Cwmni’r Coed
SEAR, Helen
Yn y ffilm hon, mae ffigwr mewn ffrog goch yn cerdded mewn cylchoedd o amgylch coed ffawydd sydd wedi’u rhifo’n barod i’w torri. Mae’r ffilm yn neidio yn ôl ac ymlaen rhwng tirlun newidiol y goedwig mewn rhythm cyson, hypnotig. Mae’r rhifau sydd wedi’u paentio ar y coed yn nodi fod y goedwig yn fan gwaith, sy’n cyferbynnu â naws hudol y dirwedd.
Lluniau llonydd o waith celf fideo yw’r rhain. Caiff ffilmiau celf eu creu gyda gofod neu brofiad penodol mewn golwg. Oherwydd hyn, ac oherwydd rhesymau hawlfraint, ni allwn ddangos y gwaith llawn ar-lein.
Mae'r wefan hon yn tynnu ar ddata casgliadau hŷn. Rydyn ni'n cydnabod y gall peth o'r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gwahaniaethu, ac yn gweithio i ddiweddaru ein cofnodion. Os oes gennych gwestiwn neu sylw ar ddarn o gelf, cysylltwch â ni.