Mae gwleidyddiaeth, protest ac ymgyrchu yn rhan annatod o’n cymdeithas, all ein huno a’n rhwygo ar wahân. Mae gan bob un ohonom farn am y byd o’n cwmpas a chanfod ffyrdd i ddathlu neu frwydro yn ei erbyn. Gall enwogion, digwyddiadau ddoe a heddiw, ymdeimlad o gyfiawnder a chydraddoldeb, a nifer o agweddau eraill ein bywydau, lywio’n barn a’n safbwynt.
O rannu barn a herio’r drefn, i godi ymwybyddiaeth a dylanwadu polisi, gall pawb gael effaith ar y byd o’n cwmpas. Gall barn gyhoeddus newid ac addasu gydag amser, felly pa rannau o gymdeithas heddiw fydd yn wahanol yn y dyfodol?
Mae’r detholiad hwn o weithiau celf yn edrych ar wleidyddiaeth, protest ac ymgyrchu drwy lygaid artistiaid cyfoes. Sut mae gwleidyddiaeth yn dylanwadu ar gelf, a sut all artistiaid ddefnyddio celf i brotestio a mynegi barn?
Edrychwch ar y detholiad isod; sut mae’r gweithiau celf hyn yn herio’n dealltwriaeth o’r byd o’n cwmpas?