r rhestr eiddo ar gyfer Richard Swarton adeg ei farwolaeth ym 1762 yn rhestru enwau a gwerth ariannol pobl wedi'u caethiwo  (cofnodion ystad Slebech 3328)

Gan nad oedd hi’n bosibl i ferched briod berchen ar eiddo eu hun fe ddaeth y blanhigfa a’r rhai a gaethgludwyd yn eiddo i ŵr Ann, sef Nathaniel Phillips. Yn y 1760au, roedd disgwyl i’r 120 o bobl gaeth gynhyrchu 90,000 cilogram o siwgr a 30,000 litr o rỳm bob blwyddyn yn y blanhigfa. Pan ddychwelodd Phillips i Brydain gyda’r cyfoeth crëwyd o’r planhigfeydd yn 1789, prynodd Slebech Hall a oedd gydag ystâd o 600 erw, ger Hwlffordd. Pan adawodd Phillips Jamaica, roedd yn berchen ar 706 o bobl gaeth, a oedd yn werth £50,000. Roedd ei dir yn Jamaica hefyd yn werth £160,000 yn ychwanegol. Roedd e’n ymgyrchydd cryf yn erbyn diddymu masnach gaethweision yn yr 1790au trwy’r ‘Society of West India Planters and Merchants’. Pan gafodd caethwasiaeth ei ddiddymu yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn 1838, hawliodd cynrychiolwyr ar ran disgynnydd Phillips £3,599, pedwar swllt a phum ceiniog mewn iawndal am golled o eiddo. Derbyniodd y bobl gaeth dim un geiniog.

Dolenni a darllen pellach

Rhagor o wybodaeth ynghylch Mfikela Jean Samuel a Jasmine Violet.

Mae'r project Legacies of British Slavery yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y rheiny oedd yn gyfrifol am gaethiwo pobl a'r iawndal a dalwyd iddynt gan Lywodraeth Prydain adeg y Diddymiad.

Mae'r Archif Prydeinig Ar-lein [sydd ar gael o fewn adeilad y llyfrgell] yn cynnwys gwybodaeth fanwl ynghylch papurau Slebech sydd gan LlGC.

Dyma ddau o’r pedwar prosiect sydd yn ffurfio ymgyrch dadgoloneiddio casgliad celf y Llyfrgell. Gellir darllen am y ddau gomisiwn arall gan Dr Adéọlá Dewis a Joshua Donkor yn yr erthygl Dadgoloneiddio'r Casgliad Celf Cenedlaethol gan Guradur Celf y Llyfrgell Genedlaethol, Morfudd Bevan.

