CYNFAS

Cindy Liz-Ikie
13 Hydref 2020

Crefft Afro

Cindy Liz-Ikie

13 Hydref 2020 | Minute read

Gwerthusiad

‘Defiance’

Artistiad: Herbert Ward

I ba raddau y llwyddodd Herbert Ward i gyfleu crefft steil gwallt afro?

Mae gwead gwallt pobol o dras Affricanaidd yn ddiamau’n gyrliog. Heddiw caiff gwallt affro ei gamddeall a’i gambortreadu, ac yn yr achosion gwaethaf mae’n arwain at anffafriaeth hiliol. Mae gwallt afro hefdy dan y lach yn y gweithle, ac yn cael ei ystyried a’i alw yn ‘amhroffesiynol’. Gallai defnyddio celf i chwalu’r ddelwedd hon helpu i’r cyhoedd i ddeall bod gwallt a steil affro wastad yn fodd gweledol o fynegiant artistig i bobl o dras Affricanaidd. Drwy werthuso rhai gweithiau penodol gan gerflunydd gwyn o Brydain, gallwn sbarduno trafodaeth amserol am wallt afro mewn celf, a pherthynas gweithiau o’r fath â chymdeithas heddiw.

Gwrthrychu pobl Ddu yw diben gweithiau Herbert Ward, ac anaml y bydd person Du yn mynd i’r afael â’r her o ymateb yn oddrychol i waith artist hynod hiliol. Prin yw’r rhai fyddai wedi ystyried effaith gwaith o’r fath ar bobl Ddu, gwaith sy’n eu portreadu’n agored fel ‘barbariaid’. Mae Braint Gwyn yn bendant yn drawst llygaid sy’n dallu ymwybyddiaeth pobl.

‘The idol maker’

: Artistiad: Herbert Ward

Ar ddiwrnod cynnes braf o Fedi cefais y fraint o weld Head - An Aruwimi Type, The Idol Maker a Defiance sydd yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Roedd dau o’r gweithiau wedi’u gosod gyda gofal mewn gofod gwyn, mawreddog. Mae’n brofiad anghyfforddus gweld y casgliad hwn o weithiau cymaint o wahanol artistiaid ochr yn ochr, yn y siambr glaerwyn hon gyda naws acwstig sy’n rhoi awch i chi daro nodyn fel cloch i’r entrychion o’ch dyddiau fel bachgen soprano (y gân Amazing Grace yn benodol). Mae’r cyferbyniad cras yn hoelio eich llygaid ar y ffigurau yn eu du dywyll a’u brown daearol, wedi’u codi ar bileru a’u cuddio dan orchuddion gwyn. Mae’r hyn a gynlluniwyd mwy na thebyg fel gofod plaen i helpu’r gynulleidfa ganolbwyntio ar y gweithiau mewn gwirionedd yn ymwneud â gweithiau Herbert Ward mewn modd teimladwy a symbolaidd. Siambr eco o Bersbectif Gwyn. Gellir dadlau taw adlewyrchiad o gymdeithas heddiw yw hyn yn hytrach na’r artist ei hun, sy’n cael ei ddyrchafu am arddangos ei weithiau mewn arddangosfeydd oedd yn cyflwyno casgliadau yn ymwneud ag Affrica mewn cyd-destun.

Roedd gweld Head – An Aruwimi Type, penddelw efydd ar waelod pren, yn fwy o wrthdaro na chyfarfyddiad goddefol. Yn ofalus, fe symuedais yn nes, yn amau’r niwed y gallai’r darn ei daflu’n ddirybudd drwy’r awyr. Pa nodweddion neu ddiffyg manylion fyddai’n cyfleu agweddau hiliol goddefol yr oes a’i cynhyrchodd? Fyddwn i’n sydyn yn beichio crio wrth edrych? Arhosais. A theimlo dim ond chwilfrydedd. Mae’n hynod sut y dengys hyn chwilfrydedd diamau Herbert Ward, a’i gynulledifa Brydeinig, â nodweddion yr wynebau Du a gyfarfu ar ei ‘anturiaethau’ a sut oedd wynebau’r hil is hon yn wahanol. Ond wrth i mi edrych, mae fy mhrofiad o fyw fel person yn Du yn fy rhyddhau rhag rhythu fel y byddent hwy, a gallaf edmygu’r grefft.

