Mary Lloyd Jones: Haenau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae Mary Lloyd Jones yn un o artistiaid pwysicaf Cymru. Ganed hi ym 1934 ym Mhontarfynach a hyfforddwyd hi yng Ngholeg Celf Caerdydd. Mae wedi bod yn arddangos ei gwaith ers y 1960au, gan ymladd ei ffordd at fod un o ffigyrau mwyaf dylanwadol celf weledol Cymru. Dros y blynyddoedd, mae ei gwaith wedi mynd â hi i bedwar ban byd, ond yn ôl at dirweddau Ceredigion y daw am ei hysbrydoliaeth pennaf.
Drwy ddefnydd beiddgar o liw a haenau o farciau amrywiol, mae Mary yn creu iaith weledol unigryw sy’n uno’r personol â’r hanesyddol. Mae ei gwaith yn symud rhwng paentio a thecstilau, lle mae’r broses o drin defnydd yn rhan annatod o’r ystyr. Daw’r marciau sy’n britho’i chynfasau mawr o ffynonellau amrywiol - o gerfiadau cynhanesyddol i systemau iaith - gan adlewyrchu’r ffordd y mae pobl wedi ceisio cofnodi a dehongli eu byd.
JONES, Mary Lloyd, Iaith Cofio © Mary Lloyd Jones / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
JONES, Mary Lloyd, Red Yantra © Mary Lloyd Jones / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
JONES, Mary Lloyd, Cwm Rheidiol © Mary Lloyd Jones / Llyfrgell Genedlaethol Cymru - The National Library of Wales
Mae Mary Lloyd Jones: Haenau yn ddathliad o fywyd a gwaith Mary. Wedi’i seilio ar yrfa o dros chwe degawd ac archif helaeth a roddwyd i’r Llyfrgell yn ddiweddar, mae’r arddangosfa’n archwilio’r themâu sydd wedi siapio ei gwaith: y tir, iaith, olion hanesyddol a hunaniaeth.
Dyma’ch gwahodd i olrhain esblygiad ei gwaith ac i ddathlu oes o greadigrwydd llawn lliw.
Mae uchafbwyntiau’r arddangosfa yn cynnwys gweithiau geometrig cynnar, tecstiliau arbrofol, archif bersonol Mary, a’r tirluniau haniaethol, lliwgar y mae’n fwyaf andabyddus amdanynt.
Gellir gweld Mary Lloyd Jones: Haenau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 25 Gorffennaf 2026 - 10 Ebrill 2027. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.