Share

More like this

Clogfaen Pren 1978-2015
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Stiwdio gyda Menyg yn Storiel, gweld casgliad y Llyfrgell mewn Gofod Newydd
Phoebe Murray-Hobbs, Swyddog Benthyciadau Cymunedol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Tirnodau Personol
Michal Iwanowski
Celf Mewn Ysbytai: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Sara Treble-Parry, Steph Roberts a Siân Lile-Pastore
Lan yr Afon
Julian McKenny
Morlun Bach
Lucy Purrington
Thyrza Anne Leyshon: Eicon y Portreadau Miniatur o Gymru
Imogen Tingey, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Dylunio GIFs Cymraeg
Sioned Young, Mwydro
Artcadia
Barbara Bartl, Rheolwr yr Amgueddfa ac Oriel Gelf, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Cerdded Adref
Dagmar Bennett
Teulu Wakelin: chwarter canrif o gefnogaeth i artistiaid cyfoes
Andrea Powell, Cynorthwyydd Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian
Helen Sear (g.1955)
Mari Griffith
David Nash (g.1945)
Mari Griffith
Rhyfel Mawr Glo Cymru
Maddie Webb, Curadur Gweithiau ar Bapur, Amgueddfa Cymru
Ymdeimlad o Le
Jon Pountney
Toriad
Ffin Jordão
Cadwraeth Paentiadau George Poole
Sarah Bayliss, Uwch Gadwraethwr Paentiadau, Amgueddfa Cymru
Frank Auerbach: Pen E.O.W
James Milne, Technegydd CELF, Ffotograffiaeth gan Rhian Israel, CELF
Ymson ar draeth
Iestyn Tyne
Tyrrau Mawr ar grwydr i Lanbedrog
Gwyn Jones, Alex Boyd Jones, Zoe Lewthwaite, Plas Glyn-y-Weddw
Gweithio gydag artist
Rhian Israel, Swyddog Ffotograffiaeth, CELF
Llwybr Tref Gŵyl Grefft
Rachel Vater, Cynorthwyydd Yr Oriel, Oriel Myrddin
Panopticon
Tina Rogers
Y Cyffredin
Ayesha Khan
Dadgoloneiddio’r Casgliad Celf Cenedlaethol
Morfudd Bevan, Curadur Celf, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Delfryd a Diwydiant: Curadu'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dan ddŵr sy'n llifo
Geraint Ross Evans
Golygfa Ddyrchafedig
Geraint Ross Evans
'Arhoswch adre'
Gwynfor Dafydd
Cardiau Post Protest
Osian Grifford
David Garner: Wylo
Nicholas Thornton a Ceri Jones, Amgueddfa Cymru
Storiel: Comisiynau Artistiaid
Esther Elin Roberts, Swyddog Celf Gweledol, Storiel
Collage Fabrig Scrap
Ella Louise Jones
Teulu
Ffion Rhys, Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Arddangosfa Teulu, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Ffion Rhys, Curadur ac Elin Vaughan Crowley, Artist - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Oriel Myrddin: Comisiynau Artistiaid
Rachel Vater, Oriel Myrddin
Arnofio
Arddun Rhiannon
Geng Xue (g.1983)
Mari Griffith
Cerddi newydd gan ddisgyblion Cymru
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dhruva Mistry: O’r astudiaeth i’r cerflunwaith
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Tu ôl i'r llen: Cadwraeth
Sarah Bayliss a Kitty Caiden, Amgueddfa Cymru
Darn Canol Bwrdd Con Brio: Comisiwn Ymddiriedolaeth P&O Makower
Andrew Renton, Pennaeth Casgliadau Dylunio, Amgueddfa Cymru
Arddangosfa Cyfoes: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Morfudd Bevan a Nia Dafydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Yr Eda
Llio Maddocks
Cymharu dau artist: John Selway a Denys Short
Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain a Chelf Gyfoes, Amgueddfa Cymru
Caffaeliad newydd: Pulped Fiction gan David Shrigley
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Cerflunwaith Prydeinig Newydd yr wythdegau
Jennifer Dudley, Curadur Rheoli Casgliadau Celf a Hygyrchedd, Amgueddfa Cymru
Toredig Ond Prydferth
Apekshit Sharma, Intern Curadurol, Amgueddfa Cymru
Five Minutes
Mari Ellis Dunning
Swyn I
Efa Lois
Gesiye (g. 1992)
Mari Griffith
Eich Map Chi o’r Byd
Michal Iwanowski
Tirlun Anhysbys
Evie Banks
Crogdlws
Lydia Niziblian
Calon yn Deilchion
Tanyaradzwa Chiganze
Beth sy’n bosib ei wneud mewn oriel?
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Dwylo ar Dreftadaeth: Codi’r Llen ar Gaffael
Neil Lebeter ac Umulkhayr Mohamed
Rheolau Celf? Sgwrs gyda’r artist Caroline Walker
Carys Tudor, Curadur Digidol: Celf, Amgueddfa Cymru
Siarad â Phlant am Gelf
Sian Lile Pastore
Pêl-Droed Cymru a Byd Celf
Sean Kenny, Uwch Swyddog Addysg, Amgueddfa Cymru
Rheolau Celf?
Neil Lebeter