Mae’r penddelw yn sicr yn un o’r gweithiau celf mwyaf esthetig i mi ei weld hyd yn hyn. Yn ei arwyneb efydd, llyfn gwelwn stori hynod yr artist chwilfrydig yn gweld cenedl. Ond dan y croen gwelwn grefft wedi’i meistroli, gwaith cerflunydd a werthodd ei dalent gan na all y gwaith bellach gyfiawnhau trem yr artist. Byddai Ward wedi gwneud yn well i adrodd hanes ei anturio heb gyfleu trigolion y Congo drwy gyfrwng pen un model Du. Byddai’r pen felly yn sefyll ar wahân i’r delfryd Ewropeaidd o brydferthwch ac felly yn dal yn driw. Yn hytrach, mae’n glynu at y celwydd bod pobl Ddu yn unfath, a bod delw o un person yn ymgnawdoliad o ysbryd Affrica gyfan.

‘Head – An Aruwimi type’ Artist: Herbert Ward Artistiad: Herbert Ward

Yn ddiddorol iawn mae’r pen yn gwisgo’i wallt mewn dwy blethen, gyda dwy blethen amlwg o boptu’r pen ac un arall yn rhwdeg ar draws y talcen. Yn fy marn i mae wedi’i gyfleu’n dda iawn. Er nad oedd gen i chwyddwydr, toedd yn bleser gweld bod Ward wedi llwyddo i gyfleu llawnder gwallt Affricanaidd sydd wedi’i gywasgu yn y fath fodd. Er yn ddiarwybod, mae wedi cyfleu mawredd yr affro a’i allu i ymgorffori urddas llwyr. Mae’n eofn, yn diffinio a fframio’r wyneb, ac yn goron llythrennol i’r pen. Tua’r cefn, mae cyrls bach, tynn iawn yn cael eu dylunio fel papwla bregus. Ond nid yw’n gwbl llwyddiannus gan nad yw patrwm rhesog syth yn cyfleu’r cwrls yn driw. Welwn ni ddim arlliw o’r sbonc sydd yn y cwrl affro, ac mae’r gwaith yn methu â chyfleu elfen mor greiddiol er bod y deunydd yn amlwg yn addas ac yn ysbrydoli’r artist. Maewn byd arall efallai bod Ward wedi cymryd y cam ychwanegol hwnnw a chreu campwaith wirioneddol, gan gyfleu’r rhwydwaith trwchus o glymau gwallt sy’n cloi a chydblethu gan ddyrchafu’r siâp a’r cyfanwaith. Canlyniad y methiant i herio’r perspectif gwyn yw’r gwaith siomedg hwn, a methiant i fanteisio’n llawn ar celfyddyd yr afro.

Yn yr un modd, mae The Idol Maker yn drwm gan oruchafiaeth wyn. Mae celf pobl y Congo, eu cerfio pren, yn cael ei alw’n gyntefig, ac felly yn noethni arwrol amlwg The Idol Maker ceir paradocs sy’n ein herio. Fel gyda Head - An Aruwimi Type mae Herbert Ward yn bychanu ac yn dyrchafu pobl y Congo ar yr un pryd. Yn y grwpiau cyhyrau clir gallwn weld bod y person hwn yn gryf ac iach, ond mae canolbwyntio dwys yr wyneb yn gwneud i ni ystyried â yw’r crefftwr hwn yn ddall? Yw’r dallineb hwn yn cyfleu cred pobl wyn y cyfnod na allai cerfwyr y Congo ddirnad y naid o drin pren ‘gwyllt’ at drin metelau soffistigedig. Mae’r garreg sy’n glustog i’r crefftwr wedi’i darlunio’n hynod fanwl, a gallaf dystio pa mor hir y byddwch yn ei chwilio am arlliw o ailadrodd. Sut felly, mewn gwaith sydd wedi cymryd cymaint o ofal ac sy’n gallu ennyn y fath fyfyrio, mae gwallt y gŵr wedi’i anghofio? Datblygir gwerthfawrogiad o’r gwallt afro drwy oes o brofiad, ac ni ellir cyfleu cydberthynas ganghennog y gwallt garw drwy batrymau ailadroddus.

