Datganiad gan Rithika Pandey
Bywgraffiad Artist
Artist gweledol cyfoes o Mumbai, India yw Rithika Pandey sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y DU. Yn ei phractis celf amlgyfrwng mae’n trafod swrrealaeth dadleoli yn ein cymhlethdodau cymdeithasol-dechnolegol cyfoes, a’r anghytgord a brofwn o’r herwydd yn barhaus ar ffiniau bregus ein iechyd meddwl a’n profiadau.
Drwy gyfrwng paentio, collage, gosodwaith a rhyddiaith mae’n ceisio cyfleu proses ymgnawdoli unigryw archdeipiau a deunydd yr isymwybod a’i effaith ar ddynameg y corff a’r gofod o’i gwmpas. Drwy ddysgu a dad-ddysgu mae’n adeiladu tirlun naratif sy’n ceisio torri cwys drwy ofnau hanesyddol a chyndeidiol tra’n gosod ei hun yn y real a’r argyfyngus.
Ysbrydoliaeth
Ysbrydolwyd y gwaith gan ethos ac ystyr llythrennol Celf Ar Y Cyd. Yr hyn yr oeddwn am ei gyfleu drwy’r dyluniad oedd y syniad o drafod a rhannu dealltwriaeth a gwendidau o brofiadau telynegol sy’n ein tynnu’n naturiol ynghyd. Mae’r cymeriadau â’u pennau blodau yn cynrychioli blaguro cydwybod a’r cyswllt rhyngddynt.
Datganiad Gan Mark Gubb
Pan welais i’r alwad am artist neu ddylunydd i greu brand ar gyfer Celf ar y Cyd, yr hyn ddaeth i gof oedd project a weithiais arno gyda Nottingham Contemporary, ar achlysur eu lansiad yn 2009. Syniad y cyfarwyddwr Alex Farquharson, ar y cyd â’r dylunydd Sara De Bondt, oedd comisiynu sawl logo ar gyfer y sefydliad newydd gan nifer o artistiaid cyfoes, ac fe ddewiswyd defnyddio pymtheg i gyd. Y bwriad oedd trin brandio’r sefydliad fel y byddent yn curadu arddangosfa grŵp. Cefais fy nharo erioed gan ddychymyg a democratiaeth greadigol y penderfyniad hwn gydag elfen mor bwysig o hunaniaeth y sefydliad. Mewn byd pan fo delwedd weledol a brandio yn ben, roedd dilyn cyfeiriad mor hyblyg a heriol wrth greu hunaniaeth weledol yn benderfyniad mentrus, hael a cyffrous.
Roedd dilyn cyfeiriad tebyg gyda Celf ar y Cyd yn teimlo fel ymgnawdoliad perffaith o ysbryd y project. Yn ogystal â chreu hunaniaeth weledol hyblyg a dynamig, byddai’n cyfleu’r syniad craidd o gysylltu â chynulleidfa mor eang â phosibl. Dyma fi’n cyflwyno’r syniad, gan gydnabod ei darddiad, a chan holi’r cwestiwn, ‘Pam rhoi cyfle mor fawr i un artist pan allai gael ei rannu rhwng nifer?’
Ers blynyddoedd mae’r syniad hwn o gyfnewid a chydweithio yn rhywbeth sydd wedi fy nghyffroi fwyfwy yn fy ngwaith fy hun. Byddaf yn aml yn canfod fy hun fel artist - wrth ymchwilio neu greu - yn dechrau sgyrsiau hir â phobl ar y pwnc neu’r dull o weithio, sy’n cyfrannu cymaint at y gwaith ag y byddaf i’n ei gyfrannu fy hun. Byddaf weithiau yn gwahodd pobl yn agored i gyfrannu at broses, neu wneuthuriad y gwaith, nes iddynt ddod yn rhan annatod ohono - boed yn ddrymiwr metel trwm, paentiwr cerbydau ffair, neu un o drigolion Cartref Cŵn a Chathod Battersea. Pan fyddaf yn trafod fy ngwaith yn ddiweddarach, byddaf yn aml yn siarad mwy am y berthynas hon a dynamig y cydweithio na’r gwaith ei hun. Mae’n rhaid i mi gydnabod na fyddwn ni yma heddiw heb gyfraniad y bobl hynny, heb y profiadau a rannwyd a’r berthynas a ddatblygodd; mae’r rhain yn rhoi llawer mwy o foddhad nag unrhyw beth sy’n cael ei greu yn unigol.
Dyma’r union gyfeiriad a gymerwyd wrth greu hunaniaeth weledol Celf ar y Cyd, ac fe gomisiynwyd deg artist o bob cwr o Gymru. Byddai wedi bod yn hawdd i ni droi at y run hen enwau cyfarwydd (mae’r byd celf yn llawn enwau cyfarwydd, a minnau yn un ohonyn nhw yn yr achos hwn efallai) ond roeddem am wneud yn siŵr ein bod ni’n cynnwys enwau o bob cornel o’r byd celfyddydol yng Nghymru. Dyma ni felly yn gofyn i rwydweithiau a sefydliadau ar draws y wlad i gynnig enwau artistiaid fyddai’n medru ymgymryd â’r dasg hon fel estyniad o’u gwaith. Gwnaethom ein gorau i bwysleisio nad comisiwn dylunio graffeg oedd hwn, ond ein bod am iddynt i logo dyfu o’u harddull naturiol. Drwy hyn dyma ni’n sicrhau amrywiaeth cyffrous o arddulliau a syniadau oedd yn gymaint o gynrychioliad o’r artistiaid â menter Celf ar y Cyd ei hun.
Chawson ni mo’n siomi, ac fe dderbyniwyd amrywiaeth wych o syniadau ac ymatebion, pob un mor unigryw â’r artistiaid ei hunain. Yn unol â’r briff gwreiddiol, bydd pob un yn cael eu defnyddio fel rhan o raglen Celf ar y Cyd - mewn print, ar-lein, ar ddefnydd marchnata a nwyddau, cardiau busnes a llythyrnodau - lle bynnag fo galw am ddangosydd gweledol o’r project, bydd un o’r logos yn cael ei ddefnyddio. O safbwynt personol, roedd yn bleser cael cyfrannu at y broses, yn enwedig er mwyn creu rhywbeth oedd yn cyfleu naws y project yn ei gyfanwaith.
Artist sy’n byw yng Nghaerdydd yw S Mark Gubb
www.smarkgubb.com