Ar yr olwg gyntaf mae’r cerflun o’r glöwr, Bryn, yn ein taro’n rhyfedd. Nid yw gwisg draddodiadol y glöwr Cymreig, gyda’i gaib a’i ganeri mewn caetsh, yn gweddu rywsut i’r crys-t pync a’r hances polka. Ond pam lai? Lluniwyd y cerflun gan fam ymgyrchydd LGSM ar adeg darlledu Pride, gwledd weledol Mathew Warchus drwy BBC Films, a’i rhoi i Amgueddfa Cymru y flwyddyn ganlynol. Mae Bryn yn symbol o’r gynghrair anghebygol rhwng dau ddiwylliant, hanes a lle fyddech chi’n disgwyl eu gweld benben. Eu gwaddol i’r dyfodol yw cadarnhau bod potensial queer ynghydd ymhobman, a’r gorwel yn fyrdd o bosibiliadau. Protest arall a symudodd i’r gofod potensial cudd hwn yn enw bywyd a rhyddid oedd Terfysg Beca a arweiniodd filoedd o groeswisgwyr o bob cwr o Gymru mewn gwrthryfel yn erbyn tlodi’r werin. Dyma ddwy garreg filltir o nifer yn hanes Cymru sy’n plethu a chydblethu yn fap o fywydau a theimladau queer sy’n creu posibiliadau i’r dyfodol ac yn ehangu dychymyg pawb, yn syth neu queer, ddoe neu heddiw. Nid yw’r digwyddiadau yma’n angof llwyr – maen nhw’n ymdroi ac yn fodd i ddod i ddeall a gwerthfawrogi pobl a llefydd eraill.
Gall wig fod yn guddwisg gyfleus i weithredu’n ddirgel a gwarchod un ar ffo, fel y bydd gwisgo bathodyn neu hances yn arwydd cynnil o anghydffurfiaeth. Gall symbolau o’r fath ein denu y tu hwnt i ddealltwriaeth arwynebol o fodolaeth queer at berspectif queer sydd heb ei wreiddio mewn unrhyw hunaniaeth benodol. Yn hytrach na bod bodolaeth neu rywbeth queer yn tarfu ar le, beth sy’n digwydd os ydyn ni’n derbyn bodolaeth y queer? Rhywbeth tu hwnt i’r norm yw bodolaeth queer neu, yn hytrach, tu hwnt i’r syniad o norm sy’n rhwsytr i fodolaeth a pherthyn. Nid ffocws penodol yw diben bodolaeth queer, ond bwriadoldeb a rhychwant symudiad. Mae’n caniatau perthnasau dirifedi rhwng pethau, gyda’r nod o leddfu dieithrio a tharfu ar yr arwynebol. Mae cynnal bodolaeth queer yn golygu ymwneud yn barhaus â ffenomena gwleidyddol a chymdeithasegol; rhaid i ni ddangos sut yr ydym am gael ein gweld ac am gael ein caru. Mae cynrychiolaeth fel siwgr – mae’n blasu’n wych ac yn ein cysuro, ond hefyd yn gaethiwus ac yn tynnu sylw. Mae rhyddid yn cydnabod hawl yr anodd, tywyll, od, rhyfedd i aros, a bodoli tu hwnt i label. Gall yr awydd i ‘basio’ a ffitio fod yn greulon pan nad ydych chi’n uniaethu’n llawn gyda’r hyn rydych chi’n ‘pasio’ amdano, yn enwedig pan fod bodolaeth queer yn cael cadarnhad nad yw’n ffitio, a’i fod allan o le ym mhobman. Ymholiad narratif anuniongyrchol i fodolaeth queer yw’r testun hwn. Mae’n cydnabod amryw amrywiadau, yn croesawu croesddweud, ac yn annog cwestiynau.
Torri/lawr. Bydd ymdrechion i ddiffinio bodolaeth queer yn tueddu i fod yn unigol. Efallai ei bod yn haws meddwl am queer fel rhywbeth unigol, fel odrif, heb linach na chynefin. O hyn ymlaen daw Bryn yr enw yn fynydd a llethr – yn rhagenw torfol, yn bresenoldeb ymledol wedi ei rannu, wedi’i wreiddio ac yn tarddio o gâr iaith lle. Yn y nawr hwn, tarfu diwylliannol yw’r norm ac mae mwy i bopeth na’r olwg gyntaf. Os ydyn ni’n dod yn anweledig i gyd-fynd, neu’n dod yn hynod weladwy i greu gwrthgyferbyniad amlwg, beth yw cynefin queer? Sut allwn ni gael agosatrwydd at le?