‘Defiance’

Artistiad: Herbert Ward

Er gwaetha’i faint mae Defiance yn waith tanllyd, a gellir ystyried ei faint pitw yn adlewyrchiad o’r persbectif gwyn o emosiwn pobl Ddu. Teimlaf y byddai gwaith o’r fath yn cael yr effaith mwyaf yn llawn maint, ac ni ddylai gael ei gyfleu ar raddfa lai, boed hynny’n haws ei gynhyrchu neu beidio. Ysbrydolwyd y weledigaeth hon gan Gewri Affrica ddaeth o’m blaen, a byddai gweld y gwaith hwn yn llawn maint yn gipolwg gwell ar ddiwylliant a threftadaeth Affrica. Disgrifiwyd y darn fel ‘ymladdwr cyntefig’ sy’n belen o ymladdgarwch yn barod mewn ennyd am frwydr i farwolaeth. Dywedir i Dr W. H. Holmes ddatgan; ‘Bod y cerflun hynod hwn yn dangos y dyn anwar heb ei ryddhau eto rhag cysgod y gwyllt.’ Mae’n ddiraddiad brawychus o ymladdwyr Affrica, a’r diffyg beirniadaeth artistig yn cael ei gyfiawnhau gan ei fod yn ailadrodd y cysyniad o’r Affrica anwar. Gwelir yma'r ysbryd yr honnwyd bod Herbert Ward yn ceisio’i gyfleu, yn codi yn wyneb gormes i fuddugoliaeth â grym annynol. Ac wrth i ni sefyll o’i flaen yn rhythu nid oes her i’r safbwynt hwn, gyda’r olwg ar wyneb Affrica yn cyfleu dirmyg llwyr tuag at y tramgwyddwr.

Y gwallt yn y gwaith hwn yw’r mwyaf cywir o’r tri yn fy marn i. Drwy fod yn driw i ffurf yr afro mae Defiance yn cyrraedd yr estheteg a anelir ato wrth greu celfyddyd gain. Gan gofi mewn mannau a disgyn mewn eraill, mae’r gwallt hwn yn anystywallt, yn ymddangos yn drwchus ac yn perthyn i’r person ac yn tyfu gydag ef. Mae’r arddull yn wahanol i’w waith arferol, ac rwy’n dychmygu i emosiwn a grym ysbryd y ffigwr y brwydrodd Ward i’w gyfleu wedi ei gofleidio a’i gymell i gyflawni neu fethu. Teimlaf taw Defiance yw’r gwaith mwyaf cyflawn yn artistig, ac mae’n fy nghyffwrdd yn ddwfn. Mae’n gyflawn am ei fod yn onest. Er taw cip ydyw, o’r diwedd cawn olwg elfennol ar y r afro. Dylai artistiaid y dyfodol gofio cymaint o ofal a gymerwyd yma i gyfleu cymeriad gwallt afro, gan ei herio i’w bortreadu er gwaethaf eu rhagfarn eu hunain.

Crefft Afro

I cloi, i droi, i nyddu
I nyddu, i droi, i cloi
Cryf, bregus, rhedyn
I cloi, i droi, i nyddu

Tonnau dyfnion, coron y brenhinau
Urddas uwchben tyriau
Yn herio disgyrchiant
Cryfder wedi ei ddadorchuddio

Gwau sidan, pryfed cop
Creu ofni, brwydrwr
Titan, hyderus, enfawr
Gwallt cawr Affricanaidd

Gwrandewch

Share


More like this