Mae'r Briw yn Borth
GESIYE,
Fel rhan o osodwaith Mae’r Briw yn Borth gwirfoddolodd wyth unigolyn Du o Trinidad i gael tatŵ ar eu cyrff gan yr artist Gesiye. Anogodd y sgyrsiau a ddeilliodd o hynny iachâd unigol a chymunedol i fynd i’r afael â thrawma cenhedlaeth o gaethwasiaeth a’r ffordd mae’r trawma hwn wedi effeithio ar berthynas y boblogaeth Affricanaidd ar wasgar â’r tir. Mae'r gosodwaith yn cynnwys wyth portread ffotograffig, animeiddiad o'r tatŵs sy'n cysylltu'r cyfranogwyr â'i gilydd, a ffilm wedi'i lleisio gan Gesiye sy'n dilyn taith gorfforol a throsiadol yr artist o'r môr i ganol ynys Trinidad.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.
Manylion
Casgliadau
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.