Tyrd at berthyn fel at ddawns araf, gyda dwys ofal ac ymroddiad, bydd yn well wrth wrando, a gwybod y bydd weithiau’n brifo…
Aros/Mynd. Os fyddwch chi wedi cael llond bol o dirlun tawel a heddwch cefn gwlad, ewch i Fynydd Parys am bicnic gyda’r machlud – mae’r lle ymhell o fod yn dirlun gwledig delfrydol. Yn holltau’r ddaear agored mae mae gwawr amryliw fetelau craidd, heb symud ond adwaith y nwyon yn byrlymu yn y pyllau, a dim arlliw o fywyd ond am rywogaethau planhigion a bacteria prin. Ty’r cyffredin yr anghyffredin yw hwn. Drwy agor cil llygad yma gwelir bonllef o arlliwiau a phlygiadau golau, a drwy’r ffocws meddal cewch weld mewn gronynnau a gwead. Mae dringo Bryn ar ôl Bryn o raean ocsidiedig a gweld pantiau di-ri wedi hindreulio ym mhob cyfuniad o goch, oren, melyn, gwyrdd, glas, yn ddawns ddryslyd. Codwn y cerrig am gellwair gweledol, eu trefnu fesul arlliw, a gweld sawl lliw a geir ym mhob craig? Sawl proses a luniodd yr enaid hynafol hwn wrth iddo ddod i fodolaeth? Mae’r mynydd rhyfedd hwn yn diferu o ych-a-fi, halogi a cholli, achos ac effaith a sarhad echdynnu – ond mae hefyd yn diferu o hud a lledrith, empathi a gofal. Roedd ymateb cyflym y Parys Mine Company yn bathu ceiniog eu hunain i wneud yn siŵr y byddai gweithwyr yn cael eu talu yn ystod prinder arian yn esiampl o ofal; a meithrin microsgopig hirdymor y lliwiau llifeiriol all gael eu gweld o loerennau’n y gofod yn lledrith. Pwy yw’r tywyswyr sy’n ein harwain drwy ein hymwybod a’n hansicrwydd, i’r gofod o ddad-wneud synnwyr? Ffatri yw’r isymwybod, nid theatr. ‘Mae hiraeth yn y môr ac yn y mynydd hir’ ac efallai hefyd yn hud ac adfeilion treftadaeth ddiwydiannol Cymru, temlai i echdynnu ar wasgar ar y cyrion ac yn cuddio yn y cyffredin, ym Môn mam Cymru yn y Gogledd i galon dawel maes glo Cymoedd y De.
Fan hyn/Fan draw. Wedi i’r Ddaear droi’n belen eira am y pumed tro (y tro diwethaf), ciliodd yr iâ a blagurodd cynefin coediog trofannol oedd yn ymestyn ar ei eithaf o’r Alban i Bortiwgal. Mae Ceunant Llennyrch yn ddarn o goetir derw Iwerydd ym Meirionnydd sy’n fôr o rywogaethau cen, mwsog a llysiau’r afu prin, ystlumod trwyn pedol, cigfrain, dippers a dyfrgwn. Mae’r ceunant hwn a’i ganopi coediog di-dor dros 11,000 o flynyddoedd yn gynefin ar y cyrion, yn grair o organ ers cyn cof a oroesodd ddiwydiannau coedwigo a llechi lleol, ac atgof fod datguddiad wedi digwydd droeon â thro. Wrth grwydro dros drothwy coetir, torlan, rhos, dôl a chilfachau carregog cennog mor glyd eich bod chi am roi cwtsh iddyn nhw, mae’n amlwg bod syth yn gysyniad; does dim yn y byd hynafol hwn yn hollol syth, mae’r ffiniau’n niwlog a’r ymylon yn cydblethu, cyfnewid, newid. Dim, nes bod llinell llorweddol llwyd yn tarfu ar y llun: y ffin / y bont / yr argae sy’n dal yn ôl lan ddwyreiniol Llyn Trawsfynydd. Rhywbeth sydd rhwng, rhywbeth ymhell tu hwnt a’r tu ôl iddi, wal o ddŵr llwyd, dwfn, garw. Wrth feddwl fel pysgodyn nant fynyddig wedi’i boddi a’i throi yn llyn oeri i bŵer niwclear, sy’n byw mewn amser hylifol, yw newid yn teimlo’n araf, yn gynyddol, yn ailadroddol? Cyfres o gamau concrid? Llif sydyn? Trobwll anochel? Llinell artiffisial ar draws seicoddaearyddiaeth tirlun cymhleth. Brin filltir i ffwrdd mae brwtaliaeth yr orsaf bŵer, ond wrth gefnu ar yr argae i’r de-orllewin yn unig mae i’w gweld; ei phetryalau geometrig ynghudd tu hwnt i’r Bryn.
Mae tiwnio i arlliwiau’r tirwedd ffisegol a pherthnasol yn galw am gyweirio i’r modd y mae popeth yn amnewid a threiglo, ymateb ac ymaddasu. Mae pobl fel Bryn y glöwr yn bobl rhiwiau, cymoedd, arfordiroedd a mynyddoedd Cymru; cenedlaethau ar genedlaethau o eneidiau gwleidyddol danbaid, llawn cariad at eu gwaith a’u gwlad yn rhugl mewn hen wehelyth iaith danddaearol. Liw nos, yn y gofod llawn lle daw pethau i fod. Daw siâp amser yn amlwg yno, yn y tir, yn y gofod-amser daearegol, lle gallwn gwrdd ag an-iaethu sy’n ein harwain i uniaethu, a llunio’r byd yn ei dro. Gall pobl Bryn weld mewn du a gwyn a’r gweddill mewn lliw yn unig. Mae caethiwed mewn caeau hefyd, a drysau i bob cyfeiriad. Daw awr pan fo geiriau’n fud a natur yn medru siarad.
(Mae Bryn y glöwr yn dal yma, yn un llais ymhlith nifer yng nghasgliad LHDT Amgueddfa Cymru yn ein gwahodd i roi llwyfan i wneud synnwyr o’r queer. Palwch mewn!)
Mae fin Jordão (nhw) yn fiolegydd creadigol yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen, cyn-chwarel ger Machynlleth.