Eira Wen
SEARLE, Berni
Mae ffotograffau a delweddau symudol pwerus Berni Searle ymdrin â pherthynas y cymdeithasol a'r gwleidyddol â'r corff, gan dynnu ar ei magwraeth yn Ne Affrica o dan drefn Apartheid. Yn y gosodwaith dwy sgrîn hwn gwelwn yr artist o ddwy ongl wrth i flawd gwyn a dŵr gael eu harllwys dros ei chroen, cyn eu dylino yn does. Nid oes dehongliad syml i'r gwaith hwn, ond mae'n fyfyriad telynegol ar hil, yr hunan, a gwaith y fenyw.
Lluniau llonydd o waith celf fideo yw’r rhain. Caiff ffilmiau celf eu creu gyda gofod neu brofiad penodol mewn golwg. Oherwydd hyn, ac oherwydd rhesymau hawlfraint, ni allwn ddangos y gwaith llawn ar-lein.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.