Mae amrywiaeth o gyrff dynol o bob lliw a llun, ond wrth edrych ar y corff drwy gelf, sut ydyn ni’n ei ddehongli? O bortreadau i gerflunwaith, mae’r corff wedi ysbrydoli nifer fawr o artistiaid ym mhob cyfrwng.
Ers canol yr 20fed ganrif, mae artistiaid ac ymchwilwyr wedi herio sut mae celf orllewinol draddodiadol wedi portreadu ffigyrau benywaidd drwy lygaid dynion. Yn ystod y cyfnod hwn, aeth artistiaid ati i geisio heirio’r hen drefn a’r ystrydebau, y nodweddion a’r stigma sy’n gysylltiedig â gwahanol gyrff.
Mae’r corff yn parhau i ysbrydoli artistiaid cyfoes hyd heddiw wrth iddyn nhw drafod pob math o syniadau a chysyniadau yn ymwneud â’r corff, o rywioldeb a rhyw, i ethnigrwydd, gallu corfforol ac oedran.
Gall trafod ac edrych ar gelf sy’n ymwneud â’r corff fod yn brofiad anghyfforddus, grymusol, dadlennol, a llawer mwy. Ond all hyn hefyd ein gorfodi i ddod i ddeall ein hunain?
Gweithiau celf
Erthyglau
Melissa Munro, Uwch Curadur: Casgliad Derek Williams
12 Chwefror